Archif Newyddion: Awst 2017

Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia

Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio £1.4 biliwn y flwyddyn.  Y ganran uchaf o’r gost yw’r gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a’r risg y bydd gofalwyr yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig.

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw cynyddu’r gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017

Wystrys yw eu byd- ac maent esio i chwi eu bwyta

Mae arbenigwyr mewn dyframaethu ym Mhrifysgol Bangor yn gobeithio gwneud newid sylfaenol yn y ffordd mae wystrys yn cael eu hystyried a’u bwyta, yn dilyn Symposiwm rhyngwladol ar Wystrys a gynhelir yn y brifysgol (11-14 Medi). Maent yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn annog cynnydd cyflym, ond cynaliadwy, mewn cynhyrchu wystrys, ac i fwy ohonom eu mwynhau gartref ac mewn barrau wystrys yng Nghymru a mannau eraill.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017

Datblygu paciau cefn bychain i wenyn

Mae project newydd cyffrous i ddatblygu ffordd newydd i ddilyn gwenyn drwy’r tirlun yn datblygu’n dda yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Mae ecolegydd ac arbenigwr mewn microsystemau yn cydweithio i ddatblygu paciau cefn bychain i wenyn a fydd yn galluogi drônau bach i’w dilyn fel yr hedant o blanhigyn i blanhigyn

Bydd hyn yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am le mae’r gwenyn yn casglu neithdar a beth all fod yn effeithio ar eu niferoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2017

Forget Jon Snow, watch the young women to find out how Game of Thrones ends

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Raluca Radulescu o'r Ysgol  Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

 

This article by Raluca Radulescu, Professor of Medieval Literature and English Literature, Bangor University was originally published on The Conversation. Read the original article

Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2017

Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Rhif 6

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi y bydd staff academaidd a myfyrwyr o'r Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Gŵyl Rhif 6 yn 6 oed eleni. Mae’r ŵyl yn wledd o gerddoriaeth, celfyddydau, diwylliant a gastronomeg a gynhelir dros benwythnos 7-10 Medi ym mhentref hudolus Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth, cartref y gyfres deledu gwlt The Prisoner. Rhai o'r prif berfformwyr yn yr ŵyl eleni fydd Bloc Party, The Flaming Lips, a Mogwai, ynghyd â sgyrsiau arbennig gan Irvine Welsh a Maxine Peake.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Safleoedd tirlenwi : llawer mwy na llwyth o sbwriel

Mae safleoedd tirlenwi'n llawer mwy na llwyth o sbwriel - oherwydd dylid eu hystyried yn un o'r prif adnoddau wrth chwilio am ensymau newydd i fiotechnoleg. Yn wir, gallant arwain at gynhyrchu biodanwydd mwy effeithlon.

Mewn papur ymchwil newydd yn mSphere ( DOI:  10.1128/mSphere.00300-17) mae biolegwyr o brifysgolion Bangor a Lerpwl wedi adnabod am y tro cyntaf yr ensymau sy'n diraddio deunyddiau naturiol megis papur a dillad mewn safleoedd tirlenwi. 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Dathlu Gwaith Merched mewn Cerddoriaeth

Bydd dau gyngerdd clasurol yng Nghanolfan Pontio Prifysgol Bangor yn uchafbwynt i'r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth (4 – 7 Medi) sy'n dathlu cyraeddiadau cerddorion benywaidd. Amserwyd y Gynhadledd i gyd-daro â chofio 40 mlynedd ers marwolaeth y gyfansoddwraig Grace Williams (1906-77), un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymreig yr ugeinfed ganrif i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol.

Bydd y ddau gyngerdd ar ddydd Llun 4 Medi yn Neuadd Powis am 5.45pm a nos Fercher 6 Medi yn Theatr Bryn Terfel Pontio am 7.30pm yn cynnwys cerddoriaeth Grace Williams, yn ogystal â pherfformiadau cyntaf o ddarnau gan y cyfansoddwyr blaenllaw o Brydain, Nicola LeFanu ac Eleanor Alberga.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2017

Gwaith gan gemegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gam tuag at ddatblygu technoleg i achub bywydau

Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu canlyniadau project ymchwil a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dod â diagnosis cyflym a hawdd o'r diciâu (TB) gam yn nes. 

Mae'r diciâu yn un o glefydau mwyaf marwol y byd. Dim ond dwy flynedd yn ôl, heintiwyd 10.4 miliwn o bobl ledled y byd â'r diciâu a chafwyd 1.8 miliwn o farwolaethau cysylltiedig â'r diciâu. Yn 2015, roedd 35% o'r marwolaethau o ganlyniad i HIV oherwydd cyd-heintiad â'r diciâu.

Mae cemegwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn gweithio i ddatblygu citiau diagnosis cyflym a hawdd a all roi canlyniad ar unwaith (ar hyn o bryd anfonir samplau o waed i labordy, sy'n broses lawer rhy hir).

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017

Independent music labels are creating their own streaming services to give artists a fair deal

Dyma erthygl yn Saesneg gan Steffan THomas o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017

Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle - Map magnetig telorion cyrs

Bydd pob un ohonom yn rhyfeddu at y mamaliaid, yr adar a'r pryfed sy'n mudo ymhell ac at eu gallu cynhenid i gyrraedd pen eu taith filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall yr holl fecanweithiau sydd ynghlwm â hyn. Bellach, mae un grŵp o wyddonwyr yn credu eu bod wedi canfod un system sy'n cael ei defnyddio gan rai adar sy'n mudo, ac mae'n datgelu map diddorol o'r byd y byddai sawl un ohonom yn rhyfeddu ato.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2017

Hanner canrif ers Sgt Pepper ac ymweliad y Beatles â Bangor

Mae’n hanner canrif ers i Sgt Pepper ddysgu ei fand i chwarae, gyda rhyddhad albwm, Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band; sydd yn aml wedi ei ddisgrifio fel yr ‘albwm cysyniadol’ o bwys cyntaf, ac a ystyrir yn gyffredinol fel un a dorrodd gŵys newydd. Gellir dadlau iddo hefyd cael ei ystyried yn un o’r ‘adegau’ yna a newidiodd ffurf newydd ar gelfyddyd (ac efallai a esgorodd ar hynny).  

Mae hefyd yn hanner canrif (25-27 Awst 1967) ers i’r Beatles ymweld â Bangor, ymweliad a brofodd i fod yn drobwynt yn hanes y grŵp.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2017

Yr Athro Cross yn ymuno â rhestr ddisglair o enillwyr y wobr Award Lecture

Mae'r Athro Emily S. Cross o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi ei henwi fel un o enillwyr y gwobrau clodwiw Award Lectures a gynhelir gan Gymdeithas Gwyddoniaeth Prydain (BSA) fel  rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Prydain 2017. 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2017

Llongddrylliadau hanesyddol i gyfrannu at ddyfodol ynni adnewyddadwy morol Cymru

Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, fel llongddrylliad y llong danfor Almaenig a suddodd 10 milltir oddi ar Ynys Enlli ar ddiwrnod Nadolig 1917, yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject SEACAMS2 a gyllidir gan yr ERDF ac a arweinir gan y brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2017

Yr Athro Johnson yn ennill gwobr darlith wobrwyol bwysig

Mae'r Athro Barrie Johnson o Goleg y Gwyddorau Naturiol yn ymuno â rhestr glodwiw o wyddonwyr byd-enwog a wahoddwyd i gyflwyno Darlith HallimondCymdeithas Fwynegol y DU.

Yr Athro Johnson yw'r unig academydd o Gymru i gyflwyno'r ddarlith yn y 46 mlynedd ers ei sefydlu, a chafod ei enwebu a'i ddewis gan banel ar gyfer yr anrhydedd. Cyhoeddir ei ddarlith yng nghyfnodolyn y gymdeithas maes o law.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2017

Welsh language media could hold the solution to Wales’s democratic deficit

Dyma erthygl yn Saesneg gan Ifan Morgan Jones, Darlithyd mewn Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2017

Emma Chappell yw Dysgwr y Flwyddyn

Testun llawenydd mawr oedd clywed fod Emma Chappell a fynychodd gyrsiau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor ac yn gweithio yn y Brifysgol yn Y Ganolfan Rheolaeth, wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2017

Forest conservation approaches must recognise the rights of local people

Dyma erthygl yn Saesneg gan Neal Hockley o'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a daearyddiaeth a  o Brifysgol Stirling sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru.

Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Deall ein Moroedd

Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2, yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017

Llwyddiant cerddorol ‘Bodedern’

Yng nghymanfa ganu Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Modedern eleni, daeth llwyddiant i ran un o gyn-ymchwilwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Dyfarnwyd y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn i’r Dr Godfrey Wyn Williams o Bontcysyllte ger Llangollen, cyn-fyfyriwr doethurol o’r Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor. Brodor o Bentre Broughton, ger Brymbo ydyw, yn un o saith o blant a dreuliodd flynyddoedd lawer yn mireinio’i grefft fel cyfansoddwr tonau cynulleidfaol. Yn dilyn llwyddiant yn Eisteddfodau Llandefgan, Llanrwst, Bancffosfelen, Mynytho, Y Tymbl Treuddyn a Llanbedr Pont Steffan daeth ei osodiad hyfryd o eiriau’r Prifardd Cen Williams, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr y Brifysgol, i’r brig yn ystod y gwasanaeth a ddarlledwyd nos Sul, Awst 6ed eleni. Enw’r dôn oedd ‘Bodedern’ a’r gobaith yw y caiff ei mabwysiadu’n ddiymdroi gan gynulleidfaoedd led led Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017

Lansiad Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned

Ar Ddydd Iau, y 10fed o Awst am 10 o’r gloch yn yr Eisteddfod Genedlaethol lansiwyd y Pecyn Cymorth i Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned ym mhabell Prifysgol Bangor yng nghwmni Alun Davies, Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes. Lluniwyd y pecyn gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith Cymru. Mae'r pecyn yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ddulliau i hybu’r Gymraeg yn y gymuned. Casglwyd yr enghreifftiau hyn fel rhan o broject ymchwil mewn 8 cymuned wahanol yng Nghymru. Cyllidwyd y prosiect gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Anti Glenda a'i ffrindiau Dementia - Eisteddfod Genedlaethol Mawrth 8 Awst

Mae adnodd aml-gyfrwng a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Pentreuchaf i godi ymwybyddiaeth o ddementia,  wedi ei ddangos am y tro cyntaf mewn cyfarfod i drafod project arloesol, Project Anti Glenda, ym Mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod  bore 'ma (ddydd Mawrth 8 Awst).

Mae dementia yn broblem iechyd cyhoeddus o bwys yng Nghymru ac mae'r ymchwil a'r dysgu ym Mhrifysgol Bangor wedi ei anelu at wella’r gefnogaeth i’r rhai hynny sy'n byw gyda'r cyflwr. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Gall y symptomau amrywio yn ôl y math o ddementia ond gall y cyflwr effeithio ar dasgau bob dydd, cyfathrebu, y synhwyrau a'r cof.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017

Coffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn

Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn coffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn gydag arddangosfa yn dathlu bywyd, gwaith a threftadaeth y bardd a'r milwr o Gymro a fu farw ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917.

Gellir gweld yr arddangosfa o 5 Mehefin tan 15 Rhagfyr yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.

Byddwn hefyd yn hyrwyddo'r arddangosfa ym mhabell Prifysgol Bangor ddydd Gwener 11 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol 2017.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017

"Dwi ddim yn comfortable siarad yn y Gymraeg"

Bydd dau myfyriwr ymchwil o Ysgol Seicoleg Profysgol Bangor yn cyflwyno’u hymchwil mewn digwyddiad ar stondin Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod ddydd Llun, Awst 7, 10-11yb.

Dwi ddim yn comfortable siarad yn y Gymraeg"-Deinameg ieithyddol mewn gweithle ac ysgol ddwyieithog.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017