Archif Newyddion: Chwefror 2019

Athro Prifysgol Bangor yn curadu Mis Hanes Iddewig 2019

Mae'r Athro Nathan Abrams, academydd yn Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi chwarae rhan fawr yn curadu'r rhaglen ar gyfer y Mis Hanes Iddewig, Mawrth 2019.

Thema'r Mis Hanes Iddewig eleni yw Sgrin Fawr Sgrin Fach, Iddewon yn Sinema a Theledu Prydain.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019

Dadorchuddio gwreiddiau Celtaidd Arthur

Er i bortreadau diweddar o Arthur rhoi iddo acenion Saesneg, Ffrangeg neu hyd yn oed Cocni Llundain, mae llyfr academaidd newydd sydd yn cael ei lansio heddiw (Chwefror 28) ym Mhrifysgol Bangor yn ei leoli’n gryf yng ngwledydd Celtaidd ac yn yr ieithoedd Celtaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019

Prifysgol Bangor yn cynnig danteithion Masnach Deg

Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Pythefnos Masnach Deg eto eleni. Yn wythfed ymysg prifysgolion y byd yn y Gynghrair Prifysgolion Gwyrddoherwydd ei hymrwymiad i gynaliadwyedd, mae’r brifysgol yn awyddus bob amser i annog staff a myfyrwyr i feddwl am sut i wella’n barhaus ymrwymiad y sefydliad i gynaliadwyedd. Dyna pam fod amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu hybu i annog staff a myfyrwyr i gymryd rhan mewn Pythefnos Masnach Deg o heddiw tan 10 Mawrth.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019

Cynrychioli'r Brifysgol ar Côr Cymru

Bydd cyfle i wylwyr S4C fwynhau perfformiad gan Gôr Aelwyd JMJ, Prifysgol Bangor nos Sul, 3 Mawrth am 8.00 y.h, wrth iddynt roi o’u gorau yn cystadlu mewn rownd gynderfynol yn y rhaglen boblogaidd, Côr Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2019

The power of language: we translate our thoughts into words, but words also affect the way we think

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2019

Why Paris is the perfect city to introduce break dancing to the Olympics

Dyma erthygl yn Saesneg gan Jonathan Ervine, o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2019

Fe synnech chi ond mae economeg gymdeithasol yn effeithio ar Riffiau Cwrel

Dywed y biolegwyr morol sy'n gweithio i achub riffiau cwrel y byd fod gweithgareddau dynol yn effeithio'n gynyddol ar riffiau cwrel y byd. O ganlyniad, mae angen i fiolegwyr morol gynnwys asesiad o effeithiau'r gweithgareddau hynny, efallai o farchnadoedd neu ddinasoedd pell, ar oroesiad y riffiau cwrel.

Mewn rhifyn arbennig o Functional Ecology; “Coral reef functional ecology in the Anthropocene”, a defnyddio riffiau cwrel fel enghraifft, mae'r gwyddonwyr yn galw am gynnwys gweithgareddau economaidd-gymdeithasol wrth ddarogan adwaith ecosystemau riffiau cwrel at y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2019

12 Mis o greu argraff yn M-SParc

Mae busnesau sydd wedi'u lleoli yn M-SParc yn arwain y ffordd mewn arloesedd a datblygu economaidd. Edrychwn yn ôl dros y flwyddyn a'r effaith a gawsant.

Ers i’r Parc agor ym mis Mawrth 2018, mae’r 24 busnes wedi creu 24 swydd newydd, rhoi profiad gwaith i 6 myfyriwr, rhoi cyfleoedd cyflogaeth i 4 o raddedigion ac wedi cynyddu trosiant eu cwmni er budd y rhanbarth. Newyddion da a chychwyn da ar gyfer gwneud 2019 yn flwyddyn llwyddiannus.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2019

DYDDIAD NEWYDD: Dathlu dawn Dilys Elwyn Edwards yn Pontio ar Ddydd Gwyl Dewi

DIWEDDARIAD: Yn anffodus, mae’n rhaid i ni eich hysbysu o newid yn nyddiad y cyngerdd uchod oherwydd salwch. Yn anffodus, mae’n amhosib i Elin Manahan Thomas ganu oherwydd haint ddifrifol ar y frest.

Serch hynny, rydym wedi medru ail-drefnu’r gyngerdd a’r dyddiad newydd fydd Nos Sadwrn 27 Ebrill am 7.30pm.

Rydym wrthi’n cysylltu â chwsmeriaid i gyfathrebu’r wybodaeth uchod. Bydd tocynnau yn cael eu trosglwyddo i’r dyddiad newydd.  Os nad yw’r dyddiad newydd yn gyfleus, bydd gan gwsmeriaid hawl i ad-daliad a dylech ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2019

Cymrodyr ymchwil newydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Prifysgol Bangor yn darparu tri allan o’r saith cymrawd ymchwil newydd a fydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o raglen sy’n rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau addysg uwch a senedd Cymru.

Bydd yr academyddion o Ysgolion y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Naturiol yn rhannu eu harbenigedd ar faterion o bwys mawr a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i waith y Cynulliad a’i bwyllgorau. Mae hyn yn arwain o gyfraniad Prifysgol Bangor i’r peilot llwyddiannus

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019

UK Human Rights Act is at risk of repeal – here's why it should be protected

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019

Why the pine marten is not every red squirrel's best friend

Dyma erthygl yn Saesneg gan Craig Shuttleworth Cymrawd Ymchwil Arhydeddus o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Matt Hayward o Brifysgol Newcastle, Awstralia, cyn aelod o staff yn yr un ysgol. Mae'n cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019

Datblygu dulliau economeg iechyd i werthuso ymyriadau iechyd deintyddol fel rhan o fesurau ataliol iechyd y cyhoedd

Cynhaliwyd seminar: "Datblygu amrywiaeth o ddulliau i werthuso gwasanaethau deintyddol yn economaidd: ehangu'r persbectif" a drefnwyd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae deall y gellir atal y rhan fwyaf o bydredd yn y dannedd, yn arbennig  mewn plant ifanc, yn golygu y gellir atal y costau hefyd i raddau helaeth. Yn y flwyddyn ariannol 2015-2016, adroddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod cost tynnu dannedd wedi costio dros £50.5 miliwn mewn plant rhwng 0 a 19 oed. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019

Draig wedi ei gweld ar Stryd Fawr Bangor!

 Fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, cynhaliwyd Gorymdaith y Ddraig flynyddol ym Mangor ddydd Sadwrn. Wedi ei wneud â llaw yn Tseina, gorymdeithiodd y ddraig 14 metr o hyd, ynghyd â dawnswyr, drymwyr a disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes Bangor o Eglwys Gadeiriol Bangor ar hyd y Stryd Fawr i Gloc y Dref cyn dychwelyd i'r Eglwys Gadeiriol. Dilynwyd yr orymdaith gan Berfformiad Gala Tsieineaidd yn yr Eglwys Gadeiriol lle clywyd perfformiadau cerddorol lleisiol ac offerynnol Tseineaidd amrywiol, yn ogystal â gweld dawnsfeydd traddodiadol Tseineaidd a pherfformiad gan grŵp Taekwondo Bangor.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019

Ymchwil newydd i seibiannau byr ystyrlon i ofalwyr

Yn ddiweddar cafodd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor ei chomisiynu gan Shared Care Scotland i gynnal Adolygiad Rhychwantu er mwyn deall yn well y dystiolaeth ymchwil am seibiannau byr i ofalwyr (a elwir weithiau yn ofal seibiant) a'r hyn y mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym am effaith seibiannau byr ar ofalwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019

Disgyblion Ysgol Bro Lleu i gymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Bangor

Bydd disgyblion yn defnyddion eu cyrff fel offerynnau i greu cyfansoddiadau eu hunain yn mewn gŵyl lwyddiannus yng Ngogledd Cymru.

Gwahoddwyd disgyblion 9 a 10 oed o Ysgol Bro Lleu, Penygroes i gymryd rhan bwysgig yng Ngŵyl Gerdd Bangor fydd yn cymryd lle ar yr 8fed a 9fed o Chwefror 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2019

Adnabod am y tro cyntaf proses yr ymennydd o baratoi i weithredu

Mae Niwrowyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) wedi adnabod am y tro cyntaf y prosesau sy'n digwydd yn ein hymennydd milieiliadau cyn i ni wneud cyfres o symudiadau, sy'n hanfodol ar gyfer lleferydd, llawysgrifen, chwaraeon neu chwarae offeryn cerddorol. Gwnaethant hyn trwy fesur meysydd magnetig bychan iawn y tu allan i bennau'r cyfranwyr ac adnabod patrymau unigryw sy'n ffurfio pob dilyniant cyn iddo gael ei weithredu. Gwelsant y gwahaniaethau rhwng patrymau nerfol sy'n arwain at weithredu rhywbeth yn fwy medrus o gymharu â bod yn fwy tueddol o wneud camgymeriadau.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019

Sicrhau mynediad at Gerddoriaeth Cymraeg ar gyfer pobl sydd yn byw gyda dementia

Mae gwrando ar eich hoff fiwsig yn codi’ch calon, waeth be fo’ch oed. Dyna pam mae Prifysgol Bangor a Mudiad Merched y Wawr yn lansio apêl ar Ddiwrnod Miwsig Cymru, i bobl gysylltu gyda’u hawgrymiadau o’u hoff ganeuon o bob cyfnod.

Bydd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn cael eu coladu er mwyn creu CD ac adnodd digidol a fydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei rannu â chartrefi henoed a chartrefi gofal dementia er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth Cymraeg ar gael i’r preswylwyr ei fwynhau.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019

Teithiau o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Guided tours of Bangor University’s Art and Ceramic Collections will be held February to April. The aim is to raise awareness of these important collections, with highlights including a mural by Edward Povey in Powis Hall, art and ceramics in the University’s Council Chamber Corridor and a chance to see and learn about works of arts by other renowned artists such as Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast and Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2019

Mark yn ennill Gwobr y British Education Awards

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi derbyn un o Wobrau y British Education Awards.

Enillodd Mark Barrow, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn gynharach eleni, wobr y British Education Award (BEA) ar gyfer myfyriwr Graddedig o Gymru. Mae’r Gwobrau hyn yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn y system addysg yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019

Sylw brenhinol i waith ymchwil Ephraim

Dangosodd Meghan, Duges Sussex, diddordeb neilltuol yng ngwaith myfyriwr Meistr o Brifysgol Bangor, Dr Ephraim Kisangala, sydd yn fyfyriwr Ysgoloriaeth y Gymanwlad o Uganda, pan gyfarfu’r ddau mewn derbyniad yn Llundain yn ddiweddar.

Ac yntau’n feddyg teulu yn Uganda, derbyniodd Ephraim, sy’n astudio Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, wahoddiad i gyfarfod â’r Ddugess ar achlysur cyhoeddi Ddugess yn noddwr Brenhinol yr Association of Commonwealth Universities.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019