Archif Newyddion: Tachwedd 2019

Effaith Newid Hinsawdd ar Fwncïod

Bu grŵp o fyfyrwyr Sŵoleg Prifysgol Bangor ar daith maes i Wganda yn ddiweddar i ymchwilio'r effaith y mae newid hinsawdd yn ei gael ar fwncïod yn y gwyllt. 

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2019

Pecynnu ein bwydydd heb blastig

Mae pobl ledled y byd yn poeni fwyfwy am faint o blastig untro a ddefnyddir i becynnu'r pethau rydym yn eu prynu, yn enwedig bwyd.

Er bod deunydd lapio o'r fath yn ymddangos yn ddiangen, byddai llawer o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yn dadlau bod pecynnu nwyddau darfodus yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cario eu bwyd yn hawdd. Hefyd, mae mwy o fwyd yn cyrraedd y farchnad heb ei ddifrodi, gan gynyddu'r cyflenwad bwyd a lleihau gwastraff bwyd.

Yr ateb yw datblygu dulliau eraill cynaliadwy o becynnu bwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019

Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru - Rhaglenni Gradd yr Heddlu

Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi eu cydweithrediad ar Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) a ddatblygwyd gan y College of Policing.

Ymunodd Prifysgol Bangor â phroses gomisiynu gystadleuol a llwyddodd i wneud cais am y contract gyda Heddlu Gogledd Cymru ar sail ei hymrwymiad i addysgu rhagorol a'i enw da mewn perthynas ag addysgu ac ymchwil mewn plismona.

Mae Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu Prentisiaethau Gradd newydd Cwnstabl yr Heddlu a'r Rhaglen Mynediad Deiliaid Gradd ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd ar gael i Gwnstabliaid sydd newydd eu recriwtio o 2020.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019

Magwrfeydd larfau pysgod yn llawn plastigau yr un maint â'u bwyd

Mae ymchwil newydd wedi dangos am y tro cyntaf, bod larfau pysgod o amryw o rywogaethau pysgod o wahanol gynefinoedd yn y môr yn cael eu hamgylchynu gan blastigau yn eu hoff gynefinoedd magu ac yn llyncu'r plastigau.

Mae llawer o bysgod môr y byd yn treulio eu dyddiau neu wythnosau cyntaf yn bwydo ac yn datblygu ar wyneb y môr, ond nid ydym yn gwybod llawer am brosesau'r môr sy'n effeithio ar oroesiad larfau pysgod. Larfau pysgod yw'r genhedlaeth nesaf o bysgod aeddfed a fydd yn cyflenwi protein a maetholion hanfodol i bobl ledled y byd. Cynhaliodd Canolfan Gwyddoniaeth Pysgodfeydd Ynysoedd y Môr Tawel NOAA a thîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys Prifysgol Bangor, un o'r astudiaethau mwyaf uchelgeisiol hyd yma, i daflu goleuni ar y bwlch hanfodol bwysig hwn yn ein gwybodaeth.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth heddiw yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences. Roedd yr astudiaeth wedi cyfuno arolygon towio plancton yn y maes ac uwch dechnegau synhwyro o bell i nodi cynefin magwrfeydd larfau pysgod yn y môr ar arfordir Hawai'i.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2019

Innovate UK yn dyfarnu rhagoriaeth i Brifysgol Bangor am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth mewn Cyfieithu Peirianyddol

Dyfarnwyd gradd A (Rhagoriaeth) i Brifysgol Bangor a Cymen Cyf am eu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae Cymen yn gwmni cyfieithu a leolir yng Nghaernarfon, ac mae’n un o brif gyflogwyr graddedigion yng Ngwynedd yn y sector breifat. Prif ffocws y KTP oedd datblygu cyfieithu peirianyddol parth-benodol rhwng Saesneg a Chymraeg, gan ddefnyddio archif fawr Cymen o ddogfennau wedi’u cyfieithu fel data hyfforddi.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2019

Trafod y gyfres The Crown

Wrth i’r gyfres The Crown dychwelyd i Netflix ar gyfer ei thrydedd gyfres fis yma, bydd dilynwyr yn cael gweld un o drefi gogledd Cymru yn cael ei thrawsnewid yn ôl i’r chwe degau. Bydd y drydedd gyfres yn cynnwys digwyddiadau enwog y teulu brenhinol rhwng 1964 ac 1977 yn cynnwys arwisgiad y Tywysog Charles fel Tywysog Cymru yng Ngahaernarfon. Digwyddiad a oedd wedi creu rhwyg mewn cymdeithas yn ôl Dr Euryn Roberts, Darlithydd mewn Hanes Oesoedd Canol a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2019

Arddangosfa o hanes Iddewig Bangor yn mynd i Gaerdydd

Mae arddangosfa sy'n cyflwyno hanes yr Iddewon ym Mangor yn teithio i Gaerdydd.

Mae'r arddangosfa, Hanes yr Iddewon ym Mangor, yn dathlu presenoldeb Iddewon ym Mangor o'r canol oesoedd i'r Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2019

Helpu Huw â Her y Copaon

Mae sawl aelod o staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Dr Ross Roberts, Dr Stuart Beattie, Dr James Hardy, Dr Eleri Jones, Dr Anthony Blanchfield, Dr Andy Cooke a Kevin Williams) wedi bod yn cynorthwyo anturiaethwr lleol i gyflawni her eithriadol ar hyd copaon Eryri.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2019