Newyddion Ymchwil: Gorffennaf 2012

Mae yfed diodydd meddal wedi eu melysu â siwgr yn arwain at fagu bloneg

Mae ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos bod yfed diodydd meddal wedi eu melysu â siwgr yn rheolaidd yn gallu arwain at fagu bloneg, atal metabolaeth braster a chodi lefel y glwcos yn y gwaed.  Felly os ydych yn sychedig ac yn meddwl am estyn am ddiod feddal llawn siwgr - peidiwch - gall niweidio eich iechyd tymor hir.  Estynnwch am ddiod o ddŵr yn lle hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2012

Dylai safbwyntiau diwylliannol ddylanwadu ar bolisïau cadwraeth

Yn ôl canlyniadau arolwg a gynhaliwyd dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae angen i bolisïau ar Gadwraeth roi ystyriaeth i wahanol safbwyntiau diwylliannol ynglŷn â gwerth gwahanol rywogaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012

Astudiaeth Fewnfudo WISERD yn y newyddion

Mae astudiaeth a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, fel rhan o WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru), wedi darparu data newydd ar farn pobl Cymru am fewnfudo a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2012