Newyddion Ymchwil: Ebrill 2013

Gall cyffuriau newydd fod yn well i atal strôc

Mae cyffuriau gwrth-geulo, a gymeradwywyd gan NICE, o leiaf mor effeithiol â'r cyffur poblogaidd warfarin i atal strôc mewn pobl gyda ffibriliad atriaidd, a gallant fod yn fwy effeithiol hyd yn oed.   Gall y darganfyddiad hwn, a gyhoeddwyd yn Clinical Pharmacology & Therapeutics (DOI: 10.1038/CLPT.2013.83) helpu i wneud penderfyniadau ynghylch opsiynau triniaeth i wahanol gleifion sydd mewn perygl o gael strôc. 

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2013

Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas: cyflwynwyd gan Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor

Fe wnaeth y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, rhan o’r Ysgol Seicoleg, gynnal cynhadledd wyddonol ym mis Mawrth 2013 yng Nghaer, o’r enw ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas’. Roedd yn gynhadledd tridiau gyda  582 o bobl yn dod yno, yn cynnwys cynadleddwyr o nifer o wledydd Ewropeaidd, a rhai o Awstralia ac America.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2013