Newyddion Ymchwil: Rhagfyr 2013

A all gosod negeseuon ar sigarennau ein darbwyllo i beidio ag ysmygu?

Bu dau academydd o Ysgol Fusnes enwog Prifysgol Bangor wrthi’n defnyddio eu gwybodaeth o astudiaethau marchnata a rheolaethol er mwyn ymchwilio i gyfwng newydd o gyfleu’r neges dim ysmygu, sef y sigarét ei hun.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2013

Edrych ar sut mae ein hymennydd yn asesu ‘bargen’

Mae’n ymddangos nad ydym mor dda am adnabod ‘bargen’ a manteisio ar gynigion archfarchnadoedd ag yr ydym yn credu. Dyna awgrym canlyniadau cynnar astudiaeth a fu’n archwilio ymennydd siopwyr wrth iddynt ymgymryd â thasg ‘siopa’.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2013

Cynhadledd yr G8 yn cyhoeddi project ymchwil gwerth £4 miliwn ynghylch gwella bywyd gyda dementia

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn £4 miliwn i arwain y project ‘Gwella profiad Dementia a gwella bywyd gweithgar: Byw'n dda gyda dementia’ (IDEAL).  Cynhelir yr astudiaeth ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Brunel, Ysgol Economeg Llundain, King’s College Llundain, Prifysgol Sussex, y 'Research Institute for the Care of Older People (RICE)', y Gymdeithas Alzheimer ac 'Innovations in Dementia CIC'.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2013

Defnyddio modelau i ddeall hydrodynameg

Mae technoleg llanw a thonnau o’r diwedd wedi dechrau yn boblogaidd, ac mae Prydain yn arwain y byd ym maes ynni o’r tonnau a’r llanw. Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad yr adnodd ynni adnewyddol bwysig hon. Fel y mae’r diwydiant yn symud tuag at fasnacheiddio ar raddfa fawr, mae arbenigwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn gweithio i gynyddu effeithlonrwydd dyfeisiau i’r eithaf.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2013

Astudio gwenwyn nadredd wedi dilyniannu genom cyfan neidr wenwynig y Merchgobra

Am y tro cyntaf, mae gwyddonwyr sy’n astudio gwenwyn nadredd wedi dilyniannu genom cyfan neidr wenwynig, y Marchgobra, a chadarnhau damcaniaeth a oedd wedi’i chynnig o’r blaen ond heb ei dogfennu’n dda, yn egluro sut y cynhyrchir gwenwyn neidr a’r hyn a arweiniodd at gymhlethdod mawr y gwenwynau sy’n cynnwys dwsinau o docsinau unigol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2013

Cyfraniad seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i wella iechyd a lles yng Nghymru yn cael sylw aelodau'r Senedd

Cafodd Aelodau'r Cynulliad a pobol proffesiynol o feysydd iechyd a gofal eu gwahodd i dderbyniad yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw (3.12.13) i glywed sut mae dulliau arloesol o ymdrin ag iechyd a lles yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru a mannau eraill o ganlyniad i waith y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2013