Newyddion Ymchwil: Awst 2017

Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia

Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio £1.4 biliwn y flwyddyn.  Y ganran uchaf o’r gost yw’r gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a’r risg y bydd gofalwyr yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig.

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw cynyddu’r gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017

Wystrys yw eu byd- ac maent esio i chwi eu bwyta

Mae arbenigwyr mewn dyframaethu ym Mhrifysgol Bangor yn gobeithio gwneud newid sylfaenol yn y ffordd mae wystrys yn cael eu hystyried a’u bwyta, yn dilyn Symposiwm rhyngwladol ar Wystrys a gynhelir yn y brifysgol (11-14 Medi). Maent yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn annog cynnydd cyflym, ond cynaliadwy, mewn cynhyrchu wystrys, ac i fwy ohonom eu mwynhau gartref ac mewn barrau wystrys yng Nghymru a mannau eraill.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017

Datblygu paciau cefn bychain i wenyn

Mae project newydd cyffrous i ddatblygu ffordd newydd i ddilyn gwenyn drwy’r tirlun yn datblygu’n dda yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Mae ecolegydd ac arbenigwr mewn microsystemau yn cydweithio i ddatblygu paciau cefn bychain i wenyn a fydd yn galluogi drônau bach i’w dilyn fel yr hedant o blanhigyn i blanhigyn

Bydd hyn yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am le mae’r gwenyn yn casglu neithdar a beth all fod yn effeithio ar eu niferoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2017

Forget Jon Snow, watch the young women to find out how Game of Thrones ends

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Raluca Radulescu o'r Ysgol  Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

 

This article by Raluca Radulescu, Professor of Medieval Literature and English Literature, Bangor University was originally published on The Conversation. Read the original article

Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2017

Safleoedd tirlenwi : llawer mwy na llwyth o sbwriel

Mae safleoedd tirlenwi'n llawer mwy na llwyth o sbwriel - oherwydd dylid eu hystyried yn un o'r prif adnoddau wrth chwilio am ensymau newydd i fiotechnoleg. Yn wir, gallant arwain at gynhyrchu biodanwydd mwy effeithlon.

Mewn papur ymchwil newydd yn mSphere ( DOI:  10.1128/mSphere.00300-17) mae biolegwyr o brifysgolion Bangor a Lerpwl wedi adnabod am y tro cyntaf yr ensymau sy'n diraddio deunyddiau naturiol megis papur a dillad mewn safleoedd tirlenwi. 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Gwaith gan gemegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gam tuag at ddatblygu technoleg i achub bywydau

Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu canlyniadau project ymchwil a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dod â diagnosis cyflym a hawdd o'r diciâu (TB) gam yn nes. 

Mae'r diciâu yn un o glefydau mwyaf marwol y byd. Dim ond dwy flynedd yn ôl, heintiwyd 10.4 miliwn o bobl ledled y byd â'r diciâu a chafwyd 1.8 miliwn o farwolaethau cysylltiedig â'r diciâu. Yn 2015, roedd 35% o'r marwolaethau o ganlyniad i HIV oherwydd cyd-heintiad â'r diciâu.

Mae cemegwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn gweithio i ddatblygu citiau diagnosis cyflym a hawdd a all roi canlyniad ar unwaith (ar hyn o bryd anfonir samplau o waed i labordy, sy'n broses lawer rhy hir).

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017

Independent music labels are creating their own streaming services to give artists a fair deal

Dyma erthygl yn Saesneg gan Steffan THomas o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017

Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle - Map magnetig telorion cyrs

Bydd pob un ohonom yn rhyfeddu at y mamaliaid, yr adar a'r pryfed sy'n mudo ymhell ac at eu gallu cynhenid i gyrraedd pen eu taith filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall yr holl fecanweithiau sydd ynghlwm â hyn. Bellach, mae un grŵp o wyddonwyr yn credu eu bod wedi canfod un system sy'n cael ei defnyddio gan rai adar sy'n mudo, ac mae'n datgelu map diddorol o'r byd y byddai sawl un ohonom yn rhyfeddu ato.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2017

Forest conservation approaches must recognise the rights of local people

Dyma erthygl yn Saesneg gan Neal Hockley o'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a daearyddiaeth a  o Brifysgol Stirling sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017