Cyfleusterau
Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion gyfleusterau gwych ar gyfer ymchwil ac addysgu.
Mae’r rhain yn amrywio o:
- labordai addysgol mawr modern i labordai ymchwil uwch-dechnoleg
- gychod bach i long ymchwil 35 m
- rwydwaith lleol wedi ei selio ar gyfrifiaduron PC i weithfannau sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer modelu cefnforoedd rhifiadol
- systemau cyhoeddi graffeg ffotograffig a bwrdd gwaith i weithdai electroneg a mecanyddol mewnol sydd yn gallu dylunio ac adeiladu offer eigioneg
- lyfrau ac erthyglau traddodiadol i’r adnoddau llyfrgell electroneg
- gyflenwad uniongyrchol o ddŵr môr o’r Fenai i ddŵr trofannol oer yr acwariwm
Mae’r linciau isod yn cynnig mwy o fanylion ar rhai o’n adnoddau