Newyddion: Hydref 2018
Newyddlenau
Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben.
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur , mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018
Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur, mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018
Wythnos Am Wastraff #WAW18
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prifysgol Bangor ei ail ‘Wythnos Am Wastraff ‘(WAW) erioed rhwng dydd Sadwrn 29ain Medi a dydd Gwener 5ed Hydref 2018. Lansiwyd yr ymgyrch i rannu syniadau a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd defnyddio adnoddau yn effeithlon yn y Brifysgol ac yn Ninas Bangor, fel ein bod yn gallu lleihau ein heffeithiau amgylcheddol yn lleol ac yn genedlaethol ac i annogein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol. Gweithiodd y Lab Cynaliadwyedd mewn partneriaeth â Champws Byw , Neuaddau Preswyl , Tai Myfyrwyr , Arlwyo , y Swyddfa Ryngwladol , Cyngor Gwynedd , Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) a British Heart Foundation Cymru (BHF) i redeg ystod o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn ystod yr wythnos WAW. Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiad glanhau’r traeth, ymweliadau ymwybyddiaeth gwastraff mewn neuaddau myfyrwyr a lletyai preifat, sgyrsiau gyrfaoedd gwastraff, digwyddiad glanhau campws, diwrnod rhannu gwybodaeth, cwisiau ailgylchu, noson ddadlau, noson ffilm a noson crefftau eco, ynghyd a digwyddiadau eraill llai i rannu syniadau
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018