Protocolau COVID-19
Caiff yr wybodaeth hon ei diweddaru mewn ymateb i gyhoeddiadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Oherwydd Covid-19, mae eleni wedi bod yn anarferol iawn i bob un ohonom gyda llawer o ffyrdd newydd o wneud pethau.
Gallwch fod yn sicr fod y Brifysgol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i warchod iechyd, diogelwch a lles ei myfyrwyr a hefyd wrth ddarparu profiad Prifysgol cyfoethog i chi.
Darllenwch y wybodaeth isod fel eich bod yn gyfarwydd â’r hyn i’w ddisgwyl pan ddewch i’r campws. Rydym yn cynnal deialog barhaus gyda’n hawdurdod iechyd lleol ac asiantaethau eraill y llywodraeth i sicrhau bod ein harferion yn unol â’r canllawiau diweddaraf, gan gynnwys strategaeth Profi, Olrhain ac Amddiffyn Cymru.
- Fideo byr ar drefniadau Covid-19 ar gyfer y flwyddyn academaidd 21/22
- Llawlyfr Iechyd a Diogelwch i Fyfyrwyr
Cadw Adeiladau’n Ddiogel
Bydd Gwasanaethau Campws yn ymgymryd â mwy o lanhau yn ardaloedd cylchrediad, sy’n cynnwys pwyntiau cyffwrdd allweddol e.e., coridor, dolenni drws ystafell ddarlithio, rheolyddion lifft. Efallai y bydd gwahanol ffyrdd o symud o amgylch adeiladau, er enghraifft, systemau unffordd, un person mewn lifft ar y tro. Byddwch hefyd yn gweld llawer o hylifau diheintio dwylo ac arwyddion i sicrhau defnydd diogel o adeiladau. Dyma rai enghreifftiau o’r arwyddion y byddwch yn eu gweld o gwmpas y campws:

Rheolau a Rheoliadau
Gall y gwahaniaethau rhwng gwledydd a rhanbarthau fod yn ddryslyd. Cofiwch fod y Brifysgol yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
Gorchuddion Wyneb
Er diogelwch pawb, staff, myfyrwyr a’n cymunedau, ac yn arbennig er diogelwch y rhai sydd â gwendidau iechyd, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn holl adeiladau’r Brifysgol, oni bai eu bod wedi’u heithrio neu yn unol â chyfarwyddyd yr asesiad risg gweithgaredd.
Wrth gwrs, gellir tynnu gorchuddion wyneb wrth fwyta ac yfed, tra mewn swyddfeydd a cherbydau deiliadaeth sengl neu wrth roi darlith.
Nid oes unrhyw ofyniad i bobl ddarparu prawf eu bod wedi’u heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb, ond efallai yr hoffent lawrlwytho e-gerdyn o Gov.uk y gellir ei ddefnyddio o’u ffôn.
Yn ystod darlithoedd a seminarau, mae angen i fyfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb, ond efallai na fydd angen i ddarlithwyr a hyfforddwyr wneud hynny gan fod mesurau lliniaru eraill yn eu lle, fel cyflwyno o bellter dros 2 fetr neu o’r tu ôl i orchudd/sgrin persbecs. Nid yw’n ofynnol i staff mewn swyddfeydd ag un yn unig ynddynt, a mannau tebyg, wisgo gorchudd wyneb. Ni ddisgwylir i fyfyrwyr yn eu cartref eu hunain wisgo gorchuddion wyneb. Hefyd, efallai na fydd angen gwisgo gorchuddion wyneb ar gyfer rhai gweithgareddau gwyddonol lle byddai’r rhain yn peri mwy o risg. Bydd gofynion yn cael eu nodi o fewn gweithdrefnau labordy.
Mae gwisgo gorchudd wyneb yn helpu i amddiffyn nid yn unig ein hunain ond hefyd yn helpu i ddiogelu eraill a allai fod mewn mwy o risg o’r firws hwn. Bydd polisi’r Brifysgol ar orchuddion wyneb yn cael ei adolygu’n barhaus a gall newid yn ystod y flwyddyn.
Pwyntiau Allweddol i’w Cofio
- Peidiwch byth â mynd i mewn i adeilad na chymryd rhan mewn gweithgaredd os ydych chi’n meddwl bod gennych symptomau Covid-19
- Diheintiwch eich dwylo bob amser wrth fynd i mewn i adeilad ac allan ohono
- Dilynwch arwyddion ac unrhyw reolau lleol a ddarperir gan eich Ysgol, Neuaddau Preswyl, Undeb y Myfyrwyr ac ati
- Lle bo hynny’n bosibl, cadwch bellter cymdeithasol o 2 fetr bob amser
- Gwisgwch orchudd wyneb a chadwch un gyda chi i’w ddefnyddio os oes angen
- Defnyddiwch hylendid dwylo da yn rheolaidd – gellir dod o hyd i hylifau diheintio gwrth-firws a gwrth-facteriol ym mhob adeilad, dilynwch y rheol 20 eiliad wrth olchi dwylo
- Peidiwch â chyffwrdd â’ch llygaid, trwyn neu geg â dwylo heb eu golchi
- Defnyddiwch hances bapur i roi dros eich ceg a’ch trwyn wrth beswch neu disian, taflwch yr hances bapur i’r bin
- Yn bwysicaf oll, os gwelwch yn dda dangoswch barch tuag at eich gilydd
Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth hon gyda’r ychwanegiadau diweddaraf i’n protocolau Covid-19 a byddwch yn cael gwybodaeth fwy penodol oddi wrth eich ysgol academaidd, Neuaddau Preswyl ac Undeb y Myfyrwyr yn ôl yr angen.