Iechyd Myfyrwyr
I weld y cyngor diweddaraf am Covid-19 ewch i'r dudalen Campws y Brifysgol.
Cofrestru gyda Meddyg
Mae Canolfan Feddygol Bodnant yn darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau meddygol, gan gynnwys gwasanaethau i fyfyrwyr; mae'r feddygfa yn Heol Victoria yn agos at Neuaddau Preswyl Ffriddoedd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Pan rydych yn cofrestru gyda phractis, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru gyda gwasanaethau meddyg teulu (GMS1). Gallwch naill ai alw heibio Canolfan Feddygol Bodnant i nôl y ffurflen, neu fe allwch gofrestru ar-lein
Os ydych yn dymuno cofrestru gyda meddygfa wahanol, mae manylion cyswllt y meddygfeydd lleol eraill i'w gweld yma.
Meddyginiaeth ar bresgripsiwn
Ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn neu’n dioddef o glefyd cronig fel asthma neu ddiabetes? Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu mae gennych anghenion gofal iechyd penodol, mae’n bwysig eich bod yn dod â digon o feddyginiaeth am un mis gyda chi i’r Brifysgol. Mae hefyd yn syniad da gwneud apwyntiad cychwynnol gyda’r nyrs neu yn eich meddygfa ym Mangor i drafod beth yw’r ffordd orau o reoli eich anghenion iechyd o’r dechrau.
Imiwneiddio
Dylai pob myfyriwr y flwyddyn gyntaf fod wedi cael eu brechu’n llawn rhag:
- Y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (yn cynnwys pigiad atgyfnerthol)
- MenACWY (hyd yn oed os ydych chi wedi cael brechiad MenC yn ddiweddar)
- Ac os ydych yn dioddef o glefyd cronig, ffliw/ niwmococol
Clwy’r pennau a’r frech goch
Gall y rhain fod yn heintiau difrifol ac mae’r Brifysgol yn parhau i weld achosion a chlystyrau o’r ddau glefyd hyn.
Mae llawer o bobl yn awr yn eu harddegau ac yn eu hugeiniau sydd heb gael eu brechu neu dim ond wedi cael un ddos o’r brechiad MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela). Mae pobl a anwyd yn y DU ar ôl 1980 yn fwy tebygol o gael y frech goch a chlwy’r pennau os nad ydynt wedi cael dau ddos o MMR. Mae polisi cenedlaethol yn argymell yn gryf y dylai plant ac oedolion ifanc gael eu hamddiffyn gyda dau ddos o MMR.
Mae Prifysgol Bangor yn argymell yn gryf eich bod yn cael dau ddos o’r brechiad MMR cyn dod i’r Brifysgol. Am fwy o wybodaeth ac arweiniad ar y frech goch: www.bangor.ac.uk/studentservices/wellbeing/ measles.php.cy
Llid yr Ymennydd C
Mae brechiad MenACWY yn helpu amddiffyn yn erbyn clefyd meningococol.
Beth yw clefyd meningococol? Mae clefyd meningococol yn brin ond gall beryglu bywyd. Fe’i achosir gan sawl grwˆ p o facteria meningococol, a’r rhai mwyaf cyffredin yw A, B, C, W ac Y. Mae bacteria meningococol yn gallu achosi llid yr ymennydd (llid ar leinin yr ymennydd) a septisemia (gwenwyn gwaed). Mae’r ddau glefyd yn ddifrifol dros ben,
yn arbennig os na chânt eu canfod yn gynnar, a gallant hyd yn oed fod yn farwol. Mae’r un bacteria sy’n achosi’r clefydau difrifol hyn hefyd i’w canfod yn gyffredin yn nghefn y trwyn a’r gwddf, yn arbennig mewn oedolion ifanc, heb achosi unrhyw salwch.
Pa mor gyffredin yw clefyd meningococol? Mae’n effeithio ar tua 700-800 o bobl yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Ers i frechlyn MenC gael ei gyflwyno i raglen frechu y DU ym 1999, mae clefyd Meningococol grŵp C bellach yn brin. Nawr, meningococol grŵp B (MenB) yw’r achos mwyaf cyffredin o glefyd meningococol ymhlith plant a phobl ifanc.
O fis Medi 2015 ymlaen, mae brechlyn MenB wedi cael ei gyflwyno i’r rhaglen brechu babanod i helpu i amddiffyn babis ifanc. Er 2009, mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer yr achosion o glefyd Meningococol grŵp W (MenW) yng Nghymru a Lloegr, gan arwain at sawl marwolaeth ymhlith babanod a phobl ifanc yn eu harddegau.
Pam fod angen imi gael y brechiad? Fel oedolyn ifanc, yn enwedig mewn amgylchedd newydd, mae gennych risg uwch o gael clefyd meningococol, felly mae angen ichi gael eich brechu er mwyn amddiffyn eich hun. Mae’r brechiad hefyd yn lleihau’r risg o gario’r bacteria, ac felly mae’n amddiffyn pobl eraill o’ch amgylch. Mae angen i chi gael y brechiad hwn, hyd yn oed os ydych wedi cael brechlyn MenC yn ddiweddar, oherwydd bydd y brechlyn MenACWY yn eich amddiffyn rhag clefyd meningococol C yn ogystal â chynnig amddiffyniad gwell yn erbyn mathau W, A ac Y o’r clefyd.
Mae’n dal yn bwysig gwybod beth yw arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a septisemia, gan fod bacteria eraill yn bodoli all achosi’r salwch hyn hefyd.
Ffliw
Mae ffliw yn haint firaol aciwt ar y llwybr resbiradol. Mae’n heintus iawn. Os ydych yn dioddef o glefyd cronig ar yr ysgyfaint, y galon, yr iau neu’r arennau, mae gennych ddiabetes neu rydych yn wrthimiwnedd, rydym yn argymell eich bod yn cael brechiad blynyddol rhag y ffliw ac imiwnedd niwmococal sengl i amddiffyn eich hun.