Cymorth
Dyma fideo byr i grynhoi’r holl gefnogaeth sydd ar gael ar eich cyfer pe byddech yn dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael ar eich cyfer drwy’r iaith. Ceir mwy o wybodaeth amdanynt isod.
Cefnogaeth a Chyfleoedd drwy’r Gymraeg
Datblygu eich hyder yn defnyddio’r Gymraeg
Mae Canolfan Bedwyr yma i’ch cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg a’ch hyder yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Cynigir modiwl ‘Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg’ ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn ogystal â sesiynau paratoi gan diwtor ar gyfer myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ceir mwy o wybodaeth am eu gwasanaethau i gefnogi myfyrwyr ar y dudalen Cymorth Cymraeg.
Y Ganolfan Sgiliau Astudio
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig darpariaeth a chefnogaeth ddwyieithog i’ch cynorthwyo gyda’ch astudiaethau. Trefnwch apwyntiad ysgrifennu ac astudio unigol neu apwyntiad mathemateg ac ystadegau gydag un o’n cynghorwyr astudio neu fentor ysgrifennu, a phorwch drwy ein hadnoddau astudio dwyieithog.