Croeso cyn i chi gyrraedd
Llongyfarchiadau mawr ar gael eich derbyn i Brifysgol Bangor. Rydych ar fin ymuno â chymuned fywiog a chyfeillgar, ac rwy'n siŵr y byddwch yn mwynhau ac yn manteisio i'r eithaf ar y nifer fawr o gyfleoedd a fydd ar gael i chi dros eich cyfnod gyda ni. Er mwyn eich cyflwyno i'r brifysgol, rydym wedi cynhyrchu fideos i chi eu gwylio cyn cyrraedd Bangor.
Gobeithio eich bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at gychwyn eich siwrnai gyda ni, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Ionawr.