Canllaw a Fideos gan Fyfyrwyr
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd ymdopi â symud i'r brifysgol, p'un ai dyma yw eich tro cyntaf oddi cartref, neu eich bod yn dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod i ffwrdd; mae'n anodd gwybod beth i'w ddisgwyl. Er mwyn helpu i hwyluso'r cyfnod hwn o drawsnewid, rydym wedi llunio cynghorion a chynhyrchu fideos mewn partneriaeth â'n harweinwyr cyfoed a myfyrwyr presennol. Mae croeso i chi gael golwg ar ein sianel YouTube ac os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio'r nodwedd sgwrsio UniBuddy ar ein tudalen gartref Croeso 2022.
Cynghorion Croeso 2022
- Cyflwynwch eich hun i gynifer o bobl ag y gallwch yn eich wythnos gyntaf trwy gymryd rhan mewn cymaint â phosib. Eleni, mae llawer o'n digwyddiad ar-lein, felly gallwch gwrdd â mwy o bobl nag erioed! Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am ragor o wybodaeth.
- Cymerwch olwg ar yr hyn sydd gan Undeb y Myfyrwyr i'w gynnig i chi a chofiwch eich bod yn rhydd i ymuno â chymaint o glybiau a chymdeithasau ag y dymunwch - maen nhw i gyd yn rhad ac am ddim!
- Trefnwch i gwrdd â'ch arweinydd cyfoed a dysgu mwy am eich ysgol academaidd
- Dewch â llyfr coginio da gyda chi - fel na fydd raid i chi fwyta'r un prydau bwyd drosodd a throsodd!
- Gwyliwch y sianel YouTube Get Ready For University i weld flogiau a fideos gan fyfyrwyr presennol sy'n llawn awgrymiadau a chynghorion ar sut i gynefino â bywyd prifysgol
- Lawrlwythwch fap o'r campws
- Cymerwch olwg ar ein Siop Nwyddau Brand Prifysgol Bangor
Peidiwch ag anghofio, mae mwy o fideos a chanllawiau 'Sut i' i'w gweld ar ein sianel YouTube.
Canllaw ar sut i ddefnyddio systemau'r Brifysgol
Cyngor ar ymgartrefu yn y Brifysgol
Diwrnod ym Mywyd Myfyriwr
Mae Kirsty Lewis yn astudio Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.
Diwrnod ym Mywyd Myfyriwr
Mae Kirsty Lewis yn astudio Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.