Cerddi Bangor
Casgliad unigryw o dros 2,000 o faledi Cymraeg yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae nifer o’r baledi hyn yn dod yn wreiddiol o gasgliad Myrddin Fardd. Roedd y “gerdd” yng Nghymru yn cyflawni swyddogaeth papur newydd am ganrif gyfan. O’r herwydd mae’n offeryn amhrisiadwy i’r sawl sy’n ymchwilio i hanes cymdeithasol y cyfnod.
Am ragor o fanylion, defnyddiwch J.H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads, 1911
Oherwydd cyflwr brau'r casgliad, dim ond ar ficroffilm y mae modd gweld Cerddi Bangor
Cliciwch ar y llun i weld delwedd fwy