Darllenfa Shankland
Thomas Shankland (1858-1927)
Fe enwyd y Llyfrgell Gymraeg ar ôl Thomas Shankland oedd yn aelod o staff y llyfrgell ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1905 a 1925. Fe gafodd Thomas Shankland ei eni yn San Clêr, Sir Gaerfyrddin. Treuliodd amser fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ac fe ddaeth yn weinidog y Bedyddwyr yn yr Wyddgrug ac yn y Rhyl. Fe ddaeth yn ei ôl i’w hen goleg fel llyfrgellydd cynorthwyol yn 1905 ac fe fu’n nodedig am gasglu pamffledi, papurau newydd a llyfrau prin. Fe gyhoeddodd lawer iawn o waith ar hanes ei enwad a hanes ysgrifennu emynau.
Llyfryddiaeth
- Gallwch ddod o hyd i’w gyhoeddiadau yn: Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru (1926-27)
- Mae yna drafodaeth fer ond cryno am ei gyfraniad yn T M Bassett, Thomas
Shankland 1858 – 1927, Llandysul, Undeb y Bedyddwyr.