Cymraeg Ail Iaith/ Dysgwyr
- Ydych chi wedi dysgu’r Gymraeg?
- Ydy’r Gymraeg yn ail iaith i chi?
- Ydych chi wedi ystyried astudio’r Gymraeg ar gyfer gradd?
Mae gan Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Bangor dros ganrif o brofiad yn dysgu cenedlaethau o fyfyrwyr, boed ddysgwyr, myfyrwyr ail iaith neu fyfyrwyr iaith gyntaf.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr a myfyrwyr ail iaith ac rydym yn darparu rhaglen academaidd lawn ar eu cyfer.