Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored
Os ydych dal yn ystyried eich opsiynau ar gyfer Medi 2026, dewch i'r Diwrnod Agored Bach nesaf ar ddydd Gwener, 23 Ionawr 2026. Cewch ddysgu mwy am ein cyrsiau academaidd a'r profiad myfyriwr arbennig a geir ym Mangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yma.
5 rheswm i ddod i'r Diwrnod Agored
Mae’r Diwrnod Agored yn gyfle gwych i ddod i adnabod y Brifysgol a’i hadeiladau. Os nad ydych eisoes yn gyfarwydd â’r ardal, efallai byddwch hefyd yn dymuno ymweld â dinas Bangor a’r ardal gyfagos yn ystod eich ymweliad.
Bydd cyfle i ymweld â’n Llety myfyrwyr sydd wedi eu gosod yn y 10 Uchaf yn y DU (*Gwobrau WhatUni? 2024). Mae ein neuaddau yn fodern ac o fewn pellter cerdded o fwyafrif o adeiladau’r Brifysgol.