Anrhydeddau y Brifysgol - Cymrodyr a Graddau Er Anrhydedd
Cymrodyr Er Anrhydedd
Mae Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn anrhydedd tra phwysig y gall y Brifysgol ei rhoi yn flynyddol i unigolion amlwg sydd â chysylltiad â’r Brifysgol, neu â Chymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu gwahanol feysydd. Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd wedi cael eu cyflwyno dros yr 20 mlynedd ddiwethaf yn y Seremonïau Graddio bob blwyddyn, ac mae dros 150 o bobl wedi cael eu hanrhydeddu yn y ffordd hon. Mae’r Brifysgol yn cadw mewn cysylltiad â’i Chymrodyr er Anrhydedd, ac mae Cinio Blynyddol y Cymrodyr er Anrhydedd yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yn y Brifysgol.
Cliciwch ar rai o’r enwau isod i gael proffil o rai'n unig o Gymrodyr er Anrhydedd enwocaf y Brifysgol:
- Cymrodyr Anrhydeddus 2018 (yn cynnwys yr Athro Julie Williams)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2017 (yn cynnwys Chris Coleman ac Osian Roberts)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2016 (yn cynnwys Elin Manahan-Thomas a Susan Ridge)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2015 (yn cynnwys Gruff Rhys a George Huw Stephens)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2014 (yn cynnwys Huw Edwards a George North)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2013 (yn cynnwys Tom James a Terry Jones)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2012 (yn cynnwys Dr Gwyneth Lewis)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2011 (yn cynnwys Duffy)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2010 (yn cynnwys Mike Peters a Jane Edwards)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2009 (yn cynnwys David Brailsford a John Disley)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2008 (yn cynnwys Sian Lloyd a Griff Rhys Jones)
- Cymrodyr Anrhydeddus 2007 (yn cynnwys Rhys Ifans a Iolo Williams)
- Mae ein Cymrodorion Anrhydeddus eraill yn cynnwys:
- Frances Barber
- Catrin Finch
- Tim Haines
- Mark Hughes
- Aled Jones
- Matthew Maynard
- Philip Pullman
- Bryn Terfel
- Carol Vorderman
Graddau Er Anrhydedd
Mae gan y Brifysgol awdurdod hefyd i roi Graddau er Anrhydedd. Mae wedi dewis defnyddio’r awdurdod hwn i nodi achlysuron arbennig iawn, a dim ond pedwar o bobl sydd wedi derbyn yr anrhydedd hwn hyd yma. I ddathlu canrif a chwarter ers ei sefydlu, penderfynodd y Brifysgol roi doethuriaethau er anrhydedd i bedwar o bobl tra adnabyddus yr ystyriwyd bod eu cyfraniadau dros gyfnod maith o bwysigrwydd rhyngwladol sylweddol. Cynhaliwyd y seremoni arbennig i gyflwyno’r Doethuriaethau er Anrhydedd ar 10 Mehefin 2009, a'r rhai a anrhydeddwyd oedd:
- Syr David Attenborough, OM, CH, FRS – am ei gyfraniad i ddarlledu ac astudio’r amgylchedd
- Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, AC – am ei gyfraniad i wleidyddiaeth
- Yr Athro Syr John Meurig Thomas, FRS – am ei gyfraniad i wyddoniaeth
- Yr Archesgob Desmond Tutu – am ei gyfraniad i heddwch byd a chymod