
Cyswllt allweddol
Enw cyswllt: Katie Thomas
Cyfeiriad e-bost: katie.thomas@bangor.ac.uk
Rhif ffôn: 01248 388575
Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
Mae Prifysgol Bangor yn helpu sefydliadau i gyrraedd at gyllid sy'n cefnogi ymchwil ar y cyd a throsglwyddo gwybodaeth i wella'r cynhyrchion a'r trefniadau presennol a datblygu syniadau, prosesau a chynhyrchion newydd.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y wefan neu cysylltwch â ni i siarad ag un o'n harbenigwyr arloesi:
01248 383000
hwbcydweithredu@bangor.ac.uk
![]() |
Diben Arloesi Pontio Innovation (API) yw ysgogi twf economaidd, gan gysylltu arloeswyr, dyfeiswyr ac entrepreneuriaid y rhanbarth â gwybodaeth, sgiliau ac ymchwil fwyaf blaenllaw y byd. Mae eu gweithgareddau busnes yn cynnwys datblygu cynnyrch, dylunio a llunio prototeipiau, hyfforddiant a chefnogaeth i adnabod ffyrdd newydd o feddwl, dulliau a phrosesau. |
![]() |
Mae BEACON yn adeiladu 'Cadwyni Cyflenwi Gwyrdd' integredig sy'n canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd newydd o greu cynnyrch ymarferol sy'n gystadleuol o ran cost gan ddefnyddio biomas, yn lle olew. Gwneir hyn drwy ddeall busnesau a siarad â hwy er mwyn meithrin a darparu 'Atebion trwy'r Dechnoleg Werdd' er budd diwydiant mewn amrywiol sectorau. |
Amcan B-Fentrus yw helpu myfyrwyr a graddedigion i fod yn fwy mentrus p'run a ydynt eisiau bod yn hunangyflogedig, yn ymgynghorwyr ar eu liwt eu hunain neu mewn gwaith rheolaidd. Os ydych chi wedi cychwyn eich busnes eich hunain, ac eisiau rhannu eich profiadau efo'n myfyrwyr a graddedigion, cysylltwch efo ni. | |
![]() |
Rhwydwaith i fusnesau gwyddorau bywyd yw CALIN (Y Rhwydwaith Arloesi Gwyddor Bywyd Celtaidd). Mae'n rhoi cyfle iddynt ymgysylltu â chanolfannau rhagoriaeth y prifysgolion, y byrddau iechyd, cwmnïau busnes rhyngwladol a busnesau eraill sy'n ymwneud â gwyddorau bywyd. |
![]() |
Mae prosiect Canolfannau Trosglwyddo Gwybodaeth Gogledd Cymru (CTGGC) yn fenter a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael i fusnesau gan brifysgolion a cholegau addysg bellach y rhanbarth. |
![]() |
Mae KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth) yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Graddau Meistr a PhD trwy ymchwil) gyda phartneriaid busnes allanol. |
Mae Partneriaethau SMART yn cynnig cymorth ariannol i brojectau cydweithredol arloesol sydd angen amrywiaeth o arbenigedd i helpu busnesau dyfu, gwella cynhyrchiant a'u gwneud yn fwy cystadleuol. Fe'i cynigir i fusnesau yng Nghymru ac i sefydliadau Ymchwil Cymru. | |
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn hwyluso pethau o ran trosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd academaidd i brojectau busnes yn y byd go iawn er mwyn gwella eu perfformiad a'u gwneud yn fwy proffidiol. Gall KTP barhau rhwng 12-36 mis, ac fe allai olygu penodi myfyriwr i gyflawni’r project. |
|
![]() |
Mae'r Ganolfan Pysgod Cregyn yn gynllun ymchwil ac arloesi sy'n cefnogi datblygu'r sector pysgod cregyn yng Nghymru. |