
Cystadleuaeth Pont i Tsieina
Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn rownd gyntaf y gystadleuaeth Pont i Tsieina!
Amser a dyddiad wedi'i ddiweddaru
i'w gadarnhau ym mis Ionawr 2022
Rownd Gynderfynol:
Rownd Derfynol:
Mae’r Bont i Tsieina – Cystadleuaeth Hyfedredd Tsieinëeg – yn gystadleuaeth Tsieineaidd fawr a drefnir yn flynyddol gan Bencadlys Sefydliad Confucius (Hanban) ac mae’n rhoi llwyfan pwysig o ran cyfnewid diwylliant ac addysg ledled y byd.
Mae’r fformat ar gyfer rownd gyntaf y gystadleuaeth fel a ganlyn:
Rhoi araith ar bwnc o’ch dewis chi: 3 munud. Dylai hyn gynnwys adran fer ar gyflwyno eich hun yn Tsieinëeg.
Cwis gwybodaeth ddiwylliannol: 2 funud. Dylech ateb 6 chwestiwn (yn cynnwys 4 cwestiwn ar iaith Tsieinëeg, 1 cwestiwn ar ddiwylliant a hanes Tsieina ac 1 cwestiwn ar newyddion a daearyddiaeth Tsieina).
Dangos talent personol: 3 munud. Perfformiad diwylliannol Tsieineaidd (e.e. Kong fu Tsieineaidd, Tai chi, torri papur, caligraffeg, paentio, chwarae offerynnau cerdd Tseineaidd, canu a dawnsio ac yn y blaen).
I archebu lle yn rownd gyntaf y gystadleuaeth, anfonwch e-bost atom yn confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 388555
Gofynion Mynediad
- Myfyrwyr Prifysgol (rhwng 18–30 oed).
- Nid ydych yn Tsieineaidd o ran cenedligrwydd, rydych wedi eich geni a magu y tu allan i Tsieina, nid Tsieinëeg yw eich iaith gyntaf.
- Nid ydych wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon o’r blaen
Fformat y gystadleuaeth a’r gwobrau
Mae’r broses o gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn cynnwys rowndiau rhagarweiniol (a gynhelir yn y DU) a rowndiau cynderfynol a therfynol (a gynhelir yn Tsieina).
Rhaid i bob ymgeisydd basio’r prawf rhagarweiniol ar 7 Chwefror, 2pm-4pm yn y Sefydliad Confucius ym Mangor.
Bydd dau ymgeisydd cyntaf pob gwlad yn mynd i’r ail brawf byd-eang a gynhelir yn Tsieina (bydd y pwyllgor yn talu am gludiant, bwyd a llety).
Trefniadau’r prawf:
- Bydd dau ymgeisydd cyntaf y prawf rhagarweiniol yn mynd i ail brawf a gynhelir yn Llundain.
- Bydd yr ymgeiswyr sy’n llwyddo yn yr ail brawf yn mynd i rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn y DU.
- Dylai’r profion rhagarweiniol gael eu cwblhau erbyn diwedd(dyddiad i'w gadarnhau)
- Dylid uwchlwytho ceisiadau’r ymgeiswyr sy’n mynd i’r ail brawf yn Llundain erbyn y dyddiad cau( dyddiad i'w gadarnhau)
Trefnir i’r ail brawf gael ei gynnal yn ystod prynhawn ( dyddiad i'w gadarnhau)
Gwobrau
Bydd enillwyr y gystadleuaeth ragarweiniol a’r ail gystadleuaeth yn derbyn gwobrau gan y trefnwyr.
Y gwobrau terfynol i’r gystadleuaeth yn y DU yw:
- Gwobr 1af o £400 (un enillydd)
- 2ail wobr o £300 (un enillydd)
- 3edd wobr o £200 (dau enillydd)
- 4edd wobr o £100 (tri enillydd)
Bydd enillwyr y gwobrau 1af ac 2ail yn cael cyfle i gynrychioli’r DU yn y rowndiau cyn-derfynol a therfynol yn Tsieina.