Adnoddau Dysgu Ar-lein
Croeso i’n tudalen adnoddau dysgu ar-lein! Rydym yn falch iawn o gynnig cyrsiau iaith Tsieinëeg ar Zoom yn ogystal â dosbarthiadau fideo am y diwylliant Tsieineaidd. I gael mwy o fanylion a chofrestru, dilynwch y cysylltiadau isod.
Cyrsiau iaith Tsieinëeg ar-lein
HSK 1 Cwrs Adolygu
Ydych chi’n gobeithio sefyll arholiad HSK 1 yn 2023 ond yn ansicr sut i baratoi? Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs 10 wythnos AR-LEIN i baratoi at arholiadau a fydd yn dechrau ar 18 Ebrill.
Manylion y cwrs: 6:00pm dydd Mawrth ar Zoom (deg dosbarth 1 awr)
Dyddiadau'r cwrs: 18 Ebrill - 27 Mehefin 2023
Rhagofynion: Cwblhau cwrs HSK 1
Ffi: £40*
* Am ddim i fyfyrwyr presennol cwrs HSK 1 a gofrestrodd ar gyfer arholiad HSK 1.
Mae'r wythnos gyntaf yn rhad ac am ddim, a gallwch dalu yma i gofrestru ar gyfer gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gyntaf.
Disgrifiad o'r Cwrs: Dyma gwrs Mandarin sy'n addas i fyfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1 sydd bellach yn paratoi i sefyll arholiad HSK 1. Bydd ein Tiwtor yn canolbwyntio ar feistroli’r eirfa 150 gair yn systematig drwy adolygu strwythurau brawddegau a chwestiynau a rhoi adborth ac anogaeth!
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio arholiad HSK 1.
Rydym yn argymell bod y myfyrwyr yn gwneud o leiaf 2 awr o astudio annibynnol bob wythnos i sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu dilyn cyflymder y cwrs.
Y Deilliannau Dysgu:
• cynefindra â strwythur arholiadau HSK 1 a mathau o gwestiynau
• meistrolaeth ar ramadeg a geirfa HSK 1
• hyder mewn dysgu hunan-gyfeiriedig
Y Deunyddiau Dysgu: Caiff yr holl ddeunyddiau addysgu eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 1 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu.
Dolen ymuno: Ar ôl cofrestru (isod), bydd eich tiwtor cwrs yn cysylltu â chi drwy ddolen cyfarfod Zoom. Cofrestrwch gyda Zoom i gael eich cyfrif am ddim.
HSK 2 Cwrs Adolygu
Yn gobeithio cymryd HSK 2 yn 2023 ond yn ansicr sut i baratoi? Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs 10 wythnos AR-LEIN i baratoi at arholiadau a fydd yn dechrau ar 18 Ebrill.
Manylion y cwrs: 7:15pm dydd Mawrth ar Zoom (deg dosbarth 1 awr)
Dyddiadau'r cwrs: 18 Ebrill - 27 Mehefin 2023
Rhagofynion: Cwblhau cwrs HSK 1 & HSK2
Ffi: £50*
* am ddim i fyfyrwyr presennol cwrs HSK 2 a gofrestrodd ar gyfer arholiad HSK 2 gyda ni.
Mae'r wythnos gyntaf yn rhad ac am ddim, a gallwch dalu yma i gofrestru ar gyfer gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gyntaf.
Disgrifiad o'r Cwrs: Dyma gwrs Mandarin sy'n addas i fyfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1 a HSK 2 sydd bellach yn paratoi i sefyll arholiad HSK 2. Bydd ein Tiwtor yn canolbwyntio ar feistroli’r 349 nod yn systematig, sefydlu geirfa o 300 o eiriau Tsieinëeg a ddefnyddir mewn cyd-destunau beunyddiol, a chynnig adborth ac anogaeth!
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio arholiad HSK 2.
Rydym yn argymell bod y myfyrwyr yn gwneud o leiaf 2 awr o astudio annibynnol bob wythnos i sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu dilyn cyflymder y cwrs.
Y Deilliannau Dysgu:
• cynefindra â strwythur arholiadau HSK 2 a mathau o gwestiynau
• meistrolaeth ar ramadeg a geirfa HSK 2
• hyder mewn dysgu hunan-gyfeiriedig
Y Deunyddiau Dysgu: Caiff yr holl ddeunyddiau addysgu eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 2 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu.
Dolen ymuno: Ar ôl cofrestru (isod), bydd eich tiwtor cwrs yn cysylltu â chi drwy ddolen cyfarfod Zoom. Cofrestrwch gyda Zoom i gael eich cyfrif am ddim.
HSK 3 Cwrs Adolygu
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin i baratoi at arholiad AR-LEIN AM DDIM trwy Zoom. Bydd y cwrs ar gael mewn rhannau dros 10 wythnos (awr a hanner yr wythnos).
Sesiynau: Bob Dydd Iau, 7.00-8:30 pm
Dyddiad dechrau: 20 Ebrill 2023
Dyddiad gorffen: 29 Mehefin 2023
Rhagofynion: Cwblhau cwrs HSK 1, HSK 2, HSK 3
Ffioedd: £60*
* Mae’r cwrs am ddim i fyfyrwyr a ddilynodd ein cwrs HSK ar-lein ac a gofrestrodd i sefyll yr arholiad HSK gyda ni.
Mae'r gwers gyntaf yn rhad ac am ddim, a gallwch dalu yma i gofrestru ar gyfer gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gyntaf.
Disgrifiad o'r Cwrs: Mae'r cwrs Mandarin hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1, HSK 2, a HSK 3 ac sydd bellach yn barod i adolygu a pharatoi i sefyll arholiad HSK 3. Bydd ein tiwtor yn canolbwyntio ar eich cynorthwyo i feistroli tua 600 o nodau/geiriau yn systematig i sefydlu geirfa o dros 600 gair. Byddwch yn meithrin gwybodaeth gadarnach o’r pwyntiau gramadegol a ddefnyddiwyd yn y tri llyfr HSK cyntaf, ac yn cymryd rhan mewn ymarferion gwrando a deall mwy cymhleth mewn Mandarin.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio’r arholiad HSK 3.
Rydym yn argymell bod myfyrwyr yn gwneud o leiaf awr o astudio annibynnol bob dydd i sicrhau eu bod yn gallu dilyn cyflymder y cwrs.
Deilliannau dysgu: Yn gyfarwydd â strwythur arholiadau HSK3 a’r mathau o gwestiynau; dealltwriaeth fwy manwl o ramadeg a geirfa Tsieinëeg; hyder mewn dysgu iaith Tsieineaidd ar eu liwt eu hunain.
Deunyddiau dysgu: Mae'r holl ddeunyddiau addysgu yn cael eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 3 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru (isod) bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda chyswllt cyfarfod Zoom eich gwers. Bydd angen i chi gofrestru gyda Zoom i greu cyfrif rhad ac am ddim.
HSK 4 Cwrs Adolygu
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin AR-LEIN AM DDIM trwy Zoom i baratoi at arholiad. Bydd y cwrs ar gael mewn rhannau dros 10 wythnos (awr a hanner yr wythnos).
Rhagofynion: Cwblhau cwrs HSK 1, HSK 2 ac HSK 3
Sesiynau: Bob dydd Mercher, 7 tan 8:30 yr hwyr
Dyddiad dechrau: 19 Ebrill 2023
Dyddiad gorffen: 28 Mehefin 2023
Rhagofynion: HSK 1, HSK 2, HSK 3, HSK 4
Ffioedd: £90*
* Mae’r cwrs am ddim i fyfyrwyr a ddilynodd ein cwrs HSK ar-lein ac a gofrestrodd i sefyll yr arholiad HSK gyda ni.
Mae'r
gwers
gyntaf yn rhad ac am ddim, a gallwch dalu yma i gofrestru ar gyfer gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gyntaf.
Disgrifiad o'r Cwrs: Dyma gwrs Mandarin sy'n addas i fyfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1, HSK 2, HSK 3 ac HSK 4 ac sydd bellach yn barod i adolygu a pharatoi i sefyll arholiad HSK 4. Bydd ein tiwtor yn canolbwyntio ar feistroli’n systematig tua 1200 o gymeriadau/geiriau Tsieineaidd a ddefnyddir mewn cyd-destunau bob dydd, deall y strwythurau gramadeg a ddysgwyd o’r gwersi blaenorol, cynnal ymarferion a sgyrsiau gwrando a deall mwy cymhleth, a chyfathrebu ehangach mewn Mandarin gyda dywediadau cyffredin neu ymadroddion diwylliannol.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio arholiad HSK 4.
Rydym yn argymell bod y myfyrwyr yn gwneud o leiaf awr o astudio annibynnol bob dydd i sicrhau eu bod yn gallu cadw at gyflymder y cwrs.
Deilliannau dysgu: Yn gyfarwydd â strwythur arholiadau HSK4 a’r mathau o gwestiynau; dealltwriaeth fwy manwl o ramadeg, geirfa, ac ymadroddion cyffredin Tsieinëeg; hyder mewn dysgu iaith Tsieineaidd ar eu liwt eu hunain.
Deunyddiau dysgu: Caiff yr holl ddeunyddiau addysgu eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 4 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru (isod) bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda chyswllt cyfarfod Zoom eich gwers. Bydd angen i chi gofrestru gyda Zoom i greu cyfrif am ddim.
HSK 5 Cwrs Adolygu
Rhagofynion: Cwblhau cwrs HSK 1, HSK 2, HSK 3, HSK 4 & HSK5
Sesiynau: Bob dydd Mawrth, 7.00-8.30 pm
Dyddiad dechrau: 18 Ebrill 2023
Dyddiad gorffen: 27 Mehefin 2023
Rhagofynion: HSK 1, HSK 2, HSK 3, HSK 4, HSK 5
Ffioedd: £100*
* Mae’r cwrs am ddim i fyfyrwyr a ddilynodd ein cwrs HSK ar-lein ac a gofrestrodd i wneud arholiad HSK gyda ni.
Mae'r
gwers
gyntaf yn rhad ac am ddim, a gallwch dalu yma i gofrestru ar gyfer gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gyntaf.
Disgrifiad o'r Cwrs: Dyma gwrs Mandarin sy'n addas i fyfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1, HSK 2, HSK 3, HSK 4 a HSK 5 ac sydd bellach yn barod i adolygu a pharatoi i sefyll arholiad HSK 5. Bydd y Tiwtor yn mynd ati’n systematig i feistroli tua 2500 o nodau/geiriau Tsieineaidd mewn cyd-destunau beunyddiol a rhai deunyddiau darllen. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymarferion gwrando a deall mwy cymhleth a chyfathrebu llafar yn ystod y cwrs. Mae disgwyl hefyd i’r myfyrwyr ddarllen ac ysgrifennu brawddegau cymhleth a darnau byrion hyd at 100 o nodau/geiriau, yn ogystal â gallu gwneud rhywfaint o gyfieithu.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio arholiad HSK 5.
Rydym yn argymell bod y myfyrwyr yn gwneud o leiaf awr o astudio annibynnol bob dydd i sicrhau eu bod yn gallu cadw at gyflymder y cwrs.
Deilliannau dysgu: Yn gyfarwydd â strwythur arholiadau HSK5 a mathau o gwestiynau; dealltwriaeth fanylach o ramadeg, geirfa, dywediadau ac/neu idiomau Tsieinëeg a gwybodaeth ddiwylliannol; hyder i ddysgu’r iaith Tsieinëeg ar eu menter eu hunain.
Deunyddiau dysgu: Caiff yr holl ddeunyddiau addysgu eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 5 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru (isod) bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda chyswllt cyfarfod Zoom eich gwers. Bydd angen i chi gofrestru gyda Zoom i greu cyfrif am ddim.
Cornel Tsieineaidd
Ymunwch â ni i ymarfer eich sgiliau Tsieineaidd ar-lein trwy Teams mewn lleoliad anffurfiol!
Dechreuwyr/Canolradd Isel
17 Ionawr 2023- 23 Mai 2023
Nos Fawrth 6.30pm-7.30pm
AM DDIM
Canolradd/Uwch
19 Ionawr 2023-25 Mai 2023
Nos Iau 6.30pm-7.30pm
AM DDIM
Anfonir dolenni cyfarfodydd tîm at fynychwyr cofrestredig
Pynciau wythnosol
Dechreuwyr/ Canolradd Isel | Themâu gwersi | Canolradd/Uwch |
17/01/2023 | Diwrnod ym Mywyd Myfyriwr Tsieineaidd |
19/01/2023 |
24/01/2023 | Chwarae ar Eiriau Tsieinëeg |
26/01/2023 |
31/01/2023 | Y System Addysg Tsieineaidd |
02/02/2023 |
07/02/2023 |
Mynegiadau Emosiynol |
09/02/2023 |
14/02/2023 | Cerddoriaeth Bop Tsieinëeg |
16/02/2023 |
28/02/2023 | Beth mae’r to iau yn ei wisgo yn Tsieina? |
02/03/2023 |
07/03/2023 | Tecawe a Dosbarthu yn Tsieina |
09/03/2023 |
14/03/2023 | Te Tsieineaidd a'i Ddiwylliant |
16/03/2023 |
21/03/2023 | Dysgwch gân Tsieinëeg |
23/03/2023 |
28/03/2023 | Planhigion a Phobl |
30/03/2023 |
18/04/2023 | Galwedigaethau sy'n Dod i'r Amlwg yn Tsieina |
20/04/2023 |
25/04/2023 | Siopwyr Ar-lein Soffistigedig | 27/04/2023 |
02/05/2023 | Dêt Dall Tsieineaidd | 04/05/2023 |
09/05/2023 | Y 24 Term Solar |
11/05/2023 |
16/05/2023 | Tŷ Crwn Hakka yn Mulan | 18/05/2023 |
23/05/2023 | Bywyd Cyflym ac Araf | 25/05/2023 |
Tsieinëeg i Athrawon
Mae’r cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus hwn wedi’i gynllunio ar gyfer athrawon sy’n fodlon dysgu Mandarin a chefnogi darpariaeth hirdymor yr iaith yn eu hysgolion.
Bydd y cwrs yn dysgu sgiliau iaith Mandarin sylfaenol mewn pynciau hanfodol i athrawon ysgol y gallant helpu i’w cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth.
10 Hydref -12 Rhagfyr 2022
Bob dydd Llun -7.30-8.30 pm
Ar-lein
Cwrs yn cynnwys:
Cyflwyniad i Fandarin
Gweithgareddau Diwylliannol
Tystysgrif Presenoldeb
Dim Arholiadau
Adnoddau Ar-lein
Cyrsiau ar-lein am ddim
Deialogau Adolygu HSK
Diwylliant Tsieiniaidd
Caligraffeg Tsieineaidd
Fideos Caligraffeg Tsieineaidd
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig rhai fideos ynglŷn â Caligraffeg Tsieineaidd ar YouTube. Dyma gyfle gwych i ddysgu ac ymarfer crefft Tsieineaidd hynafol.
Mwynhewch ein gwersi fideo yma.