Cyfarfod â’r Tîm
Ein Cyfarwyddwyr
Arweinir Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor gan dau ghyfarwyddwr. Mae pob un yn arbenigwr yn ei ddisgyblaeth academaidd ac maent i gyd yn ymroddedig i weledigaeth y Sefydliad Confucius i hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieineaidd yng Ngogledd Cymru.
- Dr Lina Davitt, Cyfarwyddwr
Cwblhaodd Lina MA mewn Economeg ym Mhrifysgol Economi Genedlaethol a’r Byd (Bwlgaria), BSc mewn Seicoleg, MSc mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol a PhD yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Daw hi o dref fechan Peshtera ym Mynyddoedd Rodopi Bwlgaria. Mae Lina wedi bod yn rhan o dîm Sefydliad Confucius (CI) ers dros naw mlynedd a chafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr y Sefydliad yn 2018.
Mae gan Lina ddiddordebau ymchwil eang sy'n cynnwys gwyddoniaeth, celf ac addysg. Mae'n cydweithio â chydweithwyr ar draws ystod eang o ddisgyblaethau ym Mangor, gyda phrifysgol bartner y Sefydliad, Prifysgol Gwyddor Gwleidyddol a'r Gyfraith Tsieina, a chyda chydweithwyr o fewn rhwydwaith byd-eang Sefydliadau Confucius.Mae Lina yn teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o daith myfyrwyr Sefydliad Confucius wrth i ddysgu iaith a diwylliant newydd agor byd newydd o fwy o bosibiliadau, dealltwriaeth a goddefgarwch ac sy’n ein grymuso i ymgysylltu â’r byd mewn ffordd feddylgar a thosturiol.
Pan nad yw'n gweithio, gellir dod o hyd i Lina yn achub anifeiliaid mewn angen, yn ymarfer yoga, yn crwydro mynyddoedd Cymru ac yn cerdded gyda'i chi.
- Yr Athro Cyswllt
FU Yao, Gyfarwyddwr
Mae FU Yao yn Ddoethur yn y Gyfraith ac yn athro cysylltiol a ymunodd â’r Ysgol Ieithoedd Tramor ym Mhrifysgol Gwyddor Wleidyddol a’r Gyfraith Tsieina yn 2003. Yn 2010 cwblhaodd ei PhD mewn Hanes Cyfreithiol a dyfarnwyd DAAD, ysgoloriaeth Almaenig, iddi. Treuliodd Fu Yao flwyddyn a hanner yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Rydd Berlin fel ymchwilydd ôl-ddoethurol.
Mae Fu Yao yn gyfarwyddwr gweithredol Cymdeithas Iaith Gyfreithiol Tsieina, yn gyfarwyddwr cymdeithas y gyfraith Tsieina, Cymdeithas y Gyfraith Gwyddoniaeth a Thechnoleg a'r gymdeithas cyfraith achosion. Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys astudiaethau cyfieithu, Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau a Hanes Cyfreithiol. Mae ei hieithoedd gwaith yn cynnwys Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Ers mis Medi 2021, mae hi wedi bod yn Gyd-gyfarwyddwr Tsieineaidd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Athrawon Iaith Tsieinëeg
- YU Kewen , Uwch Athro
- LU Shan, Uwch Athro
- WANG Zhijun , Uwch Athro
- WANG Yifan, Tiwtor
- ZHANG Jun, Tiwtor
- CHEN Mengling, Tiwtor
- QI Shujun, Tiwtor
- QI Li, Tiwtor
- HUANG Ruiqun, Tiwtor
Athrawon Lleol
- YANG LI (Annie) , Tiwtor
- MENG Yang (Emily), Tiwtor
- LU Bixao, Tiwtor
- JIANG Jingjing, Tiwtor
- Melanie Brown, Tiwtor
Marchnata a Gweinyddu