Delwedd o ŵyl Glastonbury gyda logo Pi-pi'n gyfrifol

Pi-pi'n gyfrifol

Os ydych chi'n mynd i ŵyl eleni yna mae ymchwil gan Brifysgol Bangor wedi tynnu sylw at gam hanfodol y gallwch ei gymryd i helpu i ofalu am yr amgylchedd.

Rydych yn siŵr o gael cerddoriaeth wych, haul (croesi bysedd), ffrindiau ac amser da os ydych yn bwriadu mynd i ŵyl dros y misoedd nesaf - ac mae'n debyg y byddwch eisiau bod mor gyfeillgar i’r amgylchedd â phosibl yn ystod eich cyfnod yno.

Efallai y byddwch yn ceisio rhannu lifft neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau faint o blastig untro rydych chi'n ei ddefnyddio, a mynd â'ch offer a'ch sbwriel i gyd adref gyda chi.

Ond mae rhywbeth arall y gallwch ei wneud, mae'n rhywbeth hynod o syml i'w wneud (neu beidio!) ond gall gael canlyniadau amgylcheddol enfawr.

Peidiwch â phi-pi ar lawr.

Mae mor syml â hynny - peidiwch â phasio dŵr ar lawr, yn lle hynny gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r cyfleusterau a ddarperir gan drefnwyr yr ŵyl. 

Does dim gwahaniaeth pa mor hir yw'r ciw - defnyddiwch y toiled.

Pam? Y rheswm yw bod pi-pi yn cynnwys gwahanol gyfansoddion, a phan fydd llawer ohono yn cael ei basio gan lawer o bobl mewn gŵyl, mae’n gallu cronni, llifo i mewn i nentydd ac afonydd cyfagos lle gall lygru'r dŵr ac yn y pen draw niweidio pryfed, pysgod a bywyd gwyllt arall.

Mae pi-pi yn cynnwys gwahanol gyfansoddion, a phan fydd llawer ohono yn cael ei basio gan lawer o bobl mewn gŵyl, mae’n gallu cronni, llifo i mewn i nentydd ac afonydd cyfagos lle gall lygru'r dŵr ac yn y pen draw niweidio pryfed, pysgod a bywyd gwyllt arall.

Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor, a gyhoeddwyd y llynedd, hefyd yn dangos perygl ychwanegol i bi-bi’r rhai sy'n mynd i wyliau sef cyffuriau.

Dangosodd waith gan dîm o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol a’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol bod lefelau rhai cyffuriau anghyfreithlon yn ystod yr Ŵyl Glastonbury ddiwethaf wedi cyrraedd lefelau a allai fod yn niweidiol i’r amgylchedd yn yr afon sy’n llifo drwy’r safle.

Mae rhai pobl mewn gwyliau yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon, fel cocên ac ecstasi, a gwelsom y gall y cyffuriau hyn gyrraedd lefelau niweidiol i'r amgylchedd yn yr afon gyfagos. Mae’r cyffuriau hyn yn fwyaf tebygol o fynd i’r dŵr wrth i bobl basio dŵr yn yr ardal.

Gall cyffuriau, a chemegau eraill yn eich pi-pi gyrraedd yr afonydd yn gymharol gyflym felly mae'n bwysig iawn defnyddio'r cyfleusterau a ddarperir gan drefnwyr yr ŵyl.

Gall y coctel o gyffuriau sy’n mynd i mewn i’r dŵr niweidio pob math o fywyd dyfrol.

Dr Christian Dunn,  Prifysgol Bangor

Felly, os ydych eisiau mynd i’r gwyliau a bod yn ecogyfeillgar, ymunwch ag ymgyrch Prifysgol Bangor i ddefnyddio'r toiled a pheidio â phi-pi ar lawr!

“Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn gwneud rhagor o ymchwil i weld pa mor niweidiol yw’r broblem hon, a beth allwn ei wneud i dynnu’r cyffuriau o ddyfrffyrdd, neu eu hatal rhag mynd i mewn iddynt yn y lle cyntaf – trwy er enghraifft defnyddio gwelyau cors a gwlyptiroedd sydd wedi’u cynllunio’n arbennig.

“Ond gallwch chi wneud rhywbeth i helpu a hynny yw – peidiwch â phasio dŵr ar lawr mewn gŵyl. Efallai eich bod chi'n meddwl eich bod yn bell oddi wrth afon, a dim ond un pi-pi ydyw, ond peidiwch; defnyddiwch y toiled.

Mae pob pi-pi yn cyfrif!"

Rydym i gyd eisiau byw'n gynaliadwy a gwneud ein rhan i helpu'r amgylchedd - rydym i gyd hefyd eisiau cael ychydig o hwyl wrth fwynhau gwyliau’r haf.

Wel, gallwch wneud y ddau - dim ond trwy beidio â phasio dŵr ar lawr.

Gallwch ddarllen mwy am ein hymchwil yma

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?