Gweminar YGGCC: Archwilio Eich Opsiynau Gyrfa Ar Ôl y PhD
Gwahoddwn i chi gofrestru ar gyfer ein gweminar Datblygu Gyrfa sydd ar ddod, a gyflwynir mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Os ydych yn ystyried gyrfa academaidd ar ôl eich PhD, archwilio cyfleoedd y tu allan i’r byd academaidd, neu’n chwilio am fwy o eglurder mewn marchnad swyddi gystadleuol, bydd y sesiwn hon yn eich cefnogi i feddwl yn strategol am eich camau nesaf.
Bydd y gweminar yn cynnwys siaradwyr o bob rhan o’r Gwyddorau Symdeithasol, yn rhannu mewnwelediadau o lwybrau gyrfa academaidd ac anacademaidd.
Bydd ein siaradwyr yn siarad am eu gyrfaoedd amrywiol a’u llwybrau gyrfa o wneud ymchwil PhD i ble maen nhw nawr.
Dilynir hyn gan Holi ac Ateb. Ymunwch â ni ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn brynhawn diddorol, craff ac ysbrydoledig - croeso i bawb!
Bydd y sesiynau’n cael eu cyflwyno drwy Teams ac yn cael eu trefnu gan mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cofrestrwch yma