Gwirfoddoli
Mae Prifysgol Bangor am ennyn perthynas â'i chyn-fyfyrwyr a fydd yn parhau gydol oes ac mae'n falch fod ganddi alumni ledled y byd sy'n dal i gynnal cysylltiad a'u halma mater ar ôl iddynt adael y Brifysgol.
Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau proffesiynol a phersonol llawer un ac maent yn frwd dros ddod â Bangoriaid eraill ynghyd a meithrin ewyllys da tuag at y Brifysgol. Mae'r alumni sy'n gwirfoddoli fel arfer yn gyn-fyfyrwyr sydd wedi cadw mewn cysylltiad a'u halma mater ac sy'n rhannu diddordeb yn nhwf proffil y Brifysgol fel sefydliad o safon fyd-eang.
Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni (DARO) yma i helpu cefnogi'r cyn-fyfyrwyr hynny sydd am wneud cyfraniad at Fangor. Mae'r gwirfoddolwyr yn eiriolwyr ac yn gyfathrebwyr brwdfrydig dros genhadaeth a gweledigaeth Bangor ac mae gwirfoddolwyr o blith yr alumni wedi helpu'r Brifysgol trwy'r gweithgareddau isod:
- trefnu a chynorthwyo mewn aduniadau a digwyddiadau
- cefnogi myfyrwyr trwy roi sgyrsiau am yrfaoedd, rhoi cyngor ar CVs / ceisiadau swydd etc.
- helpu’r Brifysgol ail-gysylltu ag alumni eraill
- darparu proffiliau alumni
- cefnogi ymchwil yn y Brifysgol drwy gysylltiadau busnes
- sefydlu grwpiau alumni newydd yn eu hardal
- cynorthwyo gyda gweithgareddau i recriwtio myfyrwyr (ffeiriau gyrfaoedd, diwrnodau agored ac ati)
Mae'r Tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni wedi paratoi llawlyfr i'r alumni hynny sy'n dymuno sefydlu grwpiau gwirfoddoli i helpu gweithgareddau DARO. Rydym yn barod i drafod a chynghori ynghylch unrhyw agwedd ar yr wybodaeth sydd yn y llawlyfr ac i gydweithio â'r gwirfoddolwyr ar y gweithgareddau arfaethedig.
Os hoffech wirfoddoli i helpu'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni gydag unrhyw weithgareddau uchod, a bod gennych ddiddordeb sefydlu grŵp gwirfoddoli neu fod gennych awgrymiadau, e-bostiwch: alumni@bangor.ac.uk neu ffoniwch + 44 (0) 1248 388332.
Ymunwch â ni ar-lein!
Fel y gŵyr miloedd o'n cyn-fyfyrwyr, gallwch gadw mewn cysylltiad drwy ymuno â ni ar LinkedIn, Facebook ac Instagram.
Alumni Rhyngwladol
Rydym yn falch bod myfyrwyr rhyngwladol yn dewis astudio ym Mangor ac, fel alumni, yn ein helpu ni hyrwyddo'r Brifysgol ledled y byd. Darllenwch ragor o fanylion ynglŷn â sut y gallwch chi, fel alumnus Rhyngwladol, gefnogi gweithgareddau Prifysgol Bangor yn eich gwlad.