Sefydlwyd y Bwrdd Ymgynghorol Alumni yn 2006 fel grŵp ymgynghorol anllywodraethol o alumni'r Brifysgol sydd wedi cadw mewn cysylltiad â'u alma mater ac sy'n rhannu diddordeb yn nhwf sylfaen gadarn o gyn-fyfyrwyr sy'n cymryd rhan ym materion y brifysgol. Diben y Bwrdd yw cynrychioli'r gymuned alumni ehangach a rhoi barn ac awgrymiadau i'r Brifysgol ar y materion hynny sydd o ddiddordeb i alumni.
Mae aelodau'r bwrdd yn hyrwyddo ac yn cyfathrebu cenhadaeth a gweledigaeth Bangor, gan weithio i symud rhaglen gysylltiadau alumni'r Brifysgol yn ei blaen. Maent yn cefnogi’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni mewn sawl ffordd, gan gynnwys cynorthwyo i greu sylfaen o arweinwyr gwirfoddol o blith alumni, cynllunio a rheoli digwyddiadau alumni a chynorthwyo i nodi aelodau newydd posibl neu alumni a allai fod yn barod i ymwneud â'r Brifysgol.
Aelodau Alumni

Cadeirydd:
Dr George Buckley (1993, Economeg)
George Buckley yw Prif Economydd y DU i Nomura. Ymunodd â Deutsche Bank fel Prif Economydd y DU ym 1998 ar ôl cwblhau doethuriaeth ym maes marchnadoedd tai a morgeisi ym Mhrifysgol Bryste. Tra roedd ym Mryste, bu George yn darlithio a dysgu macro-economeg i israddedigion.
Mae ganddo MSc mewn cyllid ac economeg o’r un brifysgol a BA economeg o Brifysgol Bangor. Ef yw awdur y llyfr “What You Need to Know About Economics” (2011).
Mae George hefyd yn un o aelodau sefydlu Grŵp 2020 Bangor, grŵp busnes i gyn-fyfyrwyr Bangor sy’n aros mewn cysylltiad â’r brifysgol ac yn cynorthwyo mewn amryw o ffyrdd, yn cynnwys codi proffil y brifysgol mewn marchnadoedd allweddol. Penodwyd George yn gadeirydd y Bwrdd Ymghynorol Alumni ym mis Mawrth 2015.
Yr Athro Andrew Brown (1978, Astudiaethau Addysg)

Mae Andrew yn Athro Addysg a Chymdeithas yn Sefydliad Addysg UCL, lle mae'n Gyfarwyddwr Dros Dro ar hyn o bryd. Mae hefyd wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr (Datblygiad Academaidd), Deon y Gyfadran Polisi a Chymdeithas a Deon yr Ysgol Ddoethurol. Fel aelod o dîmuwch UCL a'r Sefydliad Addysg, mae'n chwarae rhan strategol ar draws y sefydliad ac yn gyfrifol am feithrin diwylliant deallusol bywiog, lledaenu enw da'r Sefydliad Addysg fel canolfan bwysig ar gyfer ysgolheictod mewn ymchwil addysg a chymdeithasol a chynrychioli'r Sefydliad Addysg gydag asiantaethau allanol. Mae ei waith academaidd fel cymdeithasegydd yn archwilio'r berthynas rhwng disgwrs academaidd, proffesiynol bob dydd ac ymarfer a chynhyrchu/atgynhyrchu cysylltiadau cymdeithasol, a datblygiad galluoedd ymchwil.
Ar ôl rhoi'r gorau i gwrs ffiseg ddamcaniaethol yn Warwick yn 1974 fe'i hysbrydolwyd i ymwneud mwy gydag addysg ac fe ymgeisiodd am lefydd ar raglenni addysg israddedig a bu'n ddigon ffodus i gael cynnig lle ym Mangor. Gan fod Andrew bellach yn y swydd academaidd uchaf yn y byd ym myd addysg, mae'n falch o ddweud fod ei radd o Brifysgol Bangor wedi newid ei fywyd!
Tim Clay (1982, Bioleg Môr / Eigioneg)

Ymunodd Tim â'r diwydiant gwasanaethau ariannol ar ôl graddio o Brifysgol Bangor yn 1982. Roedd yn gyd-sylfaenydd Clay Rogers & Partners Ltd, un o brif gwmnïau cynllunio ariannol annibynnol Birmingham, cyn i'r busnes hwn ddod i feddiant Succession Group ym Medi 2016. Mae Tim yn gweithio'n agos gyda chyfreithwyr corfforaethol a phriodasol a chyfreithwyr cleientiaid preifat ac yn rhannu ei amser yn bennaf rhwng Canolbarth Lloegr a chanol Llundain. Mae hefyd yn helpu i sefydlu rhaglen hyfforddi Succession i raddedigion.
Cyfarfu Tim â'i wraig, Laura, pan oedd y ddau yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ac maent yn dychwelyd bob blwyddyn, gyda'u plant sydd bellach wedi tyfu i fyny, ar gyfer penwythnos yr Hen Fechgyn.
Mae'n hoff o chwaraeon a chodi arian i elusennau ac mae'n aelod o bwyllgor rhanbarthol The Lord's Taverners. Mae hefyd yn Warden Swyddfa Brofion Birmingham.
Jane Griffin (1993, Ffrangeg)

Jane yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Positive Story - ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus strategol sy'n arbenigo mewn cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer busnesau technoleg newydd a chwmnïau diwydiannol byd-eang.
Mae Jane yn gyn-ohebydd newyddion teledu a radio ar gyfer y BBC ac ITV ac mae ganddi fwy na phum mlynedd ar hugain o brofiad yn rhychwantu newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus.
Mae hi wedi gweithio gydag asiantaethau ac yn fewnol ac arferai fod yn Bennaeth Cysylltiadau Cyfryngau Byd-eang a Seilwaith yn y cwmni peirianneg, rheoli prosiect ac adeiladu blaenllaw, Bechtel, am saith mlynedd. Bu hefyd yn Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol am bedair blynedd ar gyfer Angel Trains Group, sy'n rhan o Grŵp Banc Brenhinol yr Alban. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn uwch-swyddi cysylltiadau â’r cyfryngau gyda BAE Systems, Network Rail, Eurotunnel ac ATOC.
Kailesh Karavadra (1989, Peirianneg Electronig)
Kailesh Karavadra yw Rheolwr Marchnadoedd Twf Rhanbarth y Gorllewin Ernst and Young, yn Silicon Valley, ac mae'n gyfrifol am bortffolio sy'n cynnwys rhai o brif gwmnïau technoleg y byd.
Fe'i ganed yn Kampala, Uganda i rieni o India, a daeth i Brydain fel ffoadur. Dewisodd ddod i Fangor yn lle Prifysgol Rhydychen i astudio BSc mewn Peirianneg Electronig, a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1989, ac arhosodd ym Mangor i wneud gradd Meistr mewn Peirianneg, gan ychwanegu modiwlau cyfrifyddu ac ariannol ychwanegol at ei raglen Meistr.
Ymunodd Kailesh ag Ernst & Young fel cyfrifydd yn eu swyddfeydd yn Luton a Llundain ar ddechrau'r 1990au ac ym 1995, trosglwyddodd i swyddfa San Jose Ernst & Young ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau
Ochr yn ochr â gyrfa brysur a bywyd teuluol, mae Kailesh yn gwneud gwaith gwirfoddol helaeth gyda nifer o elusennau gan gynnwys y Food Rescue Mission yn San Jose a rhaglen Small Business Ignite Mentoring y Maer i hybu twf busnesau bach. Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am Wasanaethau i Fusnes yn 2017.
Susan Owen Williams (1995, MBA Bancio a Chyllid)

Daw Susan o ogledd Cymru ac mae'n siarad Cymraeg, a bu'n astudio cwrs MBA Sefydliad Siartredig y Bancwyr ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor ac Ysgol Fusnes Manceinion, gan raddio yn 1995.
Ar hyn o bryd mae'n Rheolwr Newid yn RBS, yn gweithio ar y Rhaglen Glustnodi, sy'n deillio o'r Comisiwn Annibynnol ar ddiwygiadau bancio. Mae gan Susan dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y gwasanaethau ariannol yn y DU ac Ewrop mewn bancio corfforaethol a phreifat, diogelu, rheoli cyfoeth a buddsoddi a strategaethau a rheoli ar gyfer Aberdeen Asset Management, Coutts & Co, Credit Suisse a Deutsche Bank.
Mae Susan yn cadw mewn cysylltiad â'i gwreiddiau yng Nghymru drwy weithgareddau fel digwyddiadau rhwydweithio 'Cymru yn Llundain'.
Dr Ross Piper (1998, Sŵoleg gydag Ecoleg Anifeiliaid)

Mae’r alumnus o Fangor Dr Ross Piper yn sŵolegydd, yn awdur ac yn gyflwynydd. Ar ôl Bangor, cafodd Ross PhD ym Mhrifysgol Leeds.
Ar ddechrau 2013, bu’n rhan o daith i ddogfennu bywyd gwyllt Byrma. Arweiniodd hyn at y gyfres dair-rhan, Wild Burma: Nature’s Lost Kingdom, a ddarlledwyd ar BBC2 yn 2014. Mae Ross hefyd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, yn cynnwys Animal Earth, sydd yn edrych ar yr amrywiaeth a geir ym myd yr anifeiliaid.
Mae Ross wedi dychwelyd i’r Brifysgol ar nifer o achlysuron er mwyn cefnogi myfyrwyr presennol gan gynnwys darlith gyhoeddus ar ei waith fel rhan o gyfres ddarlithoedd Cymdeithas Sŵolegol Prifysgol Bangor.
Cyflwynwyd gwobr Alumnus y Flwyddyn i Dr Ross Piper yn 2015, i gydnabod nid yn unig ei lwyddiant proffesiynol, ond hefyd ei gyfraniad a chefnogaeth barhaus i’r Brifysgol.
Mark Rigby (1979, Amaeth)

Ar ôl graddio o Fangor yn 1979, cwblhaodd Mark radd Meistr mewn Gwyddor Bwyd ym Mhrifysgol Nottingham.
Gan gyfuno gwaith â'i gariad at rygbi, treuliodd Mark yr 20 mlynedd nesaf yn y sector masnach amaeth a'r sector amaeth-gemegolion a chael swyddi cyfrifol. Ymunodd â grŵp teuluol T H White yn 1999 er mwyn sefydlu cyfadran llwytho lorïau genedlaethol (craeniau), a gyda Palfinger, aeth â nhw i'r safle cyntaf yn 2006 lle maent wedi aros byth ers hynny. Cafodd Mark sedd ar fwrdd grŵp T H White (Holdings) yn 2006. Cyn hynny roedd wedi bod yn aelod o fwrdd Cymdeithas Amaethyddol Prydain a Sumitomo Agriculture. Mae'n briod ac mae ganddo ddau o blant sydd wedi gadael y nyth, ac mae'n parhau i chwarae rygbi i dîm hen chwaraewyr Bangor bob blwyddyn ac mae'n mwynhau bwyd a gwin da.
Jonathan Wright (1999, Polisi Cymdeithasol / Trosedddeg a Chyfiawnder Troseddol)

Mae Jonathan yn Llywydd Rhyngwladol Hearst Magazines. Mae o'n cyn-Gyfarwyddwr Rheoli Byd-eang Dow Jones, Cyfarwyddwr News Corp’s VCCircle a Chyfarwyddwr Newspicks, lle oedd yn gyfrifol am lunio a gweithredu strategaethau twf ar gyfer The Wall Street Journal a Dow Jones tu allan i'r Unol Daleithiau.
Wedi'i ysbrydoli'n rhannol gan feddyliau am yrfa bosibl yn y fyddin neu wasanaeth amddiffyn brenhinol a diplomyddol yr heddlu, dewisodd Jonathan astudio Trosedddeg ym Mhrifysgol Bangor ond, ar ôl symud i Lundain, cafodd swydd ym maes gwerthiant hysbysebion a daeth i ymddiddori'n fawr ym musnes y cyfryngau. Ymunodd â Dow Jones yn 2010 fel Cyfarwyddwr Gwerthiant Hysbysebu i Financial News Dow Jones a chyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi a Gwerthiant Grŵp gydag Euromoney Institutional Investor yn Efrog Newydd.
Jonathan yw Cyswllt ac Ymgynghorydd Rhyngwladol y Bwrdd Ymgynghorol Alumni. Mae ei gysylltiadau â Bangor yn mynd yn ôl i 1910 pan raddiodd ei hen-nain o'r Brifysgol gyda BA mewn Saesneg.
Yn ei amser hamdden, mae'n hoffi gwylio ei ddau blentyn yn chwarae rygbi ac mae'n cadw'n heini trwy ymarfer ar gyfer marathonau a phrofion dygnwch, megis beicio o Lundain i Monte Carlo. Mae'n mwynhau theatr leol ac, yn ystod ei amser yn Efrog Newydd, cynhyrchodd dair drama oddi ar Broadway.