Gwasanaethau a Buddiannau

E-newyddion i gyn-fyfyrwyr

Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn anfon e-gylchlythyr misol i alumni sy'n cynnwys newyddion diweddaraf y Brifysgol a'r alumni, manylion am aduniadau a digwyddiadau, a gwybodaeth am yr ymchwil a'r gweithgareddau diddorol sy'n digwydd yn ein Hysgolion a'n Colegau.

Rhowch eich cyfeiriad ebost inni i dderbyn rhifynnau o e-newyddion i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn y dyfodol yn syth i'ch mewnflwch.

Mae rhifynnau blaenorol o'n e-newyddlen alumni i'w gweld yma.

Ffeindiwch ffrind

Os ydych chi wedi colli cysylltiad â hen gyfeillion a rannodd ddosbarth gyda chi, mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn hapus i geisio eich rhoi chi mewn cysylltiad eto. Er na allwn rannu manylion cyswllt heb ganiatâd, os oes gennym wybodaeth am eich cyd-fyfyrwyr, gallwn gysylltu â nhw ar eich rhan. Gallwn hefyd helpu trwy ddarparu rhestrau dosbarth os hoffech chi gynllunio'ch aduniad eich hun.

Os hoffech i ni chwilio am hen gyfeillion coll, cysylltwch â ni gydag enw llawn eich cyfaill, y pwnc y bu'n ei astudio a'r flwyddyn raddio yn alumni@bangor.ac.uk

Cynllunio Aduniadau

Os hoffech drefnu eich aduniad eich hun, gall y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni eich helpu. Gallwn helpu o ran cael gwybodaeth i gyn-fyfyrwyr rydych chi wedi colli cysylltiad â nhw, trefnu teithiau o'ch hen adrannau a chynghori ynglŷn â llety a bwytai lleol.

Anfonwch e-bost at: alumni@bangor.ac.uk neu ffoniwch + 44 (0) 1248 388332 gyda manylion y math o aduniad yr hoffech ei drefnu a byddwn yn eich helpu gyda'r gwaith cynllunio.

Cerdyn Llyfrgell yr Alumni

Gall Alumni barhau i gael mynediad i lyfrgelloedd y Brifysgol gyda Cherdyn Llyfrgell yr Alumni.

Mae gan alumni yr hawl i fenthyca 6 eitem ar unrhyw adeg. Cofiwch nad yw rhai categorïau o'r stoc, megis eitemau sydd ar fenthyciad byr, ar gael i'r alumni eu benthyca a does dim mynediad electronig at y rheiny.

I ofyn am fynediad i'r llyfrgell, anfonwch e-bost at: alumni@bangor.ac.uk gyda'ch enw llawn, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, y pwnc astudio a'r flwyddyn raddio.

Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau Newydd

Y Tîm Gweinyddu Myfyrwyr sy'n delio â cheisiadau am dystysgrifau a thrawsgrifiadau newydd.

Gweler y tudalennau Gweinyddu Myfyrwyr am gyngor a mwy o wybodaeth.

Nwyddau Prifysgol Bangor

Mae gan Brifysgol Bangor nwyddau arbennig gan gynnwys teis sidan cain a hwdis lliwgar sydd ar gael i'w prynu. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gyddflieiniau sidan i ferched, crysau-t, gorchuddion gliniaduron a bagiau am oes yn ogystal â thedis, sgarffiau, dolenni llawes, pennau ysgrifennu a phapurau nodiadau. Gweler yr holl nwyddau sydd wedi'u brandio.

Mae rhai ategolion a memorabilia sydd wedi eu brandio gyda gorffennol y Brifysgol ar gael hefyd drwy siop alumni Ede and Ravenscroft.

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gall cyngor a gwybodaeth am yrfaoedd fod cyn bwysiced i chi ar ôl graddio â phan oeddech chi'n fyfyriwr. Fel alumnus o Brifysgol Bangor cewch ddefnyddio Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol am 3 blynedd ar ôl i chi raddio.

Os ydych chi'n chwilio am gymorth gyda'ch gyrfa, gweler tudalennau Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ein gwefan i weld sut y gallant helpu. 

Astudio Pellach ym Mangor

Ydych chi'n ystyried dychwelyd i Fangor ar gyfer astudio ac ymchwil ôl-radd? Gweler ein gwybodaeth am astudiaethau ôl-raddedig trwy ddysgu neu ymchwil ôl-raddedig.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?