Mae gan Brifysgol Bangor bron i 120,000 o gyn-fyfyrwyr sy'n byw ledled y byd, yn gweithio ym mhob diwydiant y gallwch ddychmygu! Rydym yn falch o holl gyflawniadau ein cyn-fyfyrwyr ac wrth ein bodd yn clywed eich hanes chi ers i chi raddio. Dyma rai o straeon ein cyn-fyfyrwyr. Os hoffech chi rannu eich profiadau ers gadael Bangor, anfonwch e-bost at: alumni@bangor.ac.uk.
EIN ALUMNI
Proffiliau Alumni
Lilian Balatsou
"Byddaf pob amser yn trysori fy amser ym Mhrifysgol Bangor"
Enillodd Lilian Balatsou wobr Gweithredu Gymdeithasol 2023 StudyUK Alumni y Cyngor Prydeinig yng Ngwlad Groeg ym mis Mawrth.
"Newidiodd Bangor fy mywyd a'i roi ar lwybr a olygai yn y bôn fy mod yn cael fy nhalu am weithio ar fy hobi"
Cafodd Alumnus a Cymrodyr er Anrhydedd Prifysgol BangorYr Athro Dr John Porter (Botaneg Amaethyddol, 1976 a PhD Bioleg Planhigion, 1981) gyrfa fel gwyddonydd ym maes ecoleg a ffisioleg cnydau, modelu biolegol ac ecoleg amaethyddol.
"Roedd y profiad o astudio ym Mhrifysgol Bangor yn un gwefreiddiol"
Dewisodd James Otai (MSc Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes, 2020) ddod i Fangor i barhau ei addysg er mwyn datblygu ei waith gyda’i fenter gymdeithasol yn Uganda.
“Mae fy ffrindiau o Fangor ymhlith y rhai agosaf hyd heddiw.”
Mae angerdd i ysgrifennu creadigol a gyrfa mewn addysg a chyhoeddi llyfrau wedi arwain at gytundeb am ddau lyfr i Jacquie Bloese (Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg, 1993).
Ar ôl gweld bwlch yn y farchnad am anrhegion moethus ar-lein, aeth Michelle Daniel (Ffrangeg ac Astudiaethau Busnes, 2009) ymlaen i fod yn gyd-sylfaenydd cwmni anrhegion ar-lein.
"Rydw i’n dathlu 10 mlynedd o weithio gydag anifeiliaid ar ol gael gwybod gan arbenigwyr meddygol na fyddai bywyd o weithio gydag anifeiliaid yn bosibl"
Mae cyn-fyfyriwr Ryan Eddowes (Swoleg Gyda Herpetoleg, 2015) yn codi ymwybyddiaeth o gyflwr troed glwb a Save the Rhino drwy her codi arian ar yr Arfordir Jwrasig.
“Roedd gen i freuddwydion o fod y Jacques Cousteau nesaf”
Yn ystod ei yrfa yn y Llynges Frenhinol, daeth Matt Ruglys (Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr, 1978) yn ddyn camera bywyd gwyllt tanddwr ar brosiectau fel Blue Planet.
"...gadael Bangor a symud i Lundain oedd y penderfyniad anoddaf i mi orfod ei wneud erioed ac rwy'n dal i feddwl am fy nghyfnod yn y brifysgol ac am fyw yn Eryri bob dydd."
Pedwardeg mlynedd ar ôl gadael Bangor, mae Tony Vickers-Byrne (Saesneg a Drama 1981 a TAR 1982) dal i garu Gogledd Cymru.
Gradd Seicoleg cyn-fyfyriwr o Fangor yn mynd â hi i bencadlys Facebook
Cewch hyd i rai a raddiodd o Fangor yn gweithio ym mhob cwmni mawr ar draws y byd. Mae Facebook, cwmni cyfryngau cymdeithasol mwyaf y byd, yn gartref i Susie Thompson, a raddiodd mewn Seicoleg yn 2004, ac a ddaeth o hyd i'w swydd ddelfrydol yng Nghaliffornia.
Proffiliau Alumni
Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF 2022
Llongyfarchiadau i Zahra Al Shamma (Bancio a Chyllid, 2013) a gyhoeddwyd yn Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain 2022 mewn aduniad o raddedigion Bangor yn Nheyrnas Bahrain ar 8 Tachwedd 2022.
Ym mis Gorffennaf 2018, cyflwynwyd gwobr Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor i Gwilym Rees-Jones (Mathemateg, 1963). Mae gwobr Alumnus y Flwyddyn yn cydnabod llwyddiannau ein alumni, gan gydnabod y rhai sydd wedi rhagori yn eu gyrfa ddewisol ac sy'n parhau i ymgysylltu â'u Prifysgol
Cyflwynodd yr Athro Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, wobr Alumnus y Flwyddyn Tsieina i Michelle Han (MBA, 2004) yn ystod aduniad alumni yn Shanghai.
Ray Footman yw Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor 2017. Mae gwobr Alumnus y Flwyddyn yn cydnabod llwyddiannau ein graddedigion, yn broffesiynol ac yn bersonol, ac yn tynnu sylw arbennig at y rhai sydd wedi dewis parhau i ymwneud â'u hen brifysgol a rhoi'n ôl i'r brifysgol, naill ai trwy wasanaeth, dyngarwch, neu'r ddau.
Yangjing yw ail Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor Tsieina ac ef enillodd y wobr yn 2017. Yanjing oedd y myfyriwr cyntaf o Tsieina i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
Ydych chi'n credu na fyddech chi lle rydych chi heddiw oni bai am eich amser ym Mangor? Oes gennych chi atgof arbennig o le neu ddigwyddiad yn y Brifysgol sydd wedi aros gyda chi? A wnaethoch chi gyfeillion oes yno, sefydlu traddodiadau neu gyfarfod â’ch cymar?
Darllenwch rai o straeon ein cyn-fyfyrwyr ynglŷn â pham mae Prifysgol Bangor yn golygu cymaint iddyn nhw a lle maen nhw heddiw 'Oherwydd Bangor'.
Mae Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn anrhydedd tra phwysig y mae'r Brifysgol yn ei rhoi'n flynyddol i unigolion o fri sydd â chysylltiad â’r Brifysgol neu â Chymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu gwahanol feysydd. Rydym yn arbennig o falch o'n Cymrodyr er Anrhydedd.