Fy ngwlad:
Pier - abstract

E-newyddlen i Gyn-fyfyrwyr Tachwedd 2025

Os nad ydych yn derbyn ein e-newyddion misol ond hoffech ei derbyn drwy e-bost, cwblhewch ein ffurflen diweddaru i ni gael eich adio i'n rhestr bostio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech ei weld yn y rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn alumni@bangor.ac.uk.

Mwy o newyddion o'r Brifysgol

Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Wrth i ni fwynhau harddwch gogledd Cymru yn yr hydref, rydym yn falch o rannu'r newyddion diweddaraf o’r brifysgol a'n cymuned cyn-fyfyrwyr.

Lle bynnag yn y byd yr ydych ar hyn o bryd, mae eich gwaddol yn parhau i ddylanwadu ar ein cymuned ac rydym yn diolch i chi am fod yn rhan o daith Prifysgol Bangor ac am barhau i gadw mewn cysylltiad â ni.

Fel y gwelwch isod, mae ymgyrch telethon yr hydref i godi arian at Gronfa Bangor yn mynd rhagddi ar hyn o bryd dan ofal y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni. Mae’r tîm myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn yr ymgyrch wedi bod wrth eu bodd yn clywed eich straeon am eich amser ym Mangor ac yn dweud wrthych am y ffyrdd y mae rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr yn helpu myfyrwyr heddiw. Diolch i chi gyd sydd wedi rhoi o’ch amser i siarad â'n myfyrwyr - mae wir yn rhoi pleser i ni glywed am yr atgofion melys sydd gan ein cyn-fyfyrwyr am eu hamser yma yn y brifysgol.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, cwestiynau neu straeon yr hoffech eu rhannu, anfonwch e-bost i: alumni@bangor.ac.uk

NEWYDDION O'R BRIFYSGOL

Ymgyrch telethon Cronfa Bangor wedi dechrau

Mae Ymgyrch Telethon yr hydref i godi arian at Gronfa Bangor, dan ofal y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, wedi dechrau. Yn ystod yr ymgyrch, bydd myfyrwyr cyfredol yn cysylltu â chyn-fyfyrwyr dros y ffôn i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf o'r campws, i hel atgofion am eu cyfnod ym Mangor, ac i dynnu sylw at yr effaith y mae cefnogaeth cyn-fyfyrwyr yn ei chael. 

Y gwanwyn diwethaf, cafwyd addewidion gan ein cyn-fyfyrwyr o £62,000 dros y bum mlynedd nesaf, a fydd yn galluogi Cronfa Bangor i ddarparu bwrsariaethau, teithiau maes, projectau cynaliadwyedd, mentrau llesiant, a gweithgareddau cyflogadwyedd sy'n ychwanegu gwerth at brofiad myfyrwyr. 

Meddai Persida Chung, Swyddog Datblygu Cronfa Bangor: 

“Mae’r ymgyrch Telethon yn gyfle gwych i fyfyrwyr gysylltu â chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor dros y ffôn, i rannu newyddion a phrofiadau, a chryfhau cymuned ehangach y brifysgol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r holl gyn-fyfyrwyr a chymrodyr er anrhydedd a roddodd o’u hamser yn hael i rannu cipolwg ar eu bywydau a’u gyrfaoedd ers gadael Bangor. Mae’r cyngor a’r geiriau o anogaeth y byddant yn eu rhoi i’n myfyrwyr o werth aruthrol iddynt â hwythau ar fin gwneud penderfyniadau arwyddocaol ynghylch eu dyfodol eu hunain.” 

Rydym yn annog cyn-fyfyrwyr i sôn am yr ymgyrch Telethon wrth eu cyd gyn-fyfyrwyr yn eich rhwydweithiau chi a dathlu'r haelioni parhaus sy'n helpu myfyrwyr Bangor i ffynnu. Gallwch ddysgu mwy am Gronfa Bangor yma. Os hoffech gael galwad ffôn gan un o'n myfyrwyr, anfonwch e-bost at alumni@bangor.ac.uk

Dathlu 15 mlynedd o Fand Pres Prifysgol Bangor

Eleni, mae Band Pres Prifysgol Bangor yn dathlu 15 mlynedd ac i nodi’r garreg filltir arbennig hon, bydd cyn-fyfyrwyr o’r 15 mlynedd diwethaf yn ymuno â’r aelodau presennol ar gyfer cyngerdd alumni arbennig.

Bydd y noson yn cynnwys rhai o hoff berfformiadau’r band dros y blynyddoedd, gan gynnwys clasuron megis Men of Harlech, Highland Cathedral a Puttin’ on the Ritz, ynghyd â rhai o ganeuon pop hwyliog ac egnïol fel Runaway Baby ac I Gotta Feeling.

Cynhelir y cyngerdd ar Ddydd Sadwrn, 29 Tachwedd, 6:00 – 8:00pm yn Neuadd Prichard Jones Prifysgol Bangor. Cost y tocynnau yw £5 a gellir eu archebu yma.

Arolwg Hynt Graddedigion: yn agor yn fuan i raddedigion diweddar

Mae Arolwg Hynt Graddedigion ar fin agor i'r rhai a gwblhaodd eu graddau rhwng 1 Awst a 30 Hydref 2024.

Mae'r arolwg cenedlaethol hwn yn bwysig gan y bydd eich ymatebion yn helpu ein myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i gael cipolwg ar gyrchfannau a datblygiad gyrfa yn ogystal â'n helpu i werthuso, cynllunio a hyrwyddo ein cyrsiau, gwasanaethau a chyfleusterau. Cofiwch, gallech gael eich holi ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2025 a 28 Chwefror 2026.

Yn yr wythnosau nesaf, efallai y bydd staff o'ch hysgolion academaidd yn cysylltu â rhai graddedigion hefyd. Bwriad y galwadau hyn yw eich cyfeirio at gefnogaeth gyrfa sydd ar gael trwy'r tîm Llwyddiant Myfyrwyr, a gall staff hefyd eich atgoffa am yr arolwg.

Rydym yn gwerthfawrogi eich amser a'ch mewnbwn—mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Dangosiad o 'Joy' i ddathlu gwaith cyn-fyfyriwr Bangor

Roedden ni’n falch iawn i gynnal dangosiad arbennig o’r ffilm ‘Joy’ ym Mhontio wythnos diwethaf, ynghyd â sesiwn holi ac ateb gyda'r actor a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor, Joanna Scanlan.

Mae 'Joy' yn adrodd hanes in vitro fertilisation (IVF), a arloeswyd gan gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, Syr Robert Edwards, a arweiniodd at eni'r 'babi tiwb prawf' cyntaf yn y byd, Louise Joy Brown.

Caiff y ffilm ei adrodd o safbwynt Jean Purdy, nyrs ac embryolegydd ifanc sy’n cyd-weithio â'r gwyddonydd Syr Robert Edwards a'r llawfeddyg Patrick Steptoe er mwyn ceisio ffrwythloni teuluoedd sy’n delio ag anffrwythlondeb. Ers hynny, mae miliynau o fabanod wedi'u geni ledled y byd diolch i IVF - tystiolaeth o effaith newidiol eu gwaith ar fywydau pobl.

Cawsom y fraint o gael ein hymuno gan yr actor enwog Joanna Scanlan ar gyfer sesiwn holi ac ateb cyn y dangosiad. Mae Joanna yn chwarae mam Jean Purdy, Gladys, yn 'Joy' ac fe roddodd ei mewnwelediadau i weithio ar y ffilm i gynulleidfa lawn yn sinema Pontio.

Cannoedd yn dathlu 1,500 o flynyddoedd o dreftadaeth

Roedd Bangor yn llawn bywyd y mis diwethaf wrth i gannoedd ymuno mewn dathliad bywiog o 1,500 mlynedd o dreftadaeth y ddinas yng Ngŵyl Hanes Bangor.

Roedd y digwyddiad deuddydd, a drefnwyd gan Gyngor Dinas Bangor a Phrifysgol Bangor mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, yn cynnig rhaglen lawn o sgyrsiau, teithiau, gweithdai ac arddangosfeydd am orffennol cyfoethog y ddinas a'i chyfraniad at hanes Cymru.

Darganfod mwy

Anifeiliaid Attenborough: Antur Hygyrch

Mae'r cyn-fyfyriwr Ryan Eddowes (Swoleg gyda Herpetoleg, 2015) yn dechrau ar broject i ddathlu gwaddol anhygoel Syr David Attenborough wrth iddo agosáu at ei ben-blwydd yn 100 oed y flwyddyn nesaf. Bwriad Ryan yw nodi a dogfennu pob rhywogaeth a enwyd er anrhydedd i Syr David, gan ddysgu am yr ymdrechion cadwraeth sydd ar waith i'w diogelu a rhannu eu straeon rhyfeddol.

Ganwyd Ryan gyda throed mewndro cynhenid dwyochrog — “troed glwb” - cyflwr sy’n gwneud i’ch troed droi am i mewn, sy’n effeithio ar symudedd. Ar ôl bron i dair degawd o boen, cafodd Ryan lawdriniaeth i dorri ei goes dde o dan y pen-glin yn 2024 ac, fel rhywun ag anabledd corfforol, bydd yr her hon hefyd yn tynnu sylw at rôl hanfodol hygyrchedd a chynhwysiant mewn cadwraeth. Nod y project hwn yw dangos bod teithio byd-eang a chadwraeth yn bosib — ac yn ystyrlon — i bawb.

Cyn dechrau ar ei genhadaeth, cysylltodd Ryan â Syr David – sydd yn ddeiliad gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor – i ofyn am ei fendith ac roedd wrth ei fodd yn cael llythyr gan y dyn ei hun yn dymuno’r gorau iddo!

Gallwch weld fideo rhagarweiniol Ryan yma.

Pob lwc Ryan!

Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi'u rhestru ymhlith yr 1% uchaf yn y byd

Mae pump o ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor wedi'u rhestru ymhlith yr ymchwilwyr y cydnabyddir eu gwaith amlaf, gan eu gosod ymhlith yr 1% uchaf o ymchwilwyr ledled y byd, yn ôl Rhestr o’r Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf 2025 gan Clarivate .

Mae pob un o'r ymchwilwyr wedi cael dylanwad sylweddol ac eang yn eu priod faes neu feysydd ymchwil o fesur hynny yn ôl pa mor weledol yw eu hymchwil. Mae Clarivate yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar sawl gwaith y caiff gwaith ymchwilydd ei gydnabod gan gymheiriaid. Mae metrigau o’r fath sy'n seiliedig ar gydnabyddiaeth yn un ffordd o wybod pa mor weledol a dylanwadol yw allbynnau ymchwil rhywun. 

Darganfod mwy

Cynnig i sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd yng Nghymru

Mae Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth wedi datblygu cynnig cychwynnol ar y cyd i Lywodraeth Cymru sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd.

Gan weithio gyda’r byrddau iechyd a Phrifysgol Caerdydd, nod y cynllun lefel uchel yw creu cyfleoedd hyfforddiant deintyddol newydd, gan fynd i’r afael â’r angen am addysg a gwasanaethau deintyddol gwell yn y Gogledd a’r Canolbarth.

Canolbwyntio ar anghenion gofal deintyddol sylfaenol a chymunedol ar draws y Gymru wledig a lled-wledig yw’r nod, gan gynnwys anghenion siaradwyr Cymraeg.

Darganfod mwy

Gogledd Cymru unwaith eto yn arwain yn y diwydiant niwclear

Mae Prifysgol Bangor yn falch o groesawu’r cyhoeddiad fod Yr Wylfa wedi’i dewis fel safle ar gyfer yr adweithydd modiwlar bychan(SMR) Rolls-Royce cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r penderfyniad hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer dyfodol ynni glân yn y Deyrnas Unedig, ac ar gyfer Gogledd Cymru, ac yn profi fod yr ardal unwaith eto yn arwain yn y diwydiant niwclear.

Mae’r Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor wedi chwarae rôl allweddol wrth gefnogi niwclear yng Ngogledd Cymru ers sefydlu yn 2017. O dan arweinyddiaeth sefydlol yr Athro Bill Lee FREng FLSW, ac ymroddiad ddiflino ein hymchwilwyr, partneriaid a chydweithredwyr, mae’r Sefydliad wedi datblygu’n ganolfan arloesi ag arbenigedd niwclear yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. 

Mae'r Wylfa, sydd wedi’i lleoli ar Ynys Môn, yn safle delfrydol ar gyfer arloesi o’r fath. Mae ganddi dreftadaeth niwclear gref, cysylltiadau grid cadarn, a gweithlu lleol medrus wedi’i lunio gan fwy na hanner canrif o weithrediadau niwclear diogel. O'r orsaf bŵer Magnox Wylfa wreiddiol i'r atomfa yn Nhrawsfynydd, mae Gogledd Cymru wedi bod yn gartref i genedlaethau o weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd wedi cyfrannu at stori lwyddiannus niwclear y Deyrnas Unedig.

Darganfod mwy

Parth twf deallusrwydd artiffisial yng Ngogledd Cymru

Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi croeso i gyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd un o’r Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial newydd yn cael ei leoli yng ngogledd Cymru. Parthau yw’r rhain sydd wedi eu cynllunio i gyflymu arloesedd, denu buddsoddiad a chreu swyddi. 

Mae gan y brifysgol arbenigedd helaeth ym meysydd data a deallusrwydd artiffisial ar draws ei disgyblaethau gan gynnwys Model Iaith Mawr hynod lwyddiannus ar gyfer y Gymraeg, a ddatblygwyd gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Llundain ac NVIDIA. Mae'r project hwn yn enghraifft o sut y gall deallusrwydd artiffisial drawsnewid bywydau, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus ledled Prydain Fawr, a helpu i ddiogelu'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Dywedodd Yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor, "Mae sicrhau statws Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial i Ynys Môn a Gwynedd yn gyffrous iawn. Mae'n cydnabod potensial y rhanbarth fel canolfan ar gyfer arloesi a thwf economaidd cynaliadwy. Pan gyfunir hyn ag arlwy bwerus sylfaen ymchwil y Brifysgol, y buddsoddiad yn Ysgol Fusnes Albert Gubay a llwyddiant ysgubol Parc Gwyddoniaeth Menai, rydym mewn sefyllfa unigryw i arwain y gwaith o ddatblygu'r sgiliau, y partneriaethau a'r technolegau a fydd yn llunio dyfodol deallusrwydd artiffisial gan greu cyfleoedd busnes a chyfleoedd gyrfa ac iddynt werth uchel ar draws y rhanbarth."

Prifysgol Bangor yn nodi blwyddyn ers newid i Ecosia a dros 18,000 o goed wedi eu plannu

Flwyddyn ar ôl i Brifysgol Bangor ddechrau defnyddio Ecosia fel ei pheiriant chwilio diofyn, mae staff a myfyrwyr wedi helpu plannu tua 18,141 o goed fel rhan o brojectau ailgoedwigo byd-eang.

Mae hyn wedi rhoi Bangor ar frig rhestr o sefydliadau addysg uwch sy'n arloesi gyda dewisiadau digidol sy'n amgylcheddol gyfrifol. Mae Ecosia yn defnyddio elw a gynhyrchir trwy chwiliadau gwe i dalu am blannu coed mewn mannau lle mae bioamrywiaeth dan fygythiad, adfer tirweddau, cefnogi cymunedau a helpu mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Darganfod mwy