Os nad ydych yn derbyn ein e-newyddion misol ond hoffech ei derbyn drwy e-bost, cwblhewch ein ffurflen diweddaru i ni gael eich adio i'n rhestr bostio.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech ei weld yn y rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn alumni@bangor.ac.uk.
Croeso gan yr Is-ganghellor
Yn ddiweddar, dathlais tair blynedd ers i mi ddod yn Is-ganghellor Prifysgol Bangor. Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael arwain sefydliad mor nodedig.
Mae'n wych gweld y Brifysgol yn brysur unwaith wrth i fyfyrwyr hen a newydd ddychwelyd i’r campws. Mae’n rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas ac egni i'n cymuned ac mae'r lle’n teimlo'n fyw unwaith eto yn dilyn cyfnod tawelach dros yr haf.
Fel rydw i'n siŵr eich bod yn ymwybodol, does dim dwywaith fod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i Brifysgol Bangor. Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau heriol iawn i ddiogelu sefydlogrwydd ariannol y Brifysgol, a gwn nad yw hyn wedi bod yn hawdd i neb. Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i’n holl staff am eu proffesiynoldeb, eu gwytnwch a'u hymroddiad yn ystod y cyfnod heriol hwn. Oherwydd yr ymdrechion yma rydym yn parhau i wneud cynnydd ac, fel gallwch ddarllen isod, mae ein canlyniadau diweddaraf mewn tablau cynghrair yn adlewyrchu hyn.
Fel rhan o'n paratoadau ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd, rydym wedi buddsoddi mewn cefnogaeth i fyfyrwyr. Mae'r Hyb Myfyrwyr sydd newydd ei sefydlu ac y gellir ei ddefnyddio ar-lein ac yn y llyfrgell, wedi'i gynllunio i'w gwneud hi'n haws i fyfyrwyr gael mynediad at gyngor, dod o hyd i wybodaeth yn gyflym, a chysylltu â gwasanaethau arbenigol. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i sicrhau bod ein myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael croeso, yn cael eu cefnogi, ac yn cael eu grymuso drwy gydol eu cyfnod yma.
Wrth edrych ymlaen, mae yna resymau pellach dros fod yn optimistaidd. Mae’r blwyddyn academaidd newydd hon yn marcio lansiad llywddiannus y rhaglen Fferylliaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, wrth i ni hefyd groesawu'r garfan ddiweddaraf o fyfyrwyr meddygaeth i'w blwyddyn gyntaf. Mae'r cerrig milltir hyn yn gamau arwyddocaol o ran cyfraniad parhaus Prifysgol Bangor at addysg gofal iechyd yng Nghymru.
Ar yr un pryd, rhaid inni gydnabod y cyd-destun ehangach yr ydym yn gweithio o’i fewn. Mae'n rhaid i brifysgolion ddibynnu ar eu hadnoddau a'u creadigrwydd eu hunain i sicrhau eu dyfodol. Er bod heriau o hyd, rwy’n hyderus y gallwn, gyda’n gilydd, barhau i gryfhau ein sylfeini academaidd, cefnogi ein myfyrwyr, a sicrhau bod Bangor yn ffynnu fel prifysgol flaenllaw yng Nghymru.
Diolchaf i chi gyd am eich diddordeb parhaus yn eich alma mater. Mae eich cefnogaeth yn ganolog i'n llwyddiant a gyda'n gilydd byddwn yn parhau i adeiladu dyfodol bywiog a chynaliadwy i'r Brifysgol.
Yn gywir,
Yr Athro Edmund Burke
Is-ganghellor
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Aduniad i gyn-fyfyrwyr yn Shanghai
Roedd Prifysgol Bangor yn falch o groesawu dros 40 o gyn-fyfyrwyr i Ganolfan Green Bund yn Ardal Huangpu yn Shanghai ar gyfer aduniad ar 19 Medi 2025.
Rhoddodd y Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Andrew Edwards grynodeb o newyddion diweddar y Brifysgol i'r gynulleidfa, gan gynnwys pen-blwydd Coleg Bangor yn Tsieina yn 10 oed, y berthynas waith lwyddiannus barhaus â Phrifysgol Cyllid ac Economeg Zhejiang ac adeilad newydd Ysgol Fusnes Albert Gubay. Aeth yr Athro Edwards ymlaen i annog sefydlu Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor Shanghai i rannu syniadau, straeon a chydweithio fel llysgenhadon dros Brifysgol Bangor.
Yna clywodd y gynulleidfa gan ddau gynrychiolydd o blith y cyn-fyfyrwyr a rannodd eu straeon am Brifysgol Bangor a’u datblygiad gyrfa. Y ddau oedd Mr. Tony Cui, Is-lywydd y fenter flaenllaw Contemporary Amperex Technology, a Ms. Hu Jin (MSc Adferiad trwy Ymarfer Corff, 2022) sydd bellach yn gweithio fel ffisiotherapydd.
Yna mwynhaodd y gwesteion noson o rwydweithio gyda chyfeillion hen a newydd a chawsant becyn anrhegion i gofio'r digwyddiad. Diolch i bawb a ymunodd!
Safleoedd uwch i'r Brifysgol yn nhablau'r cynghrair
Mae Prifysgol Bangor wedi codi 11 safle yn y Guardian University Guide 2026, gan gyrraedd safle 62 allan o 123 o sefydliadau. Mae’r brifysgol wedi cael ei rhoi mewn safle uwch o ran Cymru hefyd, gan symud i fyny un safle i fod yn gydradd 4ydd ochr yn ochr â Phrifysgol Aberystwyth.
Mae Prifysgol Bangor wedi codi pum safle yn The Times and The Sunday Times Good University Guide 2026, maent bellach yn y 59fed safle allan o 130 o sefydliadau. Perfformiodd Bangor yn dda yn y categori pobl a'r blaned (sy'n asesu safon amgylcheddol a moesegol pob prifysgol yn y Deyrnas Unedig) gan gyrraedd y 19eg safle, ac yn y 15fed uchaf o'r holl sefydliadau.
Cyn-fyfyriwr yn cyfrannu mainc coffaol i feysydd chwaraeon Treborth
Roedd Prifysgol Bangor wrth ei bodd yn derbyn mainc a roddwyd gan y cyn-fyfyriwr Lynn James (Celfyddydau, 1967) fis diwethaf ar gyfer safle Meysydd Chwaraeon Treborth.
Rhoddodd Lynn y fainc i goffáu Hen Sêr Pêl-droed Prifysgol Bangor – cyn-chwaraewyr tîm pêl-droed myfyrwyr Prifysgol Bangor. Fel myfyriwr, Lynn oedd Is-gapten y clwb pêl-droed rhwng 1966 a 1967, a gwasanaethodd fel Capten rhwng 1967 a 1968, a nodir gan blac ar y fainc.
Mae Lynn wedi bod yn gefnogwr brwd o waith y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni dros y blynyddoedd, gan gynnal cysylltiad â'r brifysgol drwy fynychu digwyddiadau a rhoi rhoddion i Gronfa Bangor. Mae Lynn,, John Young a nifer o Hen Sêr pêl-droed eraill yn dychwelyd i Fangor ddechrau mis Mai bob blwyddyn ar gyfer penwythnos yr Hen Sêr, ac mae wedi bod yn wych croesawu'r grŵp am aduniad ychwanegol ym mis Medi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Diolch yn fawr iawn Lynn!
Gardd Fotaneg Treborth yn cael ei chydnabod fel deiliad y casgliad cenedlaethol o redyn brodorol Cymru
Mae Gardd Fotaneg Treborth ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei chydnabod yn swyddogol gan yr elusen Plant Heritage fel Casgliad Planhigion Cenedlaethol ar gyfer rhedyn brodorol Cymru. Dyma'r casgliad cenedlaethol cyntaf i gydnabod planhigion brodorol Cymru ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus Treborth i warchod treftadaeth fotanegol y wlad.
I'ch atgoffa: Cyfle i enwebu - Graddau er Anrhydedd 2026
Gwahoddir cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor i gyflwyno enwebiadau ar gyfer unigolion eithriadol i dderbyn Gradd Er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2026. Graddau Er Anrhydedd yw gwobrau uchaf y Brifysgol, sydd yn rhoi cydnabyddiaeth i bobl sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i gymdeithas, sy'n ymgorffori gwerthoedd y Brifysgol ac sy'n haeddu cydnabyddiaeth arbennig am y bri sydd ganddynt yn eu priod faes.
Daw'r bobl sydd wedi eu henwebu yn y gorffennol o feysydd y gwyddorau a thechnoleg, gwasanaethau cyhoeddus, diwydiant, darlledu, y byd academaidd, y celfyddydau, diwydiant a chwaraeon. Roedd derbynwyr Graddau er Anrhydedd 2025 yn grŵp nodedig o unigolion a oedd yn cynrychioli cyflawniad a dylanwad ledled Cymru a thu hwnt.
Gellir gwneud enwebiadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 17:00, Dydd Gwener, 15fed Tachwedd 2025.
Cronfa Goffa Gwyn Thomas
Am dros hanner canrif, bu Gwyn Thomas yn un o ysgolheigion amlycaf ei genhedlaeth ac un o feirdd mwyaf cynhyrchiol, sylweddol a phoblogaidd Cymru. Am bron deugain mlynedd, dylanwadodd ar genedlaethau o fyfyrwyr fel darlithydd, athro a phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Er mwyn sicrhau bod gwaddol Gwyn yn un byw, rydym wedi mynd ati i sefydlu cronfa goffa i gefnogi a gwobrwyo myfyrwyr o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor – yr adran yr uniaethwyd ef â hi fel myfyriwr ac academydd ar hyd y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol – a hynny yn y meysydd niferus yr ymddiddorai ef ei hun ynddynt.
Derbynnir pob rhodd yn ddiolchgar er cof am ŵr a adawodd ei ôl yn annileadwy. I bwy bynnag sy’n dymuno cyfrannu, deuir o hyd i fanylion Cronfa Goffa Gwyn Thomas yma.
Blwyddyn ers lansio rhaglen Feddygaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Aeth blwyddyn heibio ers i Brifysgol Bangor lansio rhaglen Feddygaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Roedd hynny’n garreg filltir bwysig wrth ehangu hyfforddiant a darpariaeth gofal iechyd ar draws y gogledd. Yn y flwyddyn gyntaf, croesawodd yr Ysgol y garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygaeth. Nhw fyddai’r garfan cyntaf i ymgymryd â'u holl hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru.
Eleni, mae 99 o fyfyrwyr yn rhagor wedi ymuno ag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i ddechrau ar eu hyfforddiant meddygol. Ar ben hynny, mae'r Ysgol wedi ehangu ar ei darpariaeth gofal iechyd gyda dyfodiad y garfan gyntaf o fyfyrwyr Fferylliaeth.
Galwad i gyfraniadau: The Bridge
Mae’r Ysgol Gwyddorau Eigion yn gweithio ar rifyn nesaf The Bridge.
Os ydych chi’n gyn-fyfyriwr o’r Ysgol ac mae gennych eitemau newyddion i'w cynnwys, fel ddiweddariadau ynglŷn â’ch gyrfa, adroddiadau o'ch cyflawniadau neu proffil byr am eich cwmni, anfonwch eich cyfraniadau drwy e-bost, gyda lluniau o ansawdd print os yn bosib, i alumni@bangor.ac.uk erbyn Dydd Gwener, 31 Hydref.
Fe'ch gwahoddir! Diwrnod Agored Amgueddfa Hanes Natur Brambell
Mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol Bangor yn falch o gymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, sy’n cynnig digwyddiadau rhad ac am ddim ledled Cymru, sy’n addas i'r holl deulu yn ystod hanner tymor yr Hydref, tra hefyd yn dathlu hanes cyfoethog a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymru.
Fel rhan o'r ŵyl eleni, bydd yr Amgueddfa ar agor ar Ddydd Sadwrn, 25 o Hydref rhwng 11yb i 3yp. Dyma gyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sydd i’w gweld yna.
Fe'ch gwahoddir! Darlith Archifau a’r Casgliadau Arbennig
“Challenging time(s): Exploring how we shape the past and future of Eryri through the exchange of material culture”
12 Tachwedd, 5.30-6.30pm, Prifysgol Bangor
Eleni, byddwn yn croesawu Alex Ioannou, myfyriwr Doethuriaeth, i draddodi darlith flynyddol yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig.
Bydd Alex yn rhannu sut mae ei ymchwil yn ceisio 'tarfu' ar ddealltwriaethau dominyddol o Eryri. Mae ei ddarlleniad manwl o dystiolaeth hanesyddol a deunydd archifol, yn ogystal â gwaith cydweithredol gyda chymunedau lleol yn Nyffryn Ogwen, yn datgelu dealltwriaethau cyfoethog ac amrywiol o dirweddau Cymru. Mae ei brosiect parhaus Ail-fframio Eryri yn taflu goleuni ar y ffyrdd y mae Eryri eisoes wedi newid, o'r prosesau cudd sy'n gynhenid i lunio canfyddiadau o'i thirwedd, i'r trawsnewidiadau ffisegol mwy amlwg a wnaed gan Ystâd hanesyddol arwyddocaol Penrhyn.
Mae'r digwyddiad yma am ddim, ond gofynnir i chi gofrestru o flaen llaw. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle.
Fe'ch gwahoddir! Kyffin ym Mangor
19 Tachwedd, 6.00 - 7.30pm
Ymunwch â ni am noson ddifyr wrth i Andrew Green — hanesydd diwylliannol a darlledwr adnabyddus — archwilio byd ysbrydoledig Kyffin Williams, un o artistiaid mwyaf uchel ei barch yng Nghymru.
Gan ddefnyddio'r deg llun gan Kyffin Williams sy'n eiddo i Brifysgol Bangor fel man cychwyn, bydd Green yn archwilio’r themâu ailadroddus, dyfndra emosiynol, a’r pryderon artistig a siapiwyd arddull eiconig Williams.
Nodwedd Arbennig: Taith Dywys o Gasgliad Kyffin Williams
Fel rhan o’r digwyddiad, bydd cyfle prin i westeion sy'n dod i’r ddarlith ymuno â thaith dywys o amgylch casgliad y brifysgol o luniau Kyffin Williams, cyfle gwych i weld y gweithiau pwerus yma yn agos, gyda sylwadau arbenigol sy'n dod â'u straeon yn fyw.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond cofrestrwch ymlaen llaw yma.
Darlithydd yn derbyn gwobr am hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymarfer addysg
Mae Dr Fariba Darabi, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, wedi derbyn Medal British Academy of Management (BAM) am Ddatblygu Gwybodaeth. Dyfernir y fedal hon i aelod o’r academi am gyfraniad parhaus a rhagorol at ddatblygu a lledaenu gwybodaeth a dysg o ran rheolaeth.
Athro yn dangos cefnogaeth i Wcráin mewn digwyddiad cymunedol
Mae’r brifysgol yn Wcráin sy’n bartner i Brifysgol Bangor wedi canmol y berthynas gynyddol rhwng y ddau sefydliad.
Yn ddiweddar, bu’r Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, i gynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiad yn Church Stretton, Swydd Amwythig, lle daeth trigolion ynghyd i gefnogi digwyddiad ac iddo’r teitl ‘Support Ukraine – Sign the Flag of Hope’. Cafodd y cyfranwyr eu gwahodd i ysgrifennu negeseuon o gydsafiad â phobl Okhtyrka, yn rhanbarth Sumy yn Wcráin, a hynny ar faner ac iddi hanes nodedig.