Fy ngwlad:
Pier - abstract

E-newyddlen i Gyn-fyfyrwyr Mehefin 2025

Os nad ydych yn derbyn ein e-newyddion misol ond hoffech ei derbyn drwy e-bost, cwblhewch ein ffurflen diweddaru i ni gael eich adio i'n rhestr bostio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech ei weld yn y rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn alumni@bangor.ac.uk.

Mwy o newyddion o'r Brifysgol

Croeso gan yr Is-ganghellor

Mae'n bleser eich croesawu i e-gylchlythyr y cyn-fyfyrwyr y mis hwn. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn falch iawn o glywed am y niferoedd cynyddol o'n cyn-fyfyrwyr sy'n rhoi o'u hamser i rannu eu harbenigedd gyda'n myfyrwyr. Mae eich mewnbwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad ein myfyrwyr yma, a'u cyflogadwyedd y tu hwnt i'r brifysgol, felly diolch yn fawr i chi gyd am eich cefnogaeth barhaus i'ch hen brifysgol.

Fel yr ydych efallai wedi gweld yn y cyfryngau, mae’r sector addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau ariannol digynsail, ac mae llawer o brifysgolion bellach yn rhoi mesurau sylweddol ar waith i sicrhau arbedion, gan gynnwys Prifysgol Bangor.

Mae’r ffactorau sy'n cyfrannu at hyn yn cynnwys rhewi ffioedd cartref israddedig heb unrhyw addasiad ar gyfer chwyddiant, y cynnydd mewn costau gweithredol, a newidiadau diweddar i bolisi mewnfudo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd wedi arwain at ostyngiad o ran nifer o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n ymrestru. Mae'r ffactorau hyn, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, wedi golygu bod rhaid cymryd camau i alinio ein costau â'r incwm is yr ydym yn ei ragweld dros y blynyddoedd i ddod.

Mewn ymateb i'r pwysau hwn, mae'r brifysgol wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau'r targed arbedion gwreiddiol o £15 miliwn i tua £5.3 miliwn. Yn anffodus, mae hyn yn golygu lleihau costau staff sy'n cyfateb i tua 78 o swyddi llawn amser. Fel rhan o strategaeth ehangach i leihau costau, mae'r brifysgol wedi lansio ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig ac wedi ailagor cynllun diswyddo gwirfoddol mewn ymdrech i osgoi diswyddiadau gorfodol.

Er i mi obeithio na fyddai angen cymryd y cam hwnnw, mae'n hanfodol ein bod yn cyrraedd ein targed arbedion er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol y brifysgol. Rwy'n llawn sylweddoli cymaint o bryder ac ansicrwydd y mae'r sefyllfa hon yn ei achosi, a hoffwn eich sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yn ofalus ac yn ystyriol.

Yn olaf, hoffwn gydnabod ein staff am eu hymgysylltiad, eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad parhaus yn ystod yr amser heriol hwn, a'r gefnogaeth a roddwyd i ni gan gynifer o'n cyn-fyfyrwyr.

Wrth i ni weithio drwy'r heriau hyn, rydym yn parhau i edrych ymlaen at rai o'r projectau cyffrous sydd ar y gweill. Bydd datblygiad Ysgol Fusnes Albert Gubay, gyda chefnogaeth y rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay, yn codi enw da Prifysgol Bangor fel canolfan ragoriaeth academaidd, ac edrychaf ymlaen at rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi am hyn, yn ogystal â phrojectau eraill, maes o law.

Yn gywir,

Yr Athro Edmund Burke
Is-ganghellor

NEWYDDION O'R BRIFYSGOL

Rownd derfynol project BUILT 2025

Cynhaliwyd rownd derfynol gwobr Hyfforddiant Arloesedd ac Arweinyddiaeth Prifysgol Bangor (BUILT) ym mis Mai, a oedd yn bosibl unwaith eto diolch i gyn-fyfyrwyr a chefnogwyr Prifysgol Bangor. 

Eleni, canolbwyntiodd y project ‘Bwyd Cynaliadwy’ ar ddulliau newydd o ffermio cynaliadwy yng ngogledd Cymru, yn enwedig y potensial i integreiddio ffermio pryfed.

Cymerodd timau o fyfyrwyr ran yn y rhaglen 12 wythnos o hyd, a oedd yn cynnwys darlithoedd a gweithgareddau a gynlluniwyd i ysbrydoli a llywio ymatebion creadigol a masnachol hyfyw i amaethyddiaeth gynaliadwy. Roedd deg o gyn-fyfyrwyr wrth law fel mentoriaid drwy gydol y project i helpu i arwain y myfyrwyr gyda'u syniadau, meithrin eu cysyniadau newydd a'u cynghori ar unrhyw broblemau a wynebwyd.

Rhoddwyd gwobr o £5,000 yn hael gan Nick Pritchard, buddsoddwr ac entrepreneur lleol, a oedd yn Brif Feirniad ar y noson. Cyflwynwyd Nick siec i’r enillwyr, LarvaLux ar y noson.

Darganfod mwy

Bangoriaid Llundain

Sefydlwyd Bangoriaid Llundain yn 1901 fel cangen Llundain o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru bryd hynny). Mae’r gymdeithas yn cynnig rhwydwaith cymdeithasol i gyn-fyfyrwyr yn Llundain a’r cyffiniau fel y gallant rannu eu diddordebau, ymweld ag atyniadau Llundain, dathlu eu treftadaeth a’u diwylliant Cymreig yn Llundain, a chynnal cysylltiadau â Phrifysgol Bangor.

Wrth i Fangoriaid Llundain agosáu at ddathlu 125 o flynyddoedd, gyda chymorth y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ac aelodau o'r Bwrdd Ymgynghorol Alumni, mae'r grŵp wedi datblygu amserlen newydd o ddigwyddiadau ac yn croesawu aelodau newydd â breichiau agored!

Mae tanysgrifiad blynyddol i ymuno â Bangoriaid Llundain yn £20 (gyda chyfraddau gostyngol ar gael) a bydd y tanysgrifiad yn golygu eich bod yn cael gwahoddiadau i chi a'ch ffrindiau/teulu i fynychu pob digwyddiad cymdeithasol am flwyddyn, yn gweld adroddiad o weithgareddau’r flwyddyn a chopïau o bapurau'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Cynhaliodd y grŵp gyfarfod anffurfiol yn Mabel's Tavern yn Llundain ar 29 Mai, ac roeddent yn falch o fod torf o aelodau presennol a newydd wedi dod ynghyd, a oedd yn gallu adnabod ei gilydd diolch i sgarff Bangor James Tute, sef Llywydd Bangoriaid Llundain! Byddant yn cwrdd eto yn Nhafarn Mabel am 7pm ar 16eg o Orffennaf ac mae croeso i chi'n i ymuno â nhw.

Mwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau sydd ar ddod, a manylion ar sut i ymuno

Alumna yn derbyn MBE

Mae cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor, Emily Cunningham, wedi derbyn MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2025 am wasanaethau i gadwraeth forol a chymunedau arfordirol. Derbyniodd ei MBE gan Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol mewn Arwisgiad yng Nghastell Windsor ym mis Ebrill. 

Mae Emily (MMBiol Meistr mewn Bioleg Môr, 2012) wedi gweithio ym maes cadwraeth cefnforoedd ers dros ddegawd, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Ar hyn o bryd, hi yw Arweinydd Byd-eang cadwraeth dolffiniaid afonydd yn WWF ac fe'i penodwyd yn ddiweddar yn Gymrawd Ymchwil Cyswllt er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerwysg.

Mae Emily yn un o Gyd-sylfaenwyr  #Motion4theOcean – sef Datganiad Adfer Cefnforoedd Llywodraeth Leol cyntaf y byd – wedi’i ddeddfu hyd yn hyn gan 34 o gynghorau’r Deyrnas Unedig, sy’n gwasanaethu dros 4.5 miliwn o drigolion. Mae Emily wedi codi dros £5m ar gyfer projectau sy’n gweithio gyda chymunedau arfordirol dan anfantais, ac fe’i henwyd ar restr ‘Global 30 under 30 Environmental Leader’ yn 2020. 

Dywedodd Emily "Mae'n anrhydedd derbyn yr MBE am fy ngwasanaethau i gadwraeth forol a chymunedau arfordirol. Mae cadwraeth forol yn fwy na dim ond swydd i mi, mae wedi bod yn fywyd, yn angerdd ac yn genhadaeth i mi ers dros 20 mlynedd. Gall fod yn dasg anodd a diddiolch o ystyried maint yr heriau y mae ein cefnfor yn eu hwynebu, felly mae cael cydnabyddiaeth fel hyn yn golygu'r byd! Fe wnaeth astudio bioleg forol ym Mhrifysgol Bangor fy rhoi ar ben ffordd i lwyddo yn fy ngyrfa, ac rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi dewis astudio fy ngradd yno. Diolch i’m gwaith, rwy’n cwrdd â phobl ledled y byd sy'n dweud 'Es i i Brifysgol Bangor hefyd!' - mae'n anhygoel bod yn rhan o gymuned mor fyd-eang o Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor."

Cyn-fyfyrwyr yn ysbrydoli myfyrwyr i archwilio gyrfaoedd yn y cyfryngau bywyd gwyllt

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Gweithgor Cyflogadwyedd dan Arweiniad Myfyrwyr (SLEWG) yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol seminar dan arweiniad cyn-fyfyrwyr ar ffotograffiaeth natur a bywyd gwyllt. Cyflwynwyd y seminar, rhan o fenter gyflogadwyedd barhaus, mewn cydweithrediad â Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni y Brifysgol.

Roedd y seminar yn cynnwys y cyn-fyfyrwyr Jake Davies (Bioleg Môr Cymhwysol, 2018) a Donovan Lewis (Swoleg Fertebratau’r Môr, 2016), a rannodd fewnwelediadau o'u gyrfaoedd ym myd y cyfryngau bywyd gwyllt. Fe wnaethant ddarparu canllawiau ymarferol ar ymuno â'r sector, trafod dynameg gwaith llawrydd yn erbyn gwaith dan gontract, a chyflwyno offer a meddalwedd allweddol a ddefnyddir yn y maes.

Nod y seminar oedd tynnu sylw at lwybrau gyrfa anhraddodiadol a chryfhau cyflogadwyedd myfyrwyr drwy ddangos y cyswllt rhwng adrodd straeon amgylcheddol ac ymarfer proffesiynol. Yn dilyn y sgwrs, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdy golygu ymarferol yn Ystafell y Cyfryngau newydd yn Neuadd JP, lle cawsant eu cyflwyno i Adobe Lightroom Classic a chael adborth unigol ar gyfansoddiad a golygu delweddau.

Roedd adborth y myfyrwyr yn hynod gadarnhaol, gan ddisgrifio'r digwyddiad fel un addysgiadol, ysbrydoledig, a pherthnasol iawn i'w datblygiad gyrfa. Tynnodd llawer ohonynt sylw at werth clywed yn uniongyrchol gan gyn-fyfyrwyr a’u bod yn gwerthfawrogi'r cyfle i gael profiad ymarferol gydag offer safonol o’r diwydiant.

Cyn-fyfyrwyr yn cyfrannu i bodlediad Cymraeg

Cafodd podlediad newydd - Bangor be wedyn? - ei lansio mis diwethaf. Cyllidwyd y podlediad gan Gronfa Bangor, sy’n cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni o roddion gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Dros bum pennod, mae cyn-fyfyrwyr yn rhannu sut maen nhw wedi elwa o astudio pwnc neu fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol - ac effaith hynny ar y gyrfaoedd maen nhw bellach yn eu dilyn. Mae’r cyfranwyr enwog yn y byd Gymraeg yn cynnwys newyddiadurwr y BBC, Liam Evans (Cymraeg, 2018) (uchod), y cyflwynydd pêl-droed, Sioned Dafydd (Cymraeg a’r Cyfryngau, 2017), Huw Harvey (Cymraeg Creadigol gyda Cherdd, 2017) sy’n aelod o’r grŵp Fleur De Lys a’r chwaraewr rygbi, Teleri Davies (Y Gyfraith, 2018).

Nod y podlediad yw defnyddio profiadau’r gwesteion er mwyn annog myfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr Prifysgol i weld y budd o ddilyn cyrsiau a modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Darganfod mwy

Sgwrs â Syr Terry Waite a Breuddwyd Gerontius Elgar

Bydd Cerddorfa a Chôr Symffoni Prifysgol Bangor yn ymuno â Chantorion Menai a chorau Cerddorfa Gymreig Lerpwl a Chorau Cadeirlan Bangor i berfformio un o gampweithiau Edward Elgar, Breuddwyd Gerontius, o dan arweiniad Gwyn L. Williams yn Neuadd Prichard-Jones Prifysgol Bangor ar nos Sul, 8 Mehefin. Tocynnau: £25

Cyn y cyngerdd, rydym yn falch iawn i gael cwmni Syr Terry Waite a fydd yn sgwrsio â Chadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones, ar y testun ‘The Power of Music’.

The Dream of Gerontius oedd y darn cyntaf a glywodd Syr Terry fel gwystl yn Libanus ar ôl pedair blynedd yn y carchar ar ei ben ei hun. Mae’r darn yn arwyddocaol iawn iddo fo a bu’n ffynhonnell bwerus o gysur ac ysbrydoliaeth iddo. Cynhelir y sgwrs cyn y cyngerdd yn Narlithfa Eric Sunderland Prif Adeilad y Brifysgol am 5.45pm. Mae tocyn y cyngerdd yn cynnwys mynediad i'r sgwrs cyn y cyngerdd.

Mae’n addo bod yn achlysur i’w gofio.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich tocynnau, gweler ein gwefan.

Rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru

Rydym yn falch o weld nifer o staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi'u cynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru eleni.

Mae Angharad Price, Athro mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, a Gwenno Gwilym, a raddiodd gyda MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2022 ac yn gweithio fel Swyddog Cynnwys y We yn yr Adran Marchnata'r Brand, ill dwy yn ymddangos ar y rhestr fer Gymraeg yn y categori Ffuglen.

Mae nofel Angharad, Nelan a Bo, yn agor yn 1799 ac yn dilyn bywydau pobl yn crwydro trwy'r newidiadau cymdeithasol mawr a ddeuai gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol. Mae nofel gyntaf Gwenno, V + Fo, wedi cael ei disgrifio fel ‘nofel unigryw a doniol sy’n neidio rhwng dau berson a dwy Iaith.’ 

Mae cyn-fyfyrwyr o'r Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhai sydd ar y rhestrau byr: mae Katarina Moinet (Ysgrifennu Creadigol (Saesneg, 2023) yn ymddangos ar restr fer y Saesneg ar gyfer y wobr Farddoniaeth; gyda Sioned Erin Hughes (Ysgrifennu Creadigol, 2021) ar gyfer y wobr Farddoniaeth; a Llŷr Titus (Cymraeg PhD, 2018) yn y categori Plant a Phobl Ifanc.

Dywedodd Dr Aled Llion Jones, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, “Rydym ni’n hynod falch o’n cydweithwyr a’n cyn-fyfyrwyr dawnus sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Mae eu cynnwys yn dyst i’w cyfraniadau llenyddol eithriadol a chryfder a dylanwad ein cyrsiau BA, MA a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol. Rydym yn eu llongyfarch ar y gamp ryfeddol hon.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd ar nos Iau, 17 Gorffennaf.

Cyn-fyfyriwr yn trefnu twrnamaint pêl-bicl cyntaf Kuwait!

Cynhaliodd Kuwait ei thwrnamaint pêl-bicl swyddogol cyntaf ar 18 Ebrill 2025 yn Ysgol Brydeinig Kuwait yn Salwa, diolch i Hani Haidar, sy’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor (MSc Peirianneg Electronig, 2024). Hani yw sylfaenydd Pêl-bicl Kuwait ac mae'n gobeithio tyfu'r gêm ar draws y Gwlff trwy gydweithrediad rhanbarthol ac allgymorth parhaus.

Bu i Hani ddysgu am y gamp wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor. Gan wybod y byddai'n dychwelyd i Kuwait ddiwedd 2023, cofrestrodd Hani ar raglen Ardystio Arweinwyr Pêl-bicl yn y Deyrnas Unedig i baratoi i addysgu'r gamp gartref.

Dywedodd, “Pan gyrhaeddais yn ôl, dywedais wrth fy ffrindiau y dylen ni ddechrau clwb. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnal llawer o ddosbarthiadau i blant, ac rydym yn cynnig ymweliadau i ysgolion i addysgu myfyrwyr am bêl-bicl. Rydym yn gweithio gyda phlant, oedolion, ac yn annog pobl hŷn hefyd.”

Roedd Hani wrth ei fodd gyda llwyddiant y twrnamaint cyntaf. Ymunodd chwe deg o chwaraewyr o wahanol lefelau â'r digwyddiad undydd, a oedd wedi’i gefnogi gan 10 noddwr ac a groesawodd tua 100 o wylwyr. Dywedodd, “Roedd pob cwrt yn llawn chwaraewyr. Roedd yn ddiwrnod anhygoel. Dim ond megis dechrau yw hyn, ac rwy'n gweld dyfodol cryf i'r gamp, yn Kuwait ac ar draws y Gwlff.”

Peiriant gwneud iâ tîm Real Ice o Fangor yn rhan o gynllun byd-eang

Mae cwmni o Ogledd Cymru sydd yn cael ei arwain gan gyn-fyfyrwyr o Brifysgol Bangor wedi dyfeisio peiriant chwyldroadol gwneud iâ wedi'i bweru gan ynni adnewyddadwy i roi iâ yn ôl ar gapiau iâ pegynol sy'n toddi, yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae'r project wedi dal sylw Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig ac mae’r prototeip, a ddatblygwyd gan Real Ice, yn cael ei anfon allan i'w brofi yn eangderau rhewllyd Gogledd Canada.

Rheolwr Gyfarwyddwr Real Ice yw alumnus Cian Sherwin (Swoleg, 2017) sydd yn arwain tîm sy'n cynnwys graddedigion a myfyrwyr o UDA, Ffrainc a'r Ffindir. Gwaith Nick Penny (MEng, 1993), yw'r peiriant gwneud iâ yn bennaf, sydd wedi gwneud llawer o'i ymchwil yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg y Brifysgol, mewn cydweithrediad â myfyrwyr peirianneg sy'n ymgymryd â'u projectau tîm.

Mae Cian a'r tîm craidd o saith wedi bod yn datblygu'r project gyda chymorth tîm ymgynghorol, gan gynnwys arbenigwyr o Academi Fusnes Gogledd Cymru.

Darganfod mwy

A ydych wedi clywed am yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion?

Yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion yw arolwg cymdeithasol mwyaf y Deyrnas Unedig, a luniwyd i gasglu safbwyntiau a statws cyfredol graddedigion diweddar. 

 

Os ydych wedi cwblhau cwrs addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg 15 mis ar ôl gorffen eich astudiaethau. Mae’r arolwg hwn yn holi a ydych mewn swydd, addysg bellach, neu’n dilyn cyfleoedd eraill - ac yn holi sut mae eich cymhwyster wedi dylanwadu ar eich taith. 

 

Cofiwch sicrhau bod eich manylion cyswllt diweddaraf gennym er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael gwahoddiad i lenwi'r Arolwg Canlyniadau Graddedigion. 

 

Cewch ragor o wybodaeth yma

Fe'ch gwahoddir! Cynhadledd Gyda’r Nos: Tirluniau Beiblaidd 

Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Mehefin 

Amser: 6yh – 9.30yh   

Lleoliad: Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor 

Ymunwch â ni am noson ysbrydoledig wrth inni archwilio a myfyrio ar Dirluniau Beiblaidd Gwynedd a Chymru. Mae’r digwyddiad unigryw hwn, a drefnir ar y cyd gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru a’r Sefydliad Astudio Ystadau Cymreig (ISWE), yn dod ag ysgolheigion, artistiaid, cerddorion a’r cyhoedd ynghyd i archwilio’r cysylltiadau dwfn rhwng y Beibl, y dirwedd, hunaniaeth a diwylliant Cymru. 

Croeso cynnes i bawb – mynediad am ddim.  

Mwy o wybodaeth ac i gadw eich lle

Fe'ch gwahoddir! Lansiad Y Clinig Busnes, Ysgol Busnes Bangor

Pryd: Dydd Llun 14th Gorffennaf, 2-3pm.

Ble: MS Teams (ar lein)

Hoffem estyn croeso cynnes i chi i ymuno a ni i ddathlu lansiad ein Clinig Busnes newydd.  

Mae'r Clinig Busnes yn fenter newydd o fewn yr Ysgol Fusnes. Nod y clinig yw darparu profiadau diwydiant i’n myfyrwyr ochr wrth ochr â chynnig cyngor ac arweiniad arbenigol i fusnesau. Ymunwch â ni ar gyfer y lansiad lle byddwn yn trafod sut mae'r Clinig Busnes am weithio a'r manteision i fyfyrwyr, busnesau a'r gymuned ehangach. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.

ffurflen gofrestru

Darpar-feddygon yn dysgu Cymraeg fel sgíl glinigol

Yn ddiweddar, canmolwyd carfan lawn gyntaf Prifysgol Bangor o fyfyrwyr meddygol, sy'n agosáu at ddiwedd blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, am eu hymdrechion i ddysgu Cymraeg ac ymgysylltu â'r cyd-destun ieithyddol y byddan nhw’n gweithio ynddo.

Darganfod mwy

Ysgol Fusnes Bangor yn helpu atynnu rhagor o ymwelwyr i Dŵr Marcwis

Mae tîm prosiect o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi tri argymhelliad allweddol er mwyn gwella’r cysylltiad rhwng safle Colofn Tŵr Marcwis yn Llanfair Pwllgwyngyll ag ymwelwyr.

Argymhellodd tîm y prosiect Prifysgol Bangor, dan arweiniad yr Athro Michael Butler, Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy, y dylid creu llwybr synhwyraidd, rysáit treftadaeth, yn ogystal ag adroddiad marchnata cynhwysfawr. Y gobaith yw y bydd y tri awgrym hyn yn denu mwy o ymwelwyr i'r heneb hanesyddol.

Darganfod mwy