Fideo - Dysgu ym Mangor
Hyfforddi i fod athro cynradd yng Nghymru a thu hwnt.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysgu
Mae'r radd BA (Anrhydedd) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei chydnabod ledled Cymru a Lloegr, ac yn aml mae'n gymhwyster trosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd i gael mynediad i'r proffesiwn addysgu. Mae'n eich paratoi'n llawn ar gyfer gofynion addysgu yng Nghymru a thu hwnt, yn ogystal â swyddogaethau eraill sy'n cefnogi plant (cyn-ysgol) a swyddi'n ymwneud â chwricwlwm (cynllunio cwricwlwm).
Mae yna opsiynau eraill ar gael i chi hefyd yn dilyn eich gradd, gan gynnwys ymchwil addysgol neu fynd ymlaen i feysydd addysgol mwy arbenigol.
Ein Ymchwil o fewn Addysgu
Yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf yn eich maes ac yn cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol wrth gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.
Mae'r tîm hyfforddi athrawon ym Mangor yn ymwneud ag ystod eang o ymchwil sy'n cyfrannu at fodiwlau ar y cwrs, gan gynnwys ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, mentora, Anghenion Addysgol Arbennig ac arweinyddiaeth ysgol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.