Pam Astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol?
Cymdeithaseg yw'r astudiaeth o natur gymdeithasol bodolaeth ddynol, sut mae cymdeithasau'n cael eu trefnu a sut rydym yn profi bywyd. Fel pobl rydym bob amser yn rhan o gysylltiadau cymdeithasol â'n gilydd. Trwy astudio Cymdeithaseg, byddwch yn gofyn cwestiynau heriol a chyffrous fel:
- Sut mae'ch galwedigaeth yn effeithio ar ba mor hir y byddwch yn byw?
- Sut mae rhywedd, crefydd a chefndir ethnig yn effeithio ar eich cyfleoedd mewn bywyd?
- Ydi gwrthdaro'n anochel?
- Beth sy'n rhoi 'hunaniaeth' i chi?
- O ble mae credoau a gwerthoedd yn dod?
- Ydi'r cyfryngau'n effeithio ar ein dewisiadau personol ynghylch ein ffordd o fyw?
- Ydi technoleg yn drech na'n gallu i'w reoli?
Gellwch hefyd astudio Cymdeithaseg trwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs BA Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol.
Mae Polisi Cymdeithasol yn ymwneud â'r byd yr ydym yn byw ynddo a sut mae ein hanghenion o ran diogelwch a lles yn cael eu cyflawni. Byddwch yn edrych arno o safbwynt byd-eang, o'i wreiddiau ym Mhrydain oes Victoria i heriau tlodi byd-eang heddiw. Byddwch yn chwilio am atebion i gwestiynau fel:
- Sut rydym yn mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb?
- Beth yw'r atebion i'r argyfwng tai?
- Beth fydd effaith newid yn yr hinsawdd ar bolisïau cymdeithasol?
- Beth yw swyddogaeth y wladwriaeth, sefydliadau'r sector gwirfoddol a phreifat a chymdeithas sifil wrth gyflawni amcanion Polisi Cymdeithasol?
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Mae gan Brifysgol Bangor enw da'n rhyngwladol am ymchwil ryngddisgyblaethol ac arloesol yn ymwneud ag effeithiau arloesi, newidiadau cymdeithasol, datblygiadau gwleidyddol a pholisïau ar iechyd, iechyd meddwl, tlodi, gofal cymdeithasol a lles. Mae ymchwil a wneir gan ein staff academaidd ym meysydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.