Myfyrwyr mewn neuadd ddarlithio

Ein myfyrwyr hynod

Mae fy amser ym Mangor wedi bod yn hudolus ac yn well nag yr oeddwn erioed wedi ei ddisgwyl. Rwyf wedi dysgu llawer, o gyllid, cyfrifeg, marchnata i reoli brand. Yr hyn rydw i wedi'i fwynhau fwyaf yw'r ffaith ei fod mor eang, felly gallaf benderfynu i arbenigo mewn unrhyw le rydw i eisiau. Mae'n mynd i fy helpu i wireddu fy mreuddwydion a bod yn bopeth rydw i erioed wedi dymuno bod.

Fatima Idris Abubakar, myfywraig Busnes,  o Nigeria
Y fyfyrwraig Gawina Fernandes

Gawina Fernandes

Yn Astudio:  Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol 
O: Chippenham, Y Deyrnas Unedig

“Mae llawer o glybiau a chymdeithasau ym Mangor hefyd ac mae ymuno â nhw i gymdeithasu’n anhygoel.”

Y fyfyrwraig Phoebe Crewe

Phoebe Crewe

Yn Astudio: Cerddoriaeth
O: Sir Gaer, Y Deyrnas Unedig

"Rwy'n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth lawn gan fy nghyfoedion a'm darlithwyr."

 

Y myfyrwir James Szewczyk

James Szewczyk

Yn Astudio: Sŵoleg gyda Herpetoleg 
O: Llundain, Y Deyrnas Unedig

Mae Bangor yn cynnig cymaint, bu’n brofiad anhygoel imi gael byw, astudio a gweithio yma.”

Y fyfyrwraig Amy Stout

Amy Stout

Yn Astudio: Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid 
O: Caerdydd, Cymru

“Cymuned y myfyrwyr yw’r hyn sy’n gwneud Bangor yn lle arbennig."

 

Y myfyriwr Owain Arwel Hughes

Owain Arwel Hughes

Yn Astudio: Cymraeg  
O: Ynys Môn, Cymru

"Mi wnes i elwa o'r bwrsariaethau sydd ar gael i gefnogi’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg."

Y fyfyrwraig Siriol Hughes

Siriol Hughes

Yn Astudio: Y Gyfraith 
O: Bangor, Cymru

"Rwy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau chwaraeon y Cymric, ac mae hwn wedi bod yn brofiad gwych."

Dechreuodd fy amser ym Mangor yn ystod y pandemig. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n cael amser caled ac yn teimlo'n unig ymhell o fy nghartref, ond roeddwn i'n ddiolchgar i gael darlithwyr mor gefnogol ac ymroddedig. Cwrddais â chymaint o bobl anhygoel eraill a chael rhai o'r atgofion gorau. Bydd y gwersi a ddysgais yma ym Mangor yn aros gyda mi am amser hir. Mae'n bryd symud ymlaen i bennod nesaf fy mywyd.

Mihael Jogun, myfyriwr Gwyddorau Biofeddygol,  o Hampshire, Lloegr

Rydw i wir yn mwynhau fy amser yn astudio'r Gyfraith ym Mangor. Mae’r addysgu bob amser yn wych, ac mae’r sesiynau tiwtorial, a arweinir gan ddarlithwyr, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn sesiynau grŵp llai er mwyn gofyn cwestiynau a chael gwell dealltwriaeth o bob pwnc. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi.

Millie Thompson, yn astudio'r Gyfraith,  o Sir Gaer

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?