Sgôr cerddoriaeth

Cerddoriaeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Cerddoriaeth

Pam Astudio Cerddoriaeth?

Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned fywiog o gyfansoddwyr, ysgolheigion a cherddorion o bob cwr o'r byd, byddwch yn elwa o'r cyfleoedd i rannu syniadau a chreadigrwydd mewn amrywiol ddulliau cerddorol. Mae ein cyfleusterau gyda'r gorau yn y byd, gan gynnwys pum stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf, casgliadau unigryw yn yr archifau a'r llyfrgell, cyfleusterau ymarfer 24 awr, offerynnau gwych, a neuaddau cyngerdd godidog. Cewch eich dysgu a'ch goruchwylio gan gerddolegwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr byd-enwog, yn ogystal â'ch sbarduno a'ch ysgogi'n ddeallusol gan siaradwyr ac artistiaid gwadd. Y tu allan i'r cwrs, cewch ymuno â'n corau, cerddorfeydd ac ensembles eraill, a gellwch elwa o'r llu o gyfleoedd sydd ar gael i chi fel aelod o brifysgol draddodiadol fywiog.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Cerddoriaeth

Gradd ôl-radd drwy ymchwil yw'r cymhwyster astudio uchaf y gellir ei gael. Yn ystod y rhaglen byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i'ch maes pwnc a dod yn arbenigwr cydnabyddedig yn y maes hwnnw.  Er y goruchwylir y broses ddysgu, byddwch yn annibynnol ac yn gyfrifol am ysgogi a chyfarwyddo eich hun. Ynghyd â'ch harbenigedd pwnc-benodol, mae hyn yn cymhwyso graddedigion at swyddi rheoli, swyddi ymchwil proffesiynol, galwedigaethau creadigol ar lefel uchel, a gyrfaoedd academaidd.

Ein Hymchwil o fewn Cerddoriaeth

Mae ein staff yn ymchwilwyr dygn ac maent yn canlyn amrywiaeth dda o ddiddordebau ymchwil mewn cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio.  Yn yr RAE diwethaf (2014), barnwyd bod bron i draean o'n hymchwil 'gyda'r gorau yn y byd', a drwyddi draw, barnwyd bod 81% o'n gweithgarwch ymchwil 'gyda'r gorau yn y byd' neu'n 'rhagorol yn rhyngwladol' (h.y. wedi cael y ddwy radd uchaf, sef 3* a 4*).

Mae ein staff yn cynnal ymchwil ac yn darparu goruchwyliaeth i raddau PhD mewn CerddolegCyfansoddiPerfformio ac Iechyd a Lles.  O fewn y meysydd eang hynny, mae gennym gryfderau allweddol o ran:

  • Cerddoriaeth Gynnar
  • Cerddoriaeth yr 20fed a’r 21ain ganrif
  • Golygu Cerddoriaeth
  • Cerddoriaeth Cymru
  • Cyfansoddi Acwsmatig ac Electroacwstig
  • Cerddoriaeth Ffilm
  • Y Celfyddydau Sonig
  • Perfformio Cyfoes
  • Perfformio Rhyngweithiol gydag Electroneg. 

Mae'r rhan fwyaf o'r staff yn weithgar mewn mwy nag un maes ac yn aml maent yn ymwneud â phrojectau ymchwil gyda chydweithwyr sy'n gweithio mewn disgyblaethau eraill.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?