
Pam Astudio Gwyddorau Iechyd?
Mae ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yn rhoi cyfle i ddatblygu arbenigedd ar draws meysydd amrywiol Economeg Iechyd, Gofal Sylfaenol, Heneiddio a Dementia, Gweithredu a Gwyddorau Iechyd mewn lefelau Meistri drwy Ymchwil, MPhil neu PhD, gyda chefnogaeth dull tîm rhyngddisgyblaethol. Fel ymchwilydd ôl-raddedig ym Mangor byddwch yn derbyn mentoriaeth wrth ddatblygu eich astudiaeth ymchwil, gan sicrhau eich bod yn datblygu set o sgiliau trosglwyddadwy fydd yn gwella eich cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.
Mae ein rhaglen ymchwil ôl-raddedig yn cynnwys Cymuned o Ysgolheigion, sy'n darparu 'mynediad agored' i adnoddau ymarfer ymchwil cymhwysol fel Podlediadau ar ddylunio, moeseg, llywodraethu a gyrfaoedd, yn ogystal â rhwydwaith academaidd clinigol amlddisgyblaethol wedi'i ymgorffori sy'n cynnwys nyrsio, meddygaeth, dieteg, parafeddygon, disgyblaethau deintyddol ac awdiolegol.
Nodwedd newydd o'n rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yw'r opsiwn o ddilyn y rhaglen Doethuriaeth Gofal Iechyd sy'n rhoi opsiwn i fyfyrwyr ddatblygu ysgolheictod mewn ymchwil gymhwysol ac ymchwil gymdeithasol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo ymarfer proffesiynol. Mae gan y rhaglen DHealthcare gydbwysedd o fodiwlau a addysgir a chydrannau ymchwil gymhwysol sy'n canolbwyntio ar feysydd pwnc Iechyd y Cyhoedd, Gweithredu neu Heneiddio a Dementia. Mae'n cynnwys llwybrau rhan-amser neu amser llawn a rhaglen e-ddysgu (Heneiddio a Dementia), yn ogystal â chyfleoedd i ymgorffori'r gydran ymchwil o fewn sefydliad neu bartner diwydiannol ar draws pob un o'r rhaglenni Gofal Iechyd.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Iechyd
Mae ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yn darparu ysgolheictod cymhwysol a hyfforddiant ymchwil sy'n berthnasol i yrfaoedd cyfoes mewn meysydd ymchwil neu broffesiynol ym maes iechyd clinigol ac ymarfer gofal cymdeithasol, ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae'r DHealthcare yn arbennig o berthnasol i'r gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol hynny sydd â rolau clinigol neu sefydliadol uwch sy'n cyfuno elfennau o ymarfer, ymchwil a gwella gwasanaethau mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhaglen yn darparu cymhwyster doethuriaeth sy'n cynnwys modiwlau astudio uwch ac ymchwil sydd wedi'u cynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol, gan gefnogi datblygiad eich gyrfa mewn ystod eang o broffesiynau cysylltiedig.
Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Iechyd
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF 2021 i gynnal a thyfu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf, gydag effaith y DU a rhyngwladol sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Ein huchelgais yw gwneud cyfraniad cadarnhaol at iechyd a lles yng Nghymru, a datrys heriau iechyd a gofal cenedlaethol a byd-eang. Rydym yn gwneud hyn trwy:
- Ymgymryd ag ymchwil o'r ansawdd uchaf sy'n cynhyrchu atebion newydd mewn gwasanaethau iechyd a gofal
- hwyluso mentrau gwella gwasanaethau
- darparu'r addysgu a'r dysgu gorau yn seiliedig ar ymchwil gyfoes i ddatblygu'r gweithlu iechyd a gofal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
- gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod popeth a wnawn o'r safon, ansawdd a gwerth uchaf posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth, myfyrwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill.
- cydnabod ein treftadaeth ddwyieithog yng Ngogledd Cymru
- cynnal cymhwysedd iaith a diwylliannol sy'n berthnasol i bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.