Dadansoddi sampl cemegol o dan microsgop

Gwyddorau Meddygol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Gwyddorau Meddygol

8fed

yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Gwyddor Biofeddygol)

Complete University Guide 2024

6ed

yn y DU am Werth Ychwanegol (Gwyddor Biofeddygol)

Guardian Good University Guide 2023

9fed

yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Gwyddor Biofeddygol)

Complete University Guide 2024

9fed

yn y DU am Anatomeg a Ffisioleg

Times Good University Guide 2023

Pam Astudio Gwyddorau Iechyd?

Mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil flaenllaw rydym yn ei wneud yn cael ei chyflawni yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin (NWCR) a'i nod yw deall y mecanweithiau sy'n sail i sut mae canserau'n datblygu, yn lledaenu ac osgoi therapi. Ein nod yw chwarae rhan allweddol mewn datblygu triniaethau ac offer newydd ar gyfer diagnosis cynnar a monitro cleifion, a fydd yn lleihau cyfraddau marwolaeth ac yn gwella'r drefn weithredu i'r claf.

Mae gennym hefyd arbenigedd helaeth mewn nifer o ddisgyblaethau meddygol pwysig eraill, yn amrywio o wyddoniaeth fiofeddygol i lawdriniaeth fasgwlaidd. Mae ein hymchwil gwyddorau meddygol yn canolbwyntio yn y pen draw ar wella lles pobl Cymru a thu hwnt, a chyfrannu at oresgyn yr heriau iechyd byd-eang mawr sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.

Bydd gradd ymchwil yn eich ysbrydoli ac yn eich galluogi i arloesi a chyfrannu at les pawb. Byddwch yn gweithio gydag arweinwyr rhyngwladol yn eu maes, gan ennill amrywiaeth o sgiliau a dod i gysylltiad â'r ymchwil feddygol fyd-eang fwyaf arloesol.  Bydd hyn yn eich rhoi mewn sefyllfa dda i gael gyrfaoedd gwerth chweil ar lefel uwch mewn maes lle gwelir cynnydd cyson mewn cyfleoedd. Mae'r Ysgol bob amser yn agored i geisiadau gan fyfyrwyr llawn cymhelliant, cymwys a hunangyllidol sy'n ceisio ymgymryd â PhD mewn maes pwnc perthnasol.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Meddygol

Mae gradd ymchwil yn unrhyw un o ddisgyblaethau'r gwyddorau meddygol yn cynnig cyfleoedd o safon uchel mewn amrywiaeth o yrfaoedd ledled y byd. Mae'r rhain yn cynnwys ymchwil feddygol sylfaenol neu gymhwysol yn y byd academaidd neu ddiwydiant, megis y sector fferyllol. Mae'r newidiadau a'r sialensiau presennol mewn meddygaeth hefyd yn creu agoriadau gyrfa newydd mewn cyfathrebu ymchwil mewn amrywiol sectorau, gan gynnwys darparwyr iechyd, diwydiant a'r cyfryngau.

Yn ogystal, bydd y sgiliau a gafwyd o radd ymchwil yn eich paratoi'n dda ar gyfer ymgymryd â swyddi uwch y tu allan i ymchwil, ac mae llawer o swyddogaethau rheoli uwch mewn ystod eang o sefydliadau yn agored i'r rhai sydd â graddau ymchwil uwch.

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Meddygol

Yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, rydym yn cynnig graddau ymchwil sy'n defnyddio dulliau blaengar i roi sylw i gwestiynau sylfaenol ym maes meddygaeth a/neu ddatblygu cymwysiadau i ddod dros anghenion clinigol difrifol. Mae gennym y nod cyffredinol o wella llwybr y claf, naill ai trwy gyfrannu gwybodaeth newydd i lenwi bwlch pwysig mewn gwybodaeth feddygol neu ddatblygu cymwysiadau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella iechyd a lles.

Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil canser lle mae ein timau ymchwil nid yn unig yn archwilio'r prosesau cymhleth sy'n arwain at ddatblygiad, cynnydd ac ymwrthiant canserau i therapïau, ond hefyd yn datblygu'r sylfaen ar gyfer therapïau newydd a thechnolegau monitro cleifion. Mae'r timau ymchwil canser wedi'u lleoli yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, sy'n ein hintegreiddio â'r rhwydweithiau ymchwil ehangach mewn prifysgolion ymchwil eraill ledled y byd a darparwyr gofal iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?