LLun o ddesg a llyfr lledr, sgrol a phluen

Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol

Pam Astudio Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol?

Rydym yn cynnig ystod o raglenni ôl-raddedig sy’n cysylltu’n agos a’i gilydd, ac a gaiff eu haddysgu gan arbenigwyr o sawl Ysgol academaidd. Mae hyn yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth fanwl a sgiliau hanfodol yn y disgyblaethau penodol, tra cânt hefyd ymwned yn llawn â'r gymuned academaidd ehangach. Mae’r arbenigedd rhyngddisgyblaethol yn darparu cyfleoedd i astudio ar draws ystod o feysydd ac ieithoedd perthnasol, ac mae hyfforddiant iaith yn cynnwys Cymraeg Modern a Chanol ar bob lefel.

Ymhlith staff Ysgol Iaith, Diwyllant a’r Celfyddydau y mae arbenigwyr mewn llenyddiaeth Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar; Astudiaethau Celtaidd; ieithoedd a diwylliannau'r Almaen, yr Eidal, Iberia a Tseina; a diwylliannau cerddorol cynnar. Mae Ysgol Hanes ac Archaeoleg yn cyfrannu arbenigedd yn hanes Cymru, Lloegr ac Ewropeaidd, yn ogystal yng nghynhanes y Brydain ‘Geltaidd’ ac Ewrop.

Mae modiwlau craidd pob cwrs MA unigol yn sicrhau eich bod yn datblygu dealltwriaeth fanwl o'ch dewis faes, ond bydd union ffocws y cwrs astudio (yn enwedig yn achos y traethawd hir terfynol) yn dibynnu ar eich union ddiddordebau. P’un ai ydych chi’n dewis arbenigo mewn canoloesoldeb Cymreig, Celtaidd, Prydeinig neu Ewropeaidd, a ph’un ai ydyw eich diddordebau mewn rhyddiaith Gymraeg neu Wyddeleg, barddoniaeth, hanesyddiaeth neu astudiaethau Arthuraidd, gallwch ddewis o ystod eang o fodiwlau dewisol, i gyd wedi’u hategu gan adnoddau gwych casgliadau Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor.

Mae gennym gysylltiadau agos gyda phrifysgolion eraill ledled y byd, yn enwedig yn U.D.A. ac yn benodol gydag Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Harvard, yr ydym yn rhannu cynllun cyfnewid myfyrwyr PhD â nhw. Anogwn ein myfyrwyr MA i fanteisio ar gyfleoedd arbennig i deithio i gynadleddau.

Rydym yn brifysgol ddwyieithog: gellir astudio nifer fawr o’n modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a gellir cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn y naill iaith neu’r llall. Mae ystod lawn o ddosbarthiadau iaith ar gael ar bob lefel, ac anogir myfyrwyr i wneud defnydd llawn o’r cyfleoedd i ymgysylltu â chyfoeth ieithyddol yr ardal, lle mai’r Gymraeg yn iaith gyntaf i’r mwyafrif.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol

Yn ogystal â bod yn gymwysterau yn eu rhinwedd eu hunain, mae’r rhaglenni MA hyn yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ymchwil pellach ar lefel PhD. Mae hyfforddiant mewn palaeograffeg ganoloesol a hanes llyfrau yn un maes sgiliau allweddol y cewch ddewis ei ddatblygu, tra mae cyfleoedd cyson i wirfoddoli yn ein Harchifau a Chasgliadau Arbennig neu weithio gyda staff ar amryw brosiectau. Mae ein myfyrwyr yn trefnu’r gynhadledd flynyddol ryngddisgyblaethol ‘Trawsnewid yr Oesoedd Canol’, sydd bellach yn ei 17eg flwyddyn.

Mae gwella gwybodaeth a datblygu sgiliau yn helpu i gryfhau eich rhagolygon gyrfa, gan eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi y tu mewn i neu’r tu allan i’r byd academaidd: e.e., fel ymchwilydd, addysgwr, newyddiadurwr, swyddog celfyddydau/treftadaeth, cyfieithydd, neu waith ym maes cyhoeddi, llywodraeth leol , etc.

Profiad Myfyrwyr

Mae ein myfyrwyr ôl-raddedig yn siarad am eu profiad o Brifysgol Bangor hyd yma ac yn rhannu cyngor ar pam y dylech ystyried astudio Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol e ym Mhrifysgol Bangor.

00:00.00 - 00:03.50
Luke Lambert ydw i, ac rydw i'n dilyn y cwrs MA ar astudiaethau canoloesol.

00:03.59 - 00:08.74
Rwy'n mwynhau astudio astudiaethau canoloesol yn benodol ar gyfer y dull rhyngddisgyblaethol yma yn y brifysgol.

00:08.74 - 00:14.58
Rwy'n credu bod ehangder y pynciau yr ydym yn eu trafod yn helpu i roi sylfaen ddiogel ar gyfer y dyfodol.

00:14.58 - 00:21.51
Y peth cyntaf y byddwn i'n ei ddweud yw bod Bangor yn lle da i astudio oherwydd bod ganddo deimlad clos go iawn.

00:21.51 - 00:25.78
Rwy'n credu ar gyfer fy nosbarthiadau, y mwyaf sydd gennym yn ein dosbarth yw fel deg o bobl.

00:25.78 - 00:34.92
Ac felly byddwn i'n dweud bod hynny'n help mawr gyda sylw'r athrawon, ar unwaith ymatebion ganddyn nhw.

00:34.923 - 00:43.24
Ar y cyfan, byddwn i'n dweud ei fod yn helpu i gael y teimlad hwnnw o gefnogaeth sy'n anodd ei gael mewn sefydliad modern a dweud,

00:43.24 -  00:50.69
Rwy'n gobeithio mynd ymlaen i Ph.D. ar ôl hyn ac yna mynd i mewn i broffesoriaeth ac ymchwil ar gyfer astudiaethau canoloesol.
 

Yr Athro Raluca Radulescu yn siarad am yr MA mewn Astudiaethau Arthuraidd

Cyflwynwch eich hun.

Raluca Radulescu wyf i, athro mewn llenyddiaeth ganoloesol a chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yma ym Mangor.

Dywedwch wrthym am yr MA mewn Astudiaethau Arthuraidd

Mae’r MA mewn Astudiaethau Arthuraidd yn rhedeg ym Mhrifysgol Bangor ers dros 20 mlynedd a chyn hynny hefyd ers bron i 40 mlynedd. Mae’n rhaglen ryngwladol iawn sy’n dod ag arbenigedd mewn Astudiaethau Arthuraidd, Astudiaethau Celtaidd, a Hanes Cymru ynghyd. Sylfaen y rhaglen yw’r Chwedlau a’r wlad ei hun. Yma ym Mangor, rydym yng nghanol tarddle’r chwedlau. Rydym hefyd yn defnyddio’r arbenigedd sydd gennym mewn nifer o feysydd gan gynnwys llenyddiaeth Saesneg, llenyddiaeth Gymraeg, hanes y Gymru ganoloesol a modern, treftadaeth, a chyhoeddi. Rydym yn bwrw golwg dros ffenomen fyd-eang y chwedlau Arthuraidd, ac amrywiol gyfieithiadau mewn ieithoedd gwahanol fel y Ffrangeg, yr Almaeneg, a’r Eidaleg, a’r tu hwnt hyd at y nofel fodern a’r cyfryngau modern.

Beth sy'n gwneud yr MA mor arbennig?

Mae gradd MA Astudiaethau Arthuraidd Bangor yn arbennig oherwydd mae’n dwyn ynghyd arbenigeddau’r rhai sy’n ei dysgu, yn ogystal â’r rhai sy’n ymchwilio i wahanol agweddau ar y chwedlau. Mae fy niddordeb yn y chwedl yn deillio o’m harbenigedd innau yn llenyddiaeth Saesneg yr Oesoedd Canol, yn enwedig o ran y croniclau, y cyfeiriad at Arthur yn y cronicl canoloesol The Brut, sy’n mynd yn ôl at sylfaenydd chwedlonol Prydain y cyfeiria Sieffre o Fynwy ato yn Historia Regum Britanniae, sef Brutus, a sut mae stori Arthur yn dwyn ynghyd wahanol elfennau o chwedl genedlaethol a stori genedlaethol am goncwest ond hefyd am wareiddiad, o ddod â gwerthoedd cwrtais i’r rhan hon o’r byd.

Mae gennyf ddiddordeb yn hynny yn ogystal ag yng ngwaith Syr Thomas Mallory, yr awdur o’r bymthegfed ganrif a oedd yn ysgrifennu yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, a’i destun Le Morte d’Arthur, marwolaeth Arthur, yn adrodd chwedl hir unigol mewn rhyddiaith am esgyniad a chwymp y bwrdd crwn o dan arweiniad y Brenin Arthur. Mewn geiriau eraill, dyma'r testun Saesneg hiraf o'r Oesoedd Canol. Dylanwadodd ar genedlaethau o awduron a darllenwyr a wnaeth ei berchenogi a’i fwynhau dros y canrifoedd hyd at yr 21ain. Felly, fy arbenigedd innau yw gwaith Syr Thomas Mallory yr awdur o’r 15fed ganrif a ddaeth â gwahanol elfennau o chwedl Arthur ynghyd mewn un darn rhyddiaith hir yn yr iaith Saesneg. Hyd heddiw, dyma un o’r fersiynau mwyaf poblogaidd a pharhaol o chwedl Arthur.

Yn benodol felly, gallaf weithio yma ym Mhrifysgol Bangor a gall y myfyrwyr rwy'n eu dysgu ddefnyddio'r casgliadau, gan gynnwys yr enghraifft hon o'r argraffiad printiedig modern cynnar olaf o Le Morte d'Arthur o 1634 a argraffwyd gan William Stansby yn Llundain. Mae’n enghraifft o argraffiad hwyr, o bosib, o’r testun o’r bymthegfed ganrif. Felly yn yr 17eg ganrif mae gennym y llythrennau gothig o hyd, y llythrennau du ochr yn ochr â’r torlun pren a gyflwynwyd gyntaf gan Wynkyn de Worde, prentis William Caxton i argraffu Le Morte d'Arthur.

Yn ogystal â hynny mae gennyf ddiddordeb mawr yn hanes cyhoeddi’r testunau Arthuraidd, boed Le Morte d’Arthur Mallory, neu eraill gan gynnwys er enghraifft, straeon neu ddiddordeb hynafiaethol yn hanesyddiaeth Arthur, yr ailargraffiadau neu’r argraffiadau a’r golygiadau o Gildas a Nennius ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae gennym enghraifft yma o Gasgliad Harries Sir y Fflint, ac enghreifftiau cain o oes aur darlunio ac o hanes cyhoeddi Le Morte d’Arthur a ailargraffwyd yn gynnar yn yr 20fed Ganrif gyda thorluniau pren gwreiddiol Wynkyn de Worde ond mewn teip

modern. Neu yn wir archwilio sut yn y 18fed ganrif, nid yn unig y bu i Charles Bertram argraffu Gildas a Nennius yn ei ymdrechion i’w osod ei hun yn hanes astudiaethau Arthuraidd fel hynafiaethydd, a sut y bu iddo ffugio testun am y Brenin Arthur a rhoi ei enw ei hun yn y llyfr fel golygydd y testunau hynny.

Mae sawl peth arbennig am astudio ar gyfer MA Arthuraidd ym Mangor. Un o’r rheini’n ddigamsyniol yw bod yn rhan o’r gymuned o ysgolheigion sy’n mwynhau bod yn y llefydd y cododd chwedl Arthur, lle cafodd ei hysgrifennu, a gweithio gydag arbenigwyr boed mewn archaeoleg Geltaidd, chwedlau Celtaidd, hanes Cymru’r canoloesoedd a hanes cyhoeddi’r llyfrau. Ym Mhrifysgol Bangor mae gennym un o'r casgliadau pwysicaf o lyfrau Arthuraidd yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop ac rydym yn ffodus iawn fod gennym y casgliad hwnnw at ein defnydd ninnau ar yr MA a gyda’r myfyrwyr PhD.

Yn benodol hoffwn dynnu sylw at y ffaith ein bod yn gweithio gyda'r gymuned yn gyson, rydym yn derbyn rhoddion, ac rydym yn trefnu nifer o ddigwyddiadau sy'n cynnwys rhoi ein myfyrwyr mewn cysylltiad â'r ymchwil diweddaraf yn y maes. Rydym yn cynnal digwyddiadau i’r myfyrwyr gymryd rhan ynddynt i gyflwyno eu hymchwil lle maent yn rhan o grŵp darllen rhyngwladol fel yr ydym ninnau ar hyn o bryd, p'un a ydynt yn helpu gydag arddangosfeydd amrywiol neu ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol. Mae digon o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau academaidd, efallai cyhoeddi yng Nghylchgrawn y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, neu yn wir i ddatblygu sgiliau at ryw broffesiwn yn y dyfodol, swydd yn y dyfodol boed ym maes treftadaeth, y cyfryngau, neu rywbeth arall cysylltiedig.

Mewn geiriau eraill, ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn darparu addysg lawn a chymhleth iawn sy'n eich paratoi ar gyfer y byd sydd ohoni, nid dim ond gwybod sut mae darllen a dadansoddi'r testunau a sut mae mwynhau’r ffordd y mae’r chwedl yn mynd rhagddi ac yn ysbrydoli. Mae’n ymwneud hefyd â darparu’r gwaddol parhaus hwnnw fel llwybr ffrwythlon at ddarllen ac ymchwil pellach boed hynny gan yr ifanc yn ffuglen y plant neu’r cyhoedd boed mewn ffilmiau neu newyddiaduraeth, mae MA Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig y cyfleoedd hynny i gyd a llawer mwy.

Ein Staff

Gallwch fwynhau addysgu o safon uchel a ddarperir gan arbenigwyr yn eu maes. Darllenwch y proffiliau staff i ddysgu mwy.

Ein Staff

Gallwch fwynhau addysgu o safon uchel a ddarperir gan arbenigwyr yn eu maes. Darllenwch y proffiliau staff i ddysgu mwy.

Ein Hymchwil o fewn Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol

Mae natur amrywiol a rhyngddisgyblaethol astudiaethau Celtaidd, Cymreig, Arthuraidd a Chanoloesol wedi’u cynrychioli’n dda ym Mhrifysgol Bangor: dygir ynghyd arbenigeddau ymchwil ar draws iaith, llenyddiaeth, hanes, archaeoleg a cherddoriaeth.

Mae cyfraniad Prifysgol Bangor i dwf ysgolheictod Cymreig a Cheltaidd, ac Astudiaethau Arthuraidd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol er sefydlu’r Brifysgol yn 1884. Yma y lluniodd Syr John Morris-Jones ei Welsh Grammar (1913), sy’n gosod seiliau’r iaith lenyddol fodern, ac mae traddodiad golygyddol allweddol ysgolheigion megis Ifor Williams (Canu Aneirin, Canu Taliesin, etc.) yn parhau hyd heddiw.

Mae gan Brifysgol Bangor arbenigedd ar draws holl brif feysydd llenyddiaeth, iaith a hanes Celtaidd, ac mae ein staff yn cynnwys rhai o brif awduron ac ymarferwyr creadigol y Gymru gyfoes, mewn rhyddiaith, barddoniaeth a drama. Mae tirwedd archaeolegol gyfoethog y gogledd-orllewin yn ganolbwynt naturiol i ymchwil sy’n archwilio cymdeithasau’r gorffennol, eu haneddiadau a’u diwylliant materol, o’r cyfnod Mesolithig diweddar i’r ôl-ganoloesol. 

Mae ymchwil ac addysgu rhagorol Astudiaethau Arthuraidd wedi’u cadarnhau drwy sefydlu Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y Brifysgol. Mae’r ganolfan yw hyrwyddo cyfnewid ymchwil rhyngwladol,  a hynny drwy gysylltiadau hirsefydlog â’r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol. Ochr yn ochr â Chanolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr, a Chanolfan Ymchwil R.S. Thomas, mae’n darparu adnoddau arbennig iawn, gan gynnwys argraffiadau prin, ar gyfer ymchwilwyr ym mhob un o’r meysydd hyn.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?