Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Gwarchod cadwraeth a’r gymuned

Effaith ein hymchwil

Mae ymchwil y bu Bangor yn arwain arni yn sicrhau nad yw cadwraeth coedwigoedd yn dod ar draul pobl dlotaf y byd, trwy ddylanwadu ar sut mae llywodraethau ledled y byd yn lleihau effeithiau negyddol eu polisïau rheoli hinsawdd.

Gwyddom fod coedwigoedd trofannol yn chwarae rhan bwysig wrth gloi carbon, ond mae coedwigoedd yn parhau i gael eu torri i lawr ledled y byd. Mae angen brys i warchod ac adfer y coedwigoedd hyn er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd a diogelu bioamrywiaeth. Y broblem yw y gall cymunedau, wrth wneud hynny, fynd yn dlotach drwy golli mynediad at dir ac adnoddau sy'n hanfodol i'w bywoliaeth.

Mae ymchwil dan arweiniad Bangor yn mynd i'r afael â'r her hon.

Trwy ddylanwadu ar sut mae llywodraethau ledled y byd yn lleihau effeithiau negyddol eu polisïau rheoli hinsawdd, rydym yn sicrhau nad yw cadwraeth coedwigoedd yn dod ar draul pobl dlotaf y byd.

Mae llywodraeth Uganda wedi ymgorffori argymhellion Bangor yn ei strategaeth gwrthbwyso bioamrywiaeth genedlaethol, mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi defnyddio canfyddiadau’r ymchwil mewn penderfyniadau cyllido ar gyfer mwynglawdd ym Myanmar, ac mae un o fwyngloddiau nicel mwyaf y byd ym Madagascar wedi newid sut mae’n ymdrin â gwrthbwyso.

Cynhyrchwyd ffilm fer gan y tîm o’r enw “Voices from the Forest”, a daeth â safbwyntiau pobl leol i’r llwyfan byd-eang. Dangoswyd y ffilm yng nghynhadledd hinsawdd COP26 yn Glasgow.

Mae gwarchod ac adfer coedwigoedd trofannol yn hanfodol ond ni ellir cyflawni hyn heb gyfranogiad gwirioneddol cymunedau lleol.  Nod ein gwaith yw rhoi pobl leol wrth galon trafodaethau gyda'r nod o au cadwraeth goedwigol yn fwy effeithiol a theg.

Yr Athro Julia Jones,  Cyd-arweinydd Ymchwil ac Athro mewn Gwyddor Cadwraeth, Prifysgol Bangor

Mae’r dylanwad y mae ein hymchwil wedi’i gael yn y maes hwn yn profi pa mor bwysig yw hi i ymchwilwyr, diwydiant a llywodraethau ledled y byd i weithio gyda’i gilydd, i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Rydym ni'n dod â'r profiadau hyn i'n haddysgu, er mwyn helpu ein myfyrwyr i ddysgu oddi wrthyn nhw hefyd.

Dr Neal Hockley,  Cyd-Arweinydd Ymchwil ac Uwch Ddarlithydd mewn Economeg a Pholisi, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?