PROFFILIAU MYFYRWYR
Nia Haf
Trawsgrifiad fideo: Proffil myfyrwyr - Nia Haf
BA (Anrhydedd) Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau
Mae Nia, o Lanrug, yn astudio Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau ym Mangor, ac yn byw yn Neuadd Morris-Jones.
Astudiaethau Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg: Sylfaen Gref
Ar radd yn y Gymraeg, Theatr a'r Cyfryngau, bydd dwy ran o dair o'ch astudiaethau wedi'u neilltuo i iaith a llenyddiaeth Gymraeg. Mae gweddill eich gradd yn canolbwyntio ar arferion creadigol ategol y cyfryngau a chynhyrchu dramatig. Mae’r modiwlau dewisol yn cynnig hyblygrwydd mawr i deilwra eich astudiaethau bob cam o’r ffordd.
Cyfleoedd Ymarferol a Gyrfaol Dwyieithog
Ym Mhrifysgol Bangor cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, bydd cyfleoedd hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol a fydd yn eich paratoi at yrfa lwyddiannus yn gweithio’n ddwyieithog.
Archwilio Testunau a Theori: O'r Mabinogi i'r Cyfryngau Cyfoes
Cewch archwilio testunau llenyddol cyfoethog ac amrywiol, o chwedlau’r Mabinogi i lenyddiaeth ddeinamig y Gymru gyfoes. Cewch ddysgu am agweddau damcaniaethol a hanesyddol y theatr a’r cyfryngau, megis hanes y ddrama Gymraeg, hanes y ddrama Ewropeaidd, y traddodiad o addasu gwaith i’r llwyfan, astudio gweithiau Cymraeg i’r sgrin a’r traddodiad o ddarlledu ar gyfer y radio fel cyfrwng.
Sgiliau Creadigol a Chynhyrchu: Ysgrifennu, Perfformio a Chyfarwyddo
Cewch ddysgu am ysgrifennu i’r theatr, y sgrin, y cyfryngau digidol a llwyfannau eraill. Mae trawstoriad eang hefyd o fodiwlau ar gael sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr feithrin a datblygu sgiliau ymarferol mewn meysydd, megis sgiliau ysgrifennu i’r sgrin (i’r teledu ac i’r llwyfan), sgiliau perfformio a chyfarwyddo yn ogystal â sgiliau cynhyrchu ar gyfer y llwyfan, y teledu a'r radio.
Traddodiad Academaidd a Phrofiad Proffesiynol
Mae'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn un o'r pynciau hynaf ym Mhrifysgol Bangor. Ers ei sefydlu ym 1889, mae ei chyfraniad at fywyd llenyddol a diwylliannol Cymru wedi bod yn hollbwysig. Mae rhai o'r staff yn weithwyr proffesiynol ac yn ymgynghorwyr gweithredol, a deuwn â phrofiadau uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth. Byddwch yn meithrin eich doniau creadigol yng nghwmpeini rhai o ymarferwyr creadigol mwyaf blaenllaw Cymru a rhai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes. Maent wedi ennill clod rhyngwladol a gwobrau lu gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn, a’r gwobrau mwyaf – Y Fedal Ryddiaith, Y Fedal Ddrama, a Chadeiriau a Choronau Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Arbenigedd Staff: Ymarfer Cyfoes a Dylanwad Diwylliannol
Mae gan ein tîm brofiad o ysgrifennu a chynhyrchu i’r radio, y llwyfan a’r sgrin, gan ganolbwyntio’n bennaf ar berfformio cyfoes, ymarfer proffesiynol ac asesu effaith y sector celfyddydau a diwylliant ar gymdeithas heddiw.