y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso MeddyginiaAelodau Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, dan arweiniad yr Athro Rhiannon Tudor Edwards.

Newyddlen Haf CHEME 2023

Croeso'r Cyfarwyddwr

y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso MeddyginiaAelodau Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, dan arweiniad yr Athro Rhiannon Tudor Edwards.
Aelodau Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, dan arweiniad yr Athro Rhiannon Tudor Edwards.

Mae llun clawr cylchlythyr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau'r haf yma yn dangos aelodau o’r Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, dan arweiniad yr Athro Rhiannon Tudor Edwards.

Enwyd Rhiannon ar restr o awduron pwysicaf economeg iechyd mewn dadansoddiad bibliofetrig byd-eang diweddar o erthyglau’n cyfeirio at economeg iechyd a gyhoeddwyd rhwng 1975 a 2022 (Drummond, Jonsson, Coast, Donaldson, ac Edwards). Cafodd ei henwi ymysg y 5 economegydd iechyd pwysicaf, ac ymysg y 10 uchaf o ran cynhyrchedd. Cyfrannodd ymchwil y Grŵp at enwi Prifysgol Bangor ymhlith y 10 sefydliad addysg uwch mwyaf cydweithredol ym maes economeg iechyd allan o 1,723 o sefydliadau yn fyd eang.

Dilynwch ni ar Trydar @CHEMEBangor i gael y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau.

Yr Athro Dyfrig Hughes @HughesDyfrig, a’r Athro Rhiannon Tudor Edwards @ProfRTEdwards  Cyd-gyfarwyddwyr CHEME

Ymchwil

Consortiwm Ymchwil Teithio Llesol Cymru (ATLAS)

Mae Dr Emily Holmes, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, yn un o saith sefydlydd “Consortiwm Ymchwil Teithio Llesol Cymru (ATLAS)”. Nod y Consortiwm yw darparu rhaglen ymchwil i gefnogi’r symudiad moddol tuag at deithio llesol yng Nghymru, i bawb. Mae’r ymchwil yn ystyried effaith teithio llesol ar dri maes cyd-gysylltiedig allweddol: iechyd a lles,
iechyd a gwleidyddiaeth amgylcheddol, a thirweddau hygyrch Cymru.

Gwerth gwybodaeth a chost-effeithiolrwydd sgrinio am ddysplasia datblygiadol y glun (VOICES-DDH):

Dr Catrin Plumpton, Darlithydd Ffarmacoeconomeg yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, yw Prif Ymchwilydd VOICES-DDH. Mae dysplasia datblygiadol y glun (DDH) yn effeithio ar rhwng 1 a 10 o bob 1,000 o enedigaethau byw yn y Deyrnas Unedig. O’i ganfod yn gynnar, gellir trin DDH heb ymyrraeth lawfeddygol, ond o’i ganfod yn hwyr mae angen llawdriniaeth ac mae canfyddiadau hwyr yn gysylltiedig â phrognosis gwaeth. Yng Nghymru a Lloegr caiff cluniau eu sgrinio mewn babanod newydd-anedig ac unwaith eto ar ôl 6 wythnos, ond mae nifer y canfyddiadau hwyr yn parhau i fod yn uchel. Gallai rhaglenni sgrinio amgen leihau’r nifer o ganfyddiadau hwyr a byddai hefyd yn arwain at gynnydd yn y nifer o gluniau a fyddai’n cael eu trin, a gallasai rhai ohonynt wella'n naturiol heb driniaeth. Bydd yr astudiaeth yn datblygu model dadansoddol o benderfyniadau ac yn cynnig dadansoddiad o werth gwybodaeth.

Addysgu ac Ymchwil Cysylltiedig â Meddyginiaethau

Mae Dyfrig Hughes wedi arwain gweithgor ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu cyrsiau gradd yn ymwneud â meddyginiaethau a phresgripsiynu. Mae’r rhain yn cynnwys y camau cychwynnol tuag at achredu gradd fferylliaeth MPharm, gradd BSc mewn Ffarmacoleg (y mewnlif cyntaf ym mis Medi 2023), a modiwl ôl-raddedig ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn Ffarmacogenomeg. Mae'r cyrsiau hyn yn arwyddo cyfeiriad newydd yn natblygiad rhaglenni addysgu meddygol ac iechyd-gysylltiedig Prifysgol Bangor, ac yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer ymchwil yn ymwneud â defnydd diogel, effeithiol ac effeithlon o feddyginiaethau.

Cydweithrediadau â’r Hemisffer Deheuol

Mae ymchwil sy’n ymwneud ag ymlyniad at feddyginiaeth wedi arwain Dyfrig Hughes i gydweithio â Dr Dan Wright a’r myfyriwr PhD Klarissa Sinnappah ym Mhrifysgol Otago ar ddatblygu offer i asesu'r risg o ragfarn mewn ymchwil ar ymlyniad; a chyda Dr Sophie Stocker a’r myfyriwr PhD Toni Michael, o Brifysgol Sydney ar ymyriadau i wella ymlyniad at driniaethau ar gyfer gowt. Cynllunnir
gwerthusiad economaidd o'r ymyriad, i sefydlu a all monitro wrad mewn modd sy'n canolbwyntio ar y claf yn y man gofal, ynghyd ag adborth, wella ymlyniad at allopurinol.

Newyddion

Crwsibl Cymru 2023

Llinos Haf Spencer, member of CHEME staff
Llinos Haf Spencer, member of CHEME staff

Dewiswyd Dr Llinos Haf Spencer i fod yn rhan o Grwsibl Cymru 2023, llwyfan Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Arweinwyr Ymchwil y Dyfodol yng Nghymru. Dywedodd Llinos “Roedd yn bleser cyfarfod ag aelodau eraill Crwsibl Cymru, rhannu syniadau â nhw a gwneud cysylltiadau pwysig. Dysgais am bolisi, y cyfryngau a llawer mwy! Roedd yr hwylusydd Vivienne Parry yn arbenigwr mewn cysylltu syniadau a phobl, ac roedd yn braf iawn cyfarfod â’r Athro Catherine Green OBE, Athro Cysylltiol mewn Dynameg Cromosomau ym Mhrifysgol Rhydychen a fu’n gysylltiedig â datblygu brechlyn Covid-19 Oxford-AstraZeneca.”

Croesawu datblygiad Economeg Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cyfarfu Rhiannon Tudor Edwards a’r Athro Deb Fitzsimmons â’r Athro Murray Smith, a benodwyd yn ddiweddar yn Athro Economeg Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r swydd hon wedi cael ei hariannu ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Image of Rhiannon Tudor Edwards and Professor Deb Fitzsimmons with Professor Murray Smith, Professor of Rural Health Economics at Aberystwyth University.
Rhiannon Tudor Edwards and Professor Deb Fitzsimmons with Professor Murray Smith, Professor of Rural Health Economics at Aberystwyth University.

Project Cyngor ar Bopeth ar Bresgripsiwn – a gyllidir gan y Sefydliad Cenedlaetol dros Ymchwil Iechyd

Ymwelodd Rachel Granger a Rhiannon Tudor Edwards â Chyngor ar Bopeth yn Speke, Lerpwl i weld sut mae data’n cael ei gasglu ar gyfer project Cyngor ar Bopeth ar Bresgripsiwn. Ynghyd â phartneriaid ym Mhrifysgol Lerpwl, rydym yn archwilio effeithiolrwydd cost y rhaglen hon sy’n galluogi meddygon teulu ar draws Lerpwl i atgyfeirio cleifion at Gyngor ar Bopeth i dderbyn cefnogaeth a chael eu cyfeirio at wasanaethau fel cwnsela ar ddyled, cefnogaeth rhag trais domestig, gwasanaethau dibyniaeth a phresgripsiynu cymdeithasol. Mae gwasanaeth arbenigol i famau newydd yn cynnig cefnogaeth wedi'i deilwra drwy'r rhaglen amenedigol. Dyma enghraifft o werthusiad economaidd o ymyriad cymhleth mewn system gymhleth.

Buddsoddi ar gyfer iechyd - Project Horizon Europe

Aeth Dr Holly Whiteley a’r Athro Rhiannon Tudor Edwards i gyfarfod cychwynnol y project Buddsoddi ar gyfer Iechyd, a gyllidir gan Horizon Europe, ym Malmö, Sweden ym mis Chwefror. Daw’r astudiaeth bedair blynedd hon â phartneriaid ynghyd o wyth gwlad Ewropeaidd i archwilio “Buddsoddiad Galluogol Clyfar” mewn iechyd ataliol i wella iechyd y boblogaeth. Cyflwyno ffeithlun Olwyn Llesiant a Lles yn Malmö.

 

Image of Dr Holly Whiteley and Rhiannon Tudor Edwards at the Invest for Health project funded by Horizon Europe in Malmö, Sweden
Dr Holly Whiteley and Rhiannon Tudor Edwards at the Invest for Health project funded by Horizon Europe in Malmö, Sweden

 

Ynglŷn â phobl

Llongyfarchiadau

Dyfarnwyd PhD i Dr Huw Lloyd-Williams. Roedd ei draethawd ymchwil yn canolbwyntio ar economeg profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut y maent yn effeithio ar symudedd cymdeithasol.

Dyfarnwyd PhD i Dr Bethany Fern Anthony, Swyddog Ymchwil yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau. Roedd traethawd ymchwil Bethany yn ymchwilio i ddarpariaeth gwasanaethau meddygol cyffredinol gan weithwyr iechyd proffesiynol anfeddygol a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig ag iechyd. Mae traethawd ymchwil Bethany yn cynnwys dau adolygiad systematig, arolwg cenedlaethol, ac astudiaeth dulliau cymysg (yn cynnwys dadansoddiad effaith cyllideb a chyfweliadau ansoddol) yn archwilio dirprwyo swyddogaethau mewn gofal cychwynnol.

Staff Newydd

Llun o Hannah Hughes, aelod o staff Cheme
Hannah Hughes, aelod o staff Cheme

Hannah Hughes

Mae Hannah wedi ymuno â’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau fel Swyddog Cefnogi Project Ymchwil ac yn cefnogi Emily Holmes gyda phrojectau megis asesiad risg- budd sy’n canolbwyntio ar y claf o driniaeth ar gyfer metastasisau colorectol yr iau, a’r grŵp diddordeb ymchwil Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.

 

Llun o Sofie Roberts, aelod o staff Cheme
Sofie Roberts, aelod o staff Cheme

Sofie Roberts

Ymunodd Dr Sofie Roberts â’r Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol i wella proffil ymchwil a gweithgareddau effaith y grŵp

 

Llun o Yankier Pijeira Perez, aelod o staff Cheme
Yankier Pijeira Perez, aelod o staff Cheme

Yankier Pijeira Perez

Mae Dr Yankier Pijeira Perez yn parhau i weithio gyda ni fel Swyddog Ymchwil Ffarmacoeconomeg yn dilyn cwblhau ei thraethawd ymchwil PhD oedd yn ymwneud â'r heriau sy'n gysylltiedig ag asesiad technoleg iechyd meddyginiaethau a gymeradwyir yn amodol.

 

Ffarwel

Dymuniadau gorau i Dr Pippa Anderson a gyfrannodd i’r Grŵp Ymchwil Economeg, Polisi a Phresgripsiynu Fferyllol yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau; ac i Dr Blanca Guizar Moran sy'n gadael Bangor ar ôl cefnogi Pippa ar broject yn ymwneud â chomisiynu gwasanaethau genomig arbenigol yng Nghymru. Dymunwn yn dda i'r ddwy ohonynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.

Digwyddiadau / Cyflwyniadau Diweddar

Traddododd Emily Holmes gyflwyniad ar gyfleoedd ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol ym maes Ymwrthedd Gwrthficrobaidd, gan gynnwys rôl economeg ymddygiadol ac iechyd, yn nigwyddiad lansio Iechyd Cyfunol Bangor.

Cymdeithas Ryngwladol Ymlyniad Meddyginiaethol (ESPACOMP)

Cyflwynodd Emily Holmes, Catrin Plumpton, a Dyfrig Hughes weithdy ar Ddefnyddio Arbrofion Dewis Arwahanol a Nodir mewn Ymchwil i Ymlyniad, a drefnwyd gan Gyfarfod Blynyddol Cymdeithas Ryngwladol Ymlyniad Meddyginiaethol.

Chweched Gyngres Cymdeithas Helenaidd Therapi Genynnau a Meddyginiaeth Adfywiol

Gwahoddwyd Dyfrig Hughes i draddodi prif gyflwyniad ar Economeg Meddyginiaethau Therapi Datblygedig yn Athen, Gwlad Groeg.

Cyhoeddiadau Diweddar

Granger R, Genn H, Tudor Edwards R. Health economics of health justice partnerships: A rapid review of the economic returns to society of promoting access to legal advice. Frontiers in Public Health. 2022 Tach
15;10:1009964. doi:10.3389/ fpubh.2022.1009964.

Edwards RT. Well-being and well-becoming through the life-course in public health economics research and policy: A new infographic. Frontiers in Public Health. 2022 Rhag 23;10. doi:10.3389/ fpubh.2022.1035260.

Weeks AD, Cunningham C, Taylor W, Rosala- Hallas A, Watt P, Bryning L, Ezeofor V, Cregan L, Hayden E, Lambert D, Bedwell C. A mixed method, phase 2 clinical evaluation of a novel device to treat postpartum haemorrhage.
European Journal of Obstetrics & Gynecology and Reproductive Biology. 2023;283:142-8. doi:10.1016/j.ejogrb.2023.01.018.

Makanjuola A, Granger R, Pisavadia K, Edwards RT. Is lifestyle coaching a potential cost-effective intervention to address the backlog for mental health counselling? A Rapid Review. medRxiv. 2023 Ion. doi:10.1101/2023.01.20.23284835.

Spencer LH, Hendry A, Makanjuola A, Anthony BF, Davies J, Pisavadia K, Hughes D, Fitzsimmons D, Wilkinson C, Edwards RT, Lewis R. What interventions or best practice are there to support people with Long COVID, or similar post-viral conditions or conditions characterised by fatigue, to return to normal activities: a rapid review. medRxiv. 2023 Ion. doi:10.1101/2023.01.24.23284947.

Spencer LH, Lynch M, Thomas GM, Edwards RT. Intergenerational Deliberations for Long Term Sustainability. Challenges. 2023 Chwe 11;14(1):11. doi:10.3390/challe14010011.

Spencer LH, Albustami M, Khanom A, Porter A, Naha G, Thomas RL, … Edwards RT. (2023). CYMELL Study: rapid review of the evidence. Study protocol PROSPERO. Chwe 2023. Available at: https://www.crd.york.ac.uk/ prospero/display_record.php?RecordID=399283v.

Casswell EJ, Cro S, Cornelius VR, Banerjee PJ, Zvobgo TM, Edwards RT, Ezeofor V, Anthony B, Shahid SM, Bunce C, Kelly J. Randomised controlled trial of adjunctive triamcinolone acetonide in eyes undergoing vitreoretinal surgery following open globe trauma: The ASCOT study. British Journal of Ophthalmology. 2023 Chwe 27. doi:10.1136/ bjo-2022-322787.

Anthony BF, Disbeschl S, Goulden N, Hendry A, Hiscock J, Hoare Z, Roberts J, Rose J, Surgey A, Williams NH, Walker D. Earlier cancer diagnosis in primary care: a feasibility economic analysis of ThinkCancer! BJGP open. 2023 Maw 1;7(1). doi:10.3399/bjgpo.2022.0130.

Edwards RT, Ezeofor V, Bryning L, Anthony BF, Charles JM, Weeks A. Prevention of postpartum haemorrhage: Economic evaluation of the novel butterfly device in a UK setting. European Journal of Obstetrics & Gynecology and Reproductive Biology. 2023 Ebr 1;283:149-57. doi:10.1016/j.ejogrb.2023.02.020.

Al-Najjar N, Bray L, Carter B, Castle AP, Collingwood A, Cook G, Crudgington H, Currier J, Dietz KC, Hardy WAS, Hiscock H, Hughes D, Morris C, Roberts D, Rouncefield- Swales A, Saron H, Spowart C, Stibbs-Eaton L, Tudur Smith C, Watson V, Whittle L, Wiggs L, Wood E, Gringras P, Pal DK. Changing Agendas on Sleep, Treatment and Learning in Epilepsy (CASTLE) Sleep-E: a protocol for a randomised controlled trial comparing an online behavioural sleep intervention with standard care in children with Rolandic epilepsy. BMJ Open. 2023 Maw 10;13(3):e065769. doi:10.1136/bmjopen-2022-065769.

Jorgensen A, Orrell C, Waitt C, Toh C-H, Sekaggya C, Hughes D, Allen E, Okello E, Tatz G, Culeddu G, Asiimwe IG, Semakula JR, Mouton JP, Cohen K, Blockman M, Lamorde M, Pirmohamed M. A “bundle of care” to improve anticoagulation control in patients receiving warfarin in Uganda and South Africa: Protocol for an Implementation Study. Journal of Medical Internet Research. doi:10.2196/preprints.46710.

Subbe C, Hughes DA, Lewis S, Holmes EA, Kalkman C, So R, Tranka S, Welch J. Value of improving patient safety: health economic considerations for rapid response systems-a rapid review of the literature and expert round table. BMJ Open. 2023 Ebr 17;13(4):e065819. doi:10.1136/bmjopen-2022- 065819.

Wright DFB, Sinnappah KA, Hughes DA. Medication adherence research comes of age. Br J Clin Pharmacol. 2023 Ebr 10. doi:10.1111/bcp.15722.

Granger R, Kubis HP. Too much is too much: Influence of former stress levels on food craving and weight gain during the COVID- 19 period. Plos one. 2023 Ebr 27;18 (4):e0277856. doi:10.1371/journal.pone.0277856.

Spencer LH, Hendry A, Makanjuola A, Pisavadia K, Albustami M, Anthony B, Wilkinson C, Fitzsimmons D, Hughes D, Edwards RT, Lewis R. What is the effectiveness and cost-effectiveness of interventions in reducing the harms for children and young people who have been exposed to domestic violence or abuse: a rapid review. medRxiv. 2023 Mai. doi:10.1101/2023.05.10.23289781.

Noble AJ, Dixon P, Mathieson A, Ridsdale L, Morgan M, McKinlay A, Dickson J, Goodacre S, Jackson M, Morris B, Hughes D, Marson T, Holmes E. Developing feasible person- centred care alternatives to emergency department responses for adults withepilepsy: a discrete choice analysis mixed methods study. 2023 Health and Social Care Delivery Research. https://livrepository.liverpool.ac.uk/3170849

Cenhadaeth Ddinesig

Ffarmacoeconomeg

Traddododd Dyfrig Hughes gyflwyniad mewn digwyddiad cyhoeddus gan Barc Geneteg Cymru ynghylch p’un a bo profion genetig yn cynorthwyo i wneud meddyginiaethau'n fwy diogel. Rhoddodd grynodeb o’r datblygiadau diweddaraf o ran sicrhau bod profion ffarmacogenomeg ar gael yng Nghymru, trwy gyfrwng y Grŵp Ffarmacogenomeg Cenedlaethol y mae Dyfrig yn ei gadeirio.

Meddyginiaethau newydd yng ngogledd Cymru

Mae Eifiona Wood a Dyfrig Hughes yn aelodau o Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru (AWMSG) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Grŵp Asesu Effaith y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae’r grŵp yn asesu’r holl feddyginiaethau a werthusir o ran eu heffeithiau cyllidebol a sefydliadol i’r gwasanaeth, ac yn cynghori’r Grŵp Effeithiolrwydd Clinigol, Grŵp Sicrwydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a’r Grŵp Cyffuriau a Therapiwteg ar fynediad cleifion i driniaethau newydd.

Economeg iechyd gofal hosbis yng Ngogledd Cymru

Mae Llinos Haf Spencer, Kalpa Pisavadia a Jacob Davies wedi bod yn gweithio gyda Rhiannon Tudor Edwards ar ddadansoddiad o ariannu hosbisau yng Ngogledd Cymru a rhagamcanu gofynion gwelyau hosbisau ar draws Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Hosbis Dewi Sant.

Cysylltwch â ni

cheme.bangor.ac.uk

cheme@bangor.ac.uk

01248 382153

Twitter: @CHEMEBangor

Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Ardudwy, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2PZ

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?