Myfyriwr yn ysgrifennu mewn llyfryn efo ffôn symudol a gliniadur ar y ddesg

Cyngor ar gyfer y Diwrnod Canlyniadau a Chlirio

DEWIS BANGOR TRWY'R DREFN CLIRIO

Beth sydd angen ei wneud?

Os dewiswch Brifysgol Bangor trwy'r system Glirio, dyma beth fydd yn digwydd nesaf:

  • Ar ôl ichi ychwanegu Bangor fel eich dewis Clirio, bydd ein tîm derbyniadau yn cynnal gwiriadau. Felly peidiwch â phoeni os na fydd diweddariad yn ymddangos ar system UCAS ar unwaith - mae'n adeg brysur o'r flwyddyn felly mae'r broses yn cymryd ychydig o amser. Bydd eich lle Clirio gyda ni wedi ei neilltuo ar eich cyfer, a bydd ein tîm Derbyniadau yn cadarnhau eich dewis Clirio cyn gynted ag y bo modd. 
  • Unwaith y bydd eich lle ym Mangor wedi'i gadarnhau, bydd yn ymddangos fel derbyniad ar dudalen 'Eich dewisiadau' yn eich cais UCAS, a byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi.
  • Tua 24-48 awr yn dilyn hynny, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chyswllt i'n system archebu llety er mwyn ichi allu dewis ystafell mewn neuadd breswyl. Rydym yn gwarantu ystafell yn un o’r neuaddau preswyl i bawb sy'n derbyn lle drwy'r system Glirio ac sy'n gwneud cais am lety cyn y dyddiad cau.

Fideo - Cyngor Clirio

Os nad ydych yn siwr beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod Lefel A a rydych yn poeni am Clirio, mae ein harbenigwr yma i helpu efo cyngor. Os rydych chi yn y drefn Clirio, peidiwch â phoeni, mae gennych lawer o opsiynau. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?