Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein MA Cymraeg yn gwrs hirsefydlog a llwyddiannus sy'n cyfuno sylfaen ymarferol mewn hyfforddiant ôl-radd ac ymchwil a'r cyfle i ganolbwyntio ar faes astudio penodol a dewisol. Mae i'r cwrs MA ei nodweddion unigryw ei hun, ond mae hefyd yn fodd i osod sylfeini ar gyfer project PhD yn ei sgil o ran darparu hyfforddiant a chyd-destun thematig.
Mae’r cynllun MA a gynigiwn yn cael ei delwra i ddibenion a diddordebau’r myfyrwyr unigol ac yn cynnwys blwyddyn academaidd o astudio amser llawn. Yn ystod y flwyddyn honno, bydd y myfyriwr dan gyfarwyddyd gwahanol aelodau o blith staff yr Ysgol ac yn cyflwyno gwaith traethodol yn rheolaidd. Cyn diwedd y flwyddyn galendr, bydd gofyn i’r myfyriwr gyflwyno traethawd hir ac ynddo hyd at 20,000 o eiriau. Ymhlith y traethodau MA llwyddiannus a gyflwynwyd yn yr Ysgol yn ddiweddar mae rhai ar waith y llenorion Aled Islwyn, R. Gerallt Jones, Meic Povey, Bryan Martin Davies, Merched Kate Roberts, a golygiad o un o Anterliwtiau Twm o’r Nant.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rydych chi'n astudio ar gyfer MA yn Gymraeg yn ôl y dull traddodiadol o draethodau a thraethawd hir. Mae'r rhan gyntaf yn cynnwys tri thraethawd cwrs (3 x 4,000-6,000 o eiriau) a ddylai ddangos gafael gadarn ar nodweddion bras y maes astudio o'ch dewis; yr ail ran yw'r traethawd hir (20,000 gair) sy'n cynnwys ymchwil gwreiddiol a hwnnw wedi'i seilio'n rhannol ar ddeunydd cynradd. Yn ystod Semester 1 byddwch hefyd yn dilyn cwrs cynefino ar fethodoleg ymchwil maes y Gymraeg.
Cryfder mawr ein cwrs MA yw ei hyblygrwydd a'r ffaith ei fod yn caniatáu dewis rhydd o bynciau o fewn ffiniau eang y ddisgyblaeth. Os mai llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd yw eich diddordeb pennaf - y Gododdin, y Mabinogion, neu Ddafydd ap Gwilym, er enghraifft - caiff eich cwrs ei gynllunio a'i deilwra'n unol â hynny a bydd gennych oruchwylydd cwrs pwrpasol, a fydd yn arbenigwr yn eich dewis faes astudio. Ar y llaw arall, os ydych am astudio llenyddiaeth a diwylliant modern Cymru, neu agweddau sy'n ymwneud â'r iaith ei hun, gallwn ddarparu ar gyfer eich diddordebau academaidd. Mae croeso brwd i fyfyrwyr sy’n dymuno cychwyn ar gwrs MA Cymraeg strwythuredig a allai fod yn gymharol ei natur, gan gysylltu astudio Cymraeg â meysydd fel llenyddiaeth Saesneg, astudiaethau canoloesol, ieithoedd Ewropeaidd, adfywio iaith, astudiaethau Arthuraidd, hanes, crefydd, athroniaeth, astudiaethau rhywedd, theori wleidyddol a chenedlaetholdeb.
Modiwlau’r Cwrs:
- Astudio Unigol I
- Astudio Unigol II
- Astudio Unigol III
- Traethawd Hir
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol (e.e. Iaith/Llenyddiaeth Gymraeg, Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Hanes). Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg a myfyrwyr sy'n ceisio caffael - mewn cyd-destun academaidd cadarn - dealltwriaeth well o'r iaith, ei llenyddiaeth a diwylliant Cymru'n gyffredinol.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus nad yw Cymraeg yn iaith gyntaf iddynt gyfle i ddilyn gwersi Cymraeg.
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau unigol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yn achos myfyrwyr nad Cymraeg/Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Mae Cymru'n wlad ddwyieithog lle caiff y Gymraeg a'r Saesneg eu cydnabod yn gyfreithiol yn ieithoedd swyddogol. Mewn meysydd mor amrywiol ag addysg, cynllunio ieithyddol, y cyfryngau a newyddiaduraeth, y gwasanaeth sifil, y diwydiant treftadaeth, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata mae galw mawr am raddedigion sydd â gallu yn y Gymraeg a'r gallu i weithio mewn amgylchedd dwyieithog.
Byddwch yn ennill amryw o sgiliau trosglwyddadwy, a fydd yn eich galluogi i ddilyn amrywiaeth o lwybrau gyrfaol, gan gynnwys pob un o'r rhai sydd fel arfer yn gysylltiedig â graddedigion y Dyniaethau. Os ydych chi am ganlyn diddordebau academaidd cewch sylfaen gadarn ar gyfer mynd rhagoch i wneud PhD.