Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r rhaglen ddoethurol hon yn gynllun ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Mae gan seicolegwyr clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gysylltiadau gwaith agos â'r rhaglen a'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Ar hyn o bryd mae tua 120 o seicolegwyr clinigol cymwysedig yn gweithio yng ngogledd Cymru, ym meysydd iechyd meddwl oedolion, oedolion hŷn, anableddau dysgu, seicoleg glinigol plant a’r glasoed, seicoleg glinigol fforensig, niwroseicoleg a seicoleg iechyd glinigol. Mae bron pob un o'r clinigwyr yn ymwneud â’r rhaglen trwy addysgu, goruchwylio (clinigol/ymchwil), asesu gwaith academaidd ac eistedd ar bwyllgorau.
Mae Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru yn rhan annatod o adran seicoleg academaidd brif ffrwd sydd â sgôr uchel am ymchwil ac addysgu ac mae'n ganolfan ragoriaeth i hyfforddiant mewn ymarfer clinigol. Mae'r ysgol yn arbennig o gryf ym meysydd seicoleg glinigol ac iechyd, niwroseicoleg wybyddol, dadansoddi ymddygiad cymwysedig a seicoleg dysgu a datblygol. Mae'r Ysgol Seicoleg yn rhan o'r Coleg Gwyddorau Dynol sydd hefyd yn cynnwys yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, yr Ysgol Gwyddorau Meddygol a'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae hyn yn dod ag arbenigedd a diddordeb mewn ymchwil iechyd ynghyd gan alluogi rhannu strategaethau ymchwil ar y cyd a gweithgareddau hyfforddi cysylltiedig ag iechyd yng nghyd-destun dysgu proffesiynol.
Bydd Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru yn hyfforddi ymgeiswyr mewn sgiliau clinigol ac academaidd ac ymchwil. Byddwch yn cael eich hyfforddi i ddefnyddio sgiliau therapiwtig penodol sy'n cynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Mewn cydweithrediad agos â'r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor, sef prif sefydliad y DU ar gyfer cyflwyno rhaglenni hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar, byddwch yn dysgu am therapïau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Dysgir therapi ymddygiad dilechdidol gan Michaela Swales, a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei harbenigedd yn y maes ac sy’n arwain y tîm hyfforddi therapi ymddygiad dilechdidol cenedlaethol. Cewch hefyd hyfforddiant mewn therapi derbyn ac ymrwymiad, sy'n cael ei ymarfer mewn amrywiaeth eang o leoliadau gan seicolegwyr clinigol yng ngogledd Cymru.
Mae ein Cyfarwyddwr Academaidd, Dr Elizabeth Burnside, yn un o nifer fach o hyfforddwyr derbyn ac ymrwymiad a adolygir gan gymheiriaid yn y DU.
Yn ystod ein hymweliad achredu diwethaf ym mis Ionawr 2019, achredwyd y rhaglen eto gan y BPS a'i hail-ddilysu gan Brifysgol Bangor. Cawsom ein canmol am ymwneud a brwdfrydedd y seicolegwyr clinigol lleol sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, y cyfraniad seicolegol a seicotherapiwtig at y gymuned ranbarthol a darparu gwasanaethau, integreiddiad ac ymrwymiad ein grŵp cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, y gwaith allymestyn arloesol i ysgolion uwchradd, ein hymrwymiad at ddiwallu anghenion y boblogaeth leol a'r systemau cymorth aml-haenog sydd ar gael i'r hyfforddeion.
Gofynion Mynediad
Cyn gwneud cais, dylech eisoes feddu ar radd anrhydedd sengl neu gyd-anrhydedd ddosbarth I neu II(i) mewn Seicoleg (neu radd drosi) a ddylai eich gwneud yn gymwys i gofrestru am aelodaeth siartredig i raddedigion gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain. Oherwydd lefel y gystadleuaeth, ni fyddwn yn eich rhoi ar y rhestr fer am gyfweliad os nad ydych wedi cwblhau eich gradd gyntaf eto. Bydd gan ymgeiswyr o leiaf blwyddyn o brofiad clinigol neu ymchwil perthnasol â thâl. Bydd gennych hefyd ddau dystlythyr cefnogol a bydd eich ffurflen gais wedi ei llenwi i safon uchel. Rydym yn awyddus i groesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac rydym hefyd yn gyflogwr hyderus o ran anabledd.
Gwneud Cais
Edrychwch ar wefan Clearing House: www.leeds.ac.uk/chpccp i gael mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio.