Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs hwn yn darparu fframwaith lle gall addysgwyr clinigol adolygu'n feirniadol a datblygu safbwyntiau damcaniaethol a sgiliau ymarferol wrth hwyluso profiad eu myfyrwyr/hyfforddeion. Bydd y cwrs yn cynnwys dysgu gweithredol ac adfyfyriol ac yn sicrhau integreiddio theori gyfoes ac ymarfer. Bydd y rhaglen hon yn rhoi mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o addysg feddygol i addysgwyr clinigol gan gynnwys:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faterion penodol sydd ar flaen y gad o ran theori ac ymarfer mewn addysg feddygol.
- Dealltwriaeth feirniadol o ofyniad asesiadau perfformiad clinigol ac arfarniad ar gyfer ffitrwydd i ymarfer.
- Dealltwriaeth feirniadol o'r prosesau gosod safonau.
- Dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion sylfaenol addysgeg oedolion dda.
- Gallu gwerthuso nodau asesu ac effaith asesu ar ddysgu myfyrwyr.
- Gallu gwerthuso perthnasedd, dilysrwydd a dibynadwyedd methodolegau asesu.
- Gallu adolygu'n feirniadol ac adfyfyrio ar ddysgu oedolion cyfoes a llenyddiaeth addysg feddygol mewn perthynas â defnyddio technoleg efelychu addysgu a'i defnyddio i'ch profiad efelychu ymarfer eich hun.
- Adolygu materion moesegol sy'n ymwneud â hwyluso addysgu a dysgu mewn cyd-destun clinigol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Ymarfer Addysg Feddygol .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, dylai ymgeiswyr ar y cwrs hwn fod yn weithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth a gyrfaoedd iechyd cysylltiedig gyda rhywfaint o brofiad o oruchwylio a/neu addysgu yn eu gwaith bob dydd, neu fynediad at hynny. Bydd gradd, cymhwyster lefel gradd, neu gymhwyster proffesiynol wedi'i ategu gan brofiad perthnasol fel rheol yn rhan o broffil yr ymgeisydd.
Gyrfaoedd
Bydd y cwrs hwn yn gwella cyflogadwyedd ac yn gwella datblygiad gyrfa.