Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs hwn yn ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr a chwmnïau proffesiynol.
Mae’r cwrs hwn yn cydweithio’n agos â Chanolfan Bedwyr, canolfan sydd wedi’i henwi ar ôl cyn-bennaeth Adran Gymraeg Bangor, y diweddar Bedwyr Lewis Jones. Byddwch yn elwa o’r arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol y mae Canolfan Bedwyr wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i chi ddilyn gradd gyda’r holl elfennau sy’n ddisgwyliedig o fewn gradd draddodiadol yn y Gymraeg, ond gyda llwybr ymarferol clir a fydd yn arwain i gyfeiriadau gyrfaol amrywiol.
Noder: Ystyrir ceisiadau gan rai sydd wedi dilyn Lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pynciau eraill yn unigol.
Ymhlith y cyrff cyhoeddus sydd wedi datgan eu cefnogaeth i’r radd newydd hon mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Menter Iaith Môn, a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’r gefnogaeth hon yn ychwanegu at hygrededd proffesiynol y rhaglen hon.
Blwyddyn Lleoliad
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ 4-blynedd. Gwnewch gais am Cymraeg Proffesiynol gyda Blwyddyn Lleoliad BA Q5PP. Cewch wybod mwy am gyrsiau ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yma.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd.
Bydd y Flwyddyn Lleoliad yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn a bydd myfyrwyr i ffwrdd am y flwyddyn academaidd gyfan. Lleiafswm y cyfnod lleoliad (mewn un neu fwy lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol byddwch yn treulio 10-12 mis ar leoliad. Byddwch fel rheol yn cychwyn rhywbryd rhwng Mehefin a Medi yn ystod eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhywbryd rhwng Mehefin a Medi y flwyddyn ganlynol. Gall lleoliadau fod yn y DU neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff ar y trefniadau.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae hon yn radd sy’n cynnig cyfuniad amrywiol o fodiwlau newydd a modiwlau traddodiadol a fydd yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd.
- Cewch eich dysgu mewn dosbarthiadau bychain, a fydd yn eich galluogi i ddod i adnabod y staff a’ch cyd-fyfyrwyr yn dda.
- Mae gan yr Ysgol draddodiad llwyddiannus o safbwynt safon ei dysgu a boddhad myfyrwyr.
- Cewch gyfle i fynd ar brofiad gwaith fel rhan o’ch cwrs.
- Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, ac yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau.
- Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ein safonau yn golygu bod llawer o alw gan gyflogwyr am ein myfyrwyr ni.
- Mae Bangor yn eich galluogi i fyw bywyd myfyriwr i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar a naturiol.
Cynnwys y Cwrs
Cewch eich dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial a gweithdai bob wythnos. Ar ben hynny byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau.
Mae'r asesiad yn gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a chewch gyfle i fynd ar leoliad gwaith. Byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau craidd, gorfodol a dewisol. Gallwch ddilyn rhai cyrsiau dewisol o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg neu ysgolion eraill. Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau yn ôl yr hyn sy’n briodol i ofynion modiwlau unigol. Y nod yw rhoi’r cyfle i chi astudio’r iaith Gymraeg mewn modd ymarferol a fydd yn cryfhau eich sgiliau ysgrifenedig a llafar yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi astudio agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg hyd at y presennol. Bydd pwyslais arbennig ar ddatblygu ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth o’r Gymraeg yn y gweithle.
Yn y Flwyddyn Gyntaf bydd cyfle i chi fynd ar leoliad gwaith a byddwch yn cael nifer o ddarlithoedd gwadd gan gynrychiolwyr o wahanol broffesiynau. Byddwch yn dilyn pedwar modiwl craidd sef Defnyddio’r Gymraeg sy’n canolbwyntio ar agweddau gramadegol yr iaith, O’r Senedd i’r Swyddfa sy’n cyflwyno’r iaith yn y gweithle, Llên Gyfoes sy’n ymdrin â detholiad o lenyddiaeth ddiweddar a Llên y Cyfnod Modern Cynnar sy’n canolbwyntio ar ddetholiad o lenyddiaeth y 18 ganrif a’r 19 ganrif. Yn ogystal â hyn, byddwch yn dilyn y modiwl gorfodol, Cyflwyniad i Bolisi a Chynllunio Ieithyddol a ddysgir gan Dr Rhian Hodges o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. Bydd gennych hefyd ryddid i ddewis hyd at 40 credyd arall o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg neu ysgolion eraill.
Yn yr Ail Flwyddyn byddwch yn dilyn dau fodiwl craidd. Bydd y modiwl craidd Iaith Gwaith yn adeiladu ymhellach ar O’r Senedd i’r Swyddfa ac yn cyflwyno elfen hwy o brofiad gwaith. Bydd yr ail fodiwl craidd, Ymarfer Ysgrifennu yn cymhwyso’r hyn a ddysgwyd yn Defnyddio’r Gymraeg at gyd-destunau penodol, e.e. crynodeb, bwletin newyddion, adolygiad, cyfieithiad byr, ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o wahanol gyweiriau’r iaith. Cewch gyfle i ddewis unrhyw 40-60 credyd arall o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg neu ysgolion eraill. Yn achos llawer o’n modiwlau, fe’u dysgir bob yn ail flwyddyn i’r Ail a’r Drydedd Flwyddyn ar y cyd, felly bydd myfyrwyr yn dilyn y modiwl gorfodol Datblygiad yr Iaith sy’n mapio hanes y Gymraeg o’i chyfnodau cynharaf hyd at y presennol pan fydd ar gael iddynt.
Yn y Drydedd Flwyddyn byddwch yn dilyn dau fodiwl craidd. Bydd y modiwl craidd Medrau Cyfieithu yn adeiladu ar y sgiliau ieithyddol a ddatblygwyd yn Defnyddio’r Gymraeg ac Ymarfer Ysgrifennu. Bydd pwyslais y modiwl craidd Portffolio Proffesiynol ar fedrau ymchwilio annibynnol: bydd cyfle i gysylltu’r project gyda’r hyn a wnaed yn ystod profiad gwaith, i ganolbwyntio ar astudiaeth achos unigol, neu gyflwyno portffolio o ddeunyddiau perthnasol. Unwaith eto, cewch ddewis unrhyw 60 credyd arall o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg (heblaw am fodiwl Y Traethawd Estynedig).
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cymraeg Proffesiynol .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Costau dewisol:
Gall myfyrwyr ddewis prynu llyfrau os ydynt am gael eu copïau eu hunain, ond nid yw hyn yn orfodol (bydd yr holl lyfrau ar gael yn y llyfrgell). Bydd union faint y gost hon yn dibynnu’n llwyr ar y myfyriwr unigol, ond gellid amcangyfrif y bydd nifer o fyfyrwyr yn dewis gwario rhyw £20 y modiwl.
Os bydd myfyrwyr yn mynychu’r seremoni raddio, telir c.£12 am docyn i’r myfyriwr a dau westai, a rhyw c.£40 i logi gŵn (gall y prisiau hyn newid).
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Cartref/UE (gan ddechrau yn 2019–20 a 2020–21)
- Llawn-amser: £9,000 y flwyddyn
- Rhan-amser: £750 am bob 10 credyd
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Rhyngwladol
Wrth ddod i'r Brifysgol, bydd gennych ddwy brif gost, Ffioedd Dysgu a Chostau Byw.
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau gwestai (£12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefelau A (gan gynnwys gradd C mewn Cymraeg (Iaith 1af) neu B (2il Iaith)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn Cymraeg)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DMM**
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos**
- Diploma Estynedig Lefel 3 CACHE**
- Cwrs mynediad gydag elfen Gymraeg
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- **Gellir eu hystyried ar y cyd â chymhwyster arall mewn Cymraeg, e.e. Lefel A a'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch Ymgeiswyr Rhyngwladol: Derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol), ceir manylion yma
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn
*I gael manylion llawn ewch i'n gwefan ac i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Mae gradd mewn Cymraeg Proffesiynol yn gallu arwain at ystod eang o yrfaoedd. Y mae galw mawr am raddedigion yr Ysgol hon ac mae’r sgiliau a ddysgwch wrth ddilyn modiwlau mwy ymarferol yn baratoad gwych ar gyfer gyrfa a swydd. Mae nifer o raddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amryw o feysydd megis addysgu, cyfieithu, newyddiadura, y cyfryngau, golygu a’r byd cyhoeddi, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, swyddogion y wasg, cynllunio ieithyddol, gweinyddiaeth a’r gwasanaeth sifil.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol
Gwneud Cais
Cais Prifysgol Cyffredinol
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs. Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’.
Pryd i wneud cais?
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 15 Ionawr, ond rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 15 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon at brifysgolion gan UCAS i gael eu hystyried lle bod lleoedd dal ar gael.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.
Ansicr am eich camau nesaf?
Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.