Myfyrwyr tu allan i'r Brif Adeilad

Barod am Brifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i Brifysgol Bangor!

Beth bynnag yr ydych yn edrych ymlaen tuag ato neu beth bynnag eich pryderon, rydym yma i helpu. Bydd y cwrs cynefino ar-lein hwn yn gymorth i chi ddod i arfer â bywyd y Brifysgol ym Mangor. Paratowch i ddarganfod yr eithriadol.

Byddwch yn barod am Brifysgol Bangor mewn 10 cam

Mae Bangor i Bawb!

Dewch yn rhan o gymuned myfyrwyr Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Cysylltwch â'ch cyfoedion ar Facebook a thrwy gofrestru ar gyfer ein ap CampusConnect. Gofynnwch gwestiynau am Fangor i'n myfyrwyr a gwnewch gysylltiadau â'r rhai y byddwch yn astudio ac yn byw yn eu cwmni.

Mae ein myfyrwyr sy’n flogio yn dweud popeth wrthych am astudio ym Mangor, ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor am fywyd myfyriwr.

Daw ein myfyrwyr o bob rhan o'r byd.

Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884 gyda rhoddion gan chwarelwyr lleol a ffermwyr a oedd eisiau sefydlu prifysgol yng ngogledd Cymru. Enw’r brifysgol yn wreiddiol oedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, ac agorodd ei drysau mewn hen westy coetshys o’r enw'r Penrhyn Arms gyda 58 myfyriwr a 10 aelod staff.  Prifysgol Llundain oedd yn dyfarnu graddau Bangor tan 1893 pan ddaeth Bangor yn un o dri choleg gwreiddiol Prifysgol Cymru. Mae portico gwreiddiol y Penrhyn Arms i'w weld o hyd ar y chwith wrth i chi yrru i mewn i Fangor o'r A55.​

Adeiladwyd Prif Adeilad y Celfyddydau, adeilad trawiadol ar y bryn sy'n edrych dros Fangor, yn rhannol gyda chyfraniadau ariannol gan bobl leol ar dir a roddwyd i'r brifysgol. Agorwyd Prif Adeilad y Celfyddydau ym 1911 ond arhosodd yr adrannau gwyddoniaeth yn y Penrhyn Arms tan 1926. Ers hynny, mae'r brifysgol wedi codi a defnyddio llawer o adeiladau o amgylch Bangor ac mae amrywiaeth pensaernïaeth ein hadeiladau yn cynrychioli ein hanes hir.​

Inner quad at Bangor University

 

Pontio building

Mae myfyrwyr sy'n astudio yn un o’n campysau cartref yn gwneud hynny naill ai ym Mangor neu yn Wrecsam.

Campws Bangor

Mae Bangor yn ddinas, oherwydd ei chadeirlan, ond mae'n ddinas fach iawn. Mae Bangor mewn dyffryn rhwng y Fenai a Mynydd Bangor ac mae dau fryn serth o'i hamgylch. Mae'n debyg y bydd rhaid i chi fynd i fyny'r naill neu'r llall o'r bryniau hyn bob dydd bron, naill ai i fynd i ddarlithoedd, i’r archfarchnad neu yn ôl i'ch neuadd, yn aml heb allu dewis dal bws! Er nad yw'n brifysgol sydd wedi ei lleoli ar gampws, mae lledaeniad daearyddol y brifysgol yn fach iawn a gallwn gyfeirio at ei 'champws'. Mae bron pob un o adeiladau'r brifysgol (darlithfeydd, labordai ymchwil a neuaddau) yn y ddinas ac eithrio Gwyddorau Chwaraeon ac Addysg (sydd ar safle’r Normal ar y tir mawr ger Pont y Borth) a Gwyddorau’r Eigion (sydd ar Ynys Môn, ym Mhorthaethwy, yr ochr draw i Bont y Borth).

Mae adeiladau'r brifysgol yn gymysgedd o rai traddodiadol a modern. Yr adeilad mwyaf diweddar yw adeilad Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi sy'n cysylltu'r brifysgol â'r ddinas, sy'n cynnwys sinema, theatr, stiwdios dylunio creadigol, caffis a bwytai, yn ogystal â darlithfeydd ac ystafelloedd dysgu a ddefnyddir gan ysgolion ledled y brifysgol. Fel rheol bydd gan eich ysgol un prif adeilad lle mae gan fwyafrif yr academyddion swyddfeydd a mannau ymchwil, ond efallai y bydd rhaid i chi ymweld ag adeiladau ychwanegol i fynd i ddarlithoedd, seminarau, astudiaethau ymchwil, yr archifau ac ati.

GWIRIWCH EIN MAP RHYNGWEITHIOL

Campws Wrecsam

Mae Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru, 70 milltir o Fangor, ac felly mae o fewn cyrraedd i arfordir gogledd Cymru a golygfeydd godidog Bryniau Clwyd a mynyddoedd Eryri. Dim ond 13 milltir sydd rhwng Wrecsam a dinas Caer, gyda dinasoedd mawr Lerpwl a Manceinion o fewn cyrraedd rhwydd mewn car neu ar drên. Mae hyn yn ei roi o fewn pellter teithio hawdd i rannau helaeth o ogledd orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr yn ogystal â gogledd ddwyrain Cymru. O fewn ugain munud o deithio gallwch golli eich hun ym mryniau Cymru, cael eich swyno gan yr olion Rhufeinig yng Nghaer neu weld y gorffennol hanesyddol cyfoethog ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dim ond pynciau gwyddorau iechyd sydd ar gael ar gampws Wrecsam ac mae ein staff academaidd naill ai wedi eu lleoli ar gampws Wrecsam, neu'n teithio rhwng Wrecsam a Bangor yn ôl yr angen. Mae gan Ysbyty Wrecsam Maelor ac Ysbyty Spire, lle mae myfyrwyr yn mynd ar leoliad, gysylltiadau agos iawn â'r ysgol ac nid ydynt ond dau funud o waith cerdded oddi wrth adeilad Archimedes ac adeilad Cambrian. Bydd gennych fynediad at diwtor personol Prifysgol Bangor, cefnogaeth oruchwylio ar gyfer eich gwaith academaidd a chefnogaeth gan ein timau dysgu ymarfer. Rydym yn cynnal cyfarfodydd traws-safle rheolaidd gyda'n cynrychiolwyr myfyrwyr ac yn annog pob myfyriwr i fod yn rhan o'r ysgol draws-gampws. Rydym eisiau sicrhau eich bod yn teimlo'n rhan o'r gymuned ehangach o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor tra byddwch yn astudio ar ein campws yn Wrecsam. Mae astudio yma fel bod yn rhan o deulu, ac mae llawer o'r myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau bydwreigiaeth, nyrsio oedolion ac iechyd meddwl yn byw yn ardal Wrecsam. Dim ond ar gampws Wrecsam y darperir y cyrsiau radiograffeg plant a diagnostig, ac mae rhai myfyrwyr yn byw yn Neuadd yr Wyddfa sef y llety prifysgol a rennir â Phrifysgol Glyndŵr.

Mae Wrecsam yn gampws llai sydd â chymhareb myfyriwr i staff rhagorol, felly mae ein myfyrwyr yn cael cyfle i gysylltu â'n holl staff academaidd profiadol, sydd ag amrywiaeth eang o gefndiroedd clinigol. Mae gan y campws lyfrgell bwrpasol hefyd gyda staff pwnc-benodol, a labordy sgiliau ag offer da ar gyfer pob maes nyrsio ar gampws Wrecsam, lle gall myfyrwyr ymarfer eu sgiliau clinigol mewn amgylchedd diogel gyda chefnogaeth staff academaidd.

Mae prifysgol Bangor yng Ngwynedd, un o'r siroedd yng Nghymru sydd â'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg. Ym Mangor, gall myfyrwyr astudio llu o wahanol fodiwlau a phynciau gradd trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis cyflwyno eu haseiniadau yn Gymraeg, hyd yn oed os ydynt yn astudio trwy gyfrwng y Saesneg. Tra byddwch yma, byddwch yn gweld hysbysiadau ac arwyddion ffyrdd dwyieithog a byddwch yn clywed pobl yn siarad Cymraeg. Mae clywed a gweld yr iaith yn ffordd wych o ddatblygu eich Cymraeg. Beth am achub ar y cyfle i ddysgu mwy o Gymraeg trwy ein cwrs hunan-astudio ar-lein? Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gwneud y cwrs wrth eich pwysau, yn unrhyw le, gan ddefnyddio eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur, gyda chysylltiad rhyngrwyd. Os hoffech gofrestru ar y cwrs, anfonwch e-bost

 

Neu efallai yr hoffech ddysgu iaith wahanol trwy ein rhaglen 'Ieithoedd i Bawb', sy’n rhad ac am ddim.  Mae Bangor, fel prifysgol ddwyieithog, yma i'ch paratoi at y byd amlieithog.

 

Mae'r Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â bywyd myfyrwyr. Yn amrywio o reoli eich arian, i gefnogi anableddau, i gael hyd i swydd i raddedigion, mae ein gwasanaethau yno i'ch helpu i wneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol.​

Mae ein gwasanaethau ar gael ar-lein fel y gallwch gael gafael ar wybodaeth a chyngor ble bynnag yr ydych chi.

Mae gan bob myfyriwr diwtor personol sydd yno i'ch helpu i gyflawni eich potensial academaidd. Gallwch hefyd siarad â'ch tiwtor am faterion personol penodol a bydd eich tiwtor yn gwneud ei orau i’ch cynorthwyo. Os bydd angen, efallai y cewch eich cyfeirio at aelod staff arall, neu at wasanaethau eraill, am gefnogaeth neu arweiniad.  Bydd eich tiwtor personol hefyd yn rhoi adborth i chi ar eich cynnydd academaidd a byddwch yn cyfarfod â'ch tiwtor o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Os ydych yn fyfyriwr sy'n siarad Cymraeg, gallwch ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg.

Bydd astudio yn y brifysgol yn dra gwahanol i’r ysgol neu’r coleg, neu i’r gwaith. Dyma rai o’n myfyrywr i roi syniad i chi o sut beth yw astudio ym Mangor a beth i’w ddisgwyl.

 

Mae gwahanol brifysgolion yn defnyddio gwahanol lwyfannau ar-lein i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer eich dysgu. Yn ystod eich wythnos gyntaf, byddwn yn dangos i chi sut i fewngofnodi, defnyddio ein systemau TG, a defnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir (VLE), a sut i gyfathrebu â staff a myfyrwyr eraill. Dyma Charlie, un o'n hisraddedigion, yn rhoi syniad i chi am beth yn union yw  Blackboard

a sut a phryd rydym yn defnyddio Microsoft Teams.​

Ond er mwyn cyrchu unrhyw beth, bydd rhaid i chi gofrestru ar-lein cyn cyrraedd Bangor - anfonir e-bost atoch gyda’r manylion o ganol mis Awst ymlaen. Peidiwch â phoeni am y llun sy’n rhaid i chi ei ddarparu, gallwn droi lluniau o gwmpas os ydynt wyneb i waered! Cofiwch sicrhau eich bod yn cwblhau eich prawf adnabod ar-lein  hefyd. Pan fydd dwy ran y broses gofrestru wedi eu cwblhau, bydd eich cerdyn adnabod myfyriwr ar gael i chi​.

Ble bydd eich gradd yn mynd â chi?

Mae ein Gwasanaeth Cyflogadwyedd yma i’ch cefnogi o ddechrau eich amser yma ym Mhrifysgol Bangor, a thrwy gydol eich taith myfyriwr.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol

Fideo Undeb Myfyrwyr Bangor

Trawsgrifiad Fideo Undeb Myfyrwyr Bangor

[00:06] We're Undeb Bangor your Students’ Union, we have over 150 different clubs, societies, and volunteering projects that you can get involved in absolutely free.

[00:14] You name it, we have it regardless of your ability you can join to play for fun or competitively.

[00:20] With around 100 societies ranging from academic societies, hobbies and interest, and cultural societies. You will definitely find a society that you'll love here.

[00:27] And anybody can start a society. All you need is a great idea and ten friends who share your passion.

[00:33] We have around 300 Course Reps across 9 academic schools. Course Reps are the students representing students fighting for positive change. We make sure that your voices are heard!

[00:43] UMCB is Bangor’s Welsh Students’ Union, we are here to represent you academically in any aspect of your Welsh medium provision. We’re also here to represent you socially, including our Welsh medium sub-societies and volunteering projects.

[01:01] We also have over 30 student-led volunteering projects ranging from working with children to wildlife conservation, as well as working with the elderly and much more.

[01:08] We have a Student Council that meets throughout the year to discuss, debate, and pass new ideas. They also help us with campaigns and projects throughout the year.

[1:16] Undeb Bangor provides professional and academic advice services to all University students.

[1:22] We can guide you through various procedures and also help you with disciplinary actions. Although we hope you won’t need our services!

[01:28] At the SU we also support with campaigns such as Black History Month, Women’s History Month and LGBTQ+ History Month. As well as, Sustainability, Housing, and many other campaigns.

[1:40] You can get involved with our opportunities and projects by coming along to Serendipity our Freshers Fair, where all our opportunities will be there, showcasing what they have to offer.

Mae ‘Barod am Brifysgol Bangor’ yma i roi blas i chi o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl pan ddewch i’r Brifysgol.

Mae’n cynnwys llawer iawn o wybodaeth, felly gwnaethom ofyn i Undeb Myfyrwyr Bangor am eu cynghorion gorau!​

1. Os oes gennych hobi, dewch â'ch offer gyda chi - mae'n debyg bod clwb iddo yma. Dewch o hyd i glwb chwaraeon yma

2. Dewch ag esgidiau cerdded a chôt law i fanteisio ar olygfeydd gwych gogledd Cymru​

3. Prynwch lyfr ryseitiau a dechreuwch goginio - cynigiwch goginio gyda'r bobl sy’n rhannu’r fflat gyda chi a chael pryd o fwyd fel grŵp.​

4. Dewch i adnabod Bangor gyda ffrindiau o’ch cwrs a ffrindiau sy’n rhannu fflat gyda chi - cofiwch fynd i’r Pier, y Cylch Cerrig a'r Gwersyll Rhufeinig ac yna rhowch lun ar eich cyfryngau cymdeithasol neu ei anfon at eich ffrindiau - byddant yn genfigennus o’ch tref prifysgol! ​

5. Edrychwch ar bopeth sydd gan Undeb y Myfyrwyr i’w gynnig a chofrestru gyda rhai o'r clybiau a chymdeithasau am ddim a’r projectau gwirfoddoli. Gallwch newid eich meddwl ac ymuno â grwpiau gwahanol neu fwy ohonynt yn ddiweddarach.​

6.  Cofiwch sicrhau eich bod yn ymrestru ac yn cofrestru ar eich cwrs.​

7. Edrychwch ar eich cyfrif e-bost prifysgol yn rheolaidd - dyma sut y bydd y brifysgol yn cysylltu â chi.​

8. Cofiwch sicrhau eich bod yn cyfarfod â'ch tiwtor personol hyd yn oed os yw popeth yn mynd yn wych.​

9. Dewch i adnabod pobl newydd, mae myfyrwyr o bob cwr o'r byd ym Mangor gyda chymaint o wahanol ddiddordebau a safbwyntiau sydd hefyd yn awyddus i wneud ffrindiau.​

10. Yn olaf - byddwch yn agored i roi cynnig ar bethau newydd ar ôl i chi gyrraedd yma, waeth pa mor arbenigol!​

Llongyfarchiadau! Yr ydych bellach yn barod ar gyfer Prifysgol Bangor

via GIPHY

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?