Students walking outside Main Arts

Wythnos Groeso - Myfyrwyr Ôl-radd

Bydd y wefan groeso hon yn eich helpu i ymgartrefu fel myfyriwr ôl-radd ym Mangor. Bydd yn eich cyfeirio at yr holl wybodaeth hanfodol y bydd ei hangen arnoch wrth i chi ymgartrefu yn eich bywyd fel myfyriwr ôl-radd.

Prif Adeilad y Celfyddydau a Pontio, Prifysgol Bangor

Croeso gan y Brifysgol

Yn rhan o'ch croesawu i Brifysgol Bangor, cewch eich gwahodd i Groeso Ffurfiol ar ddydd Llun Medi 18.

Swyddogion Sabothol Undeb Bangor 2023

Croeso gan Undeb Bangor

Undeb Bangor yw enw undeb y myfyrwyr - enw uniaith Gymraeg gan ein bod yn falch iawn o'n gwreiddiau Cymreig.

Y pwyslais ar gyfer yr Wythnos Groeso yw eich helpu i gael eich traed danoch: gan roi digon o gyfle i chi gwrdd â phobl a chymryd rhan gydag Undeb Bangor.

Myfyrwyr yn cymdeithasu tu allan i Pontio

Eich Amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso

Yma cewch wybodaeth am eich Ysgol Academaidd a'ch amserlen o ddigwyddiadau ar gyfer yr Wythnos Groeso.

Myfyriwr yn ysgrifennu mewn llyfryn efo ffôn symudol a gliniadur ar y ddesg

Cofrestru a Dewis eich Modiwlau

Rhaid i chi gofrestru gyda'r Brifysgol ar-lein cyn i chi gyrraedd, a chael eich manylion wedi eu gwirio pan fyddwch yn cyrraedd.

Yma fe welwch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gofrestru a hefyd am ddewis eich modiwlau.

 Cyfrifydd yn gweithio ar rai taflenni cyllid

Ffioedd a Chyllid

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud yr holl drefniadau ariannol angenrheidiol ar gyfer ffioedd dysgu a’r holl gostau byw, gan gynnwys eich rhent.

Myfyrwyr yn cymdeithasu mewn ystafell neuadd preswyl

Neuaddau Preswyl

Aros yn Neuaddau'r Brifysgol? Mae'r dudalen hon yn ateb eich holl gwestiynau, gan gynnwys gwybodaeth am fywyd y campws a chael trwydded parcio i fyfyrwyr.

Sudents in quad

Llety Preifat a Byw yn Lleol

Yn byw mewn llety preifat neu'n byw'n lleol ac yn teithio i'r Brifysgol ar gyfer eich astudiaethau?

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am geisio a chael cymorth sy'n ymwneud â llety preifat a sut i gael trwydded parcio i fyfyrwyr.

Arweinwyr Cyfoed yn cerdded drwy bentref Ffriddoedd yn ystod Wythnos Groeso

Arweinwyr Cyfoed

Myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli ac sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd i ymgynefino â bywyd prifysgol yw Arweinwyr Cyfoed. Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, dangos y dref a'r brifysgol i chi, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am fywyd fel myfyriwr. 

Myfyriwr ar liniadur yn gwisgo clustffonau

Sut rydym yn Cyfathrebu â chi

Ym Mangor mae gennym wefan fewnrwyd, FyMangor, a hefyd cylchlythyr wythnosol, y Bwletin Myfyrwyr, a ddefnyddiwn i rannu gwybodaeth a chyfleoedd pwysig gyda chi.

Myfyrwyr yng Nghaffi Cegin, Pontio

Cyfleusterau Campws

Dysgwch fwy am ble i fwyta ac yfed ar y campws a chyfleusterau adloniant a chwaraeon.

Myfyrwyr yn sgwrsio a chwerthin.

Cymorth, Lles ac Iechyd

Mae gan Fangor ystod eang o gefnogaeth ar gael pe bai angen ychydig o help neu gyngor arnoch chi - naill ai'n academaidd neu'n ymwneud â'ch lles.

Myfyrwyr yn Llyfrgell Gymraeg

Cymuned Ddwyieithog ym Mangor

Mae dwyieithrwydd yn rhan naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae gan tua 70% o’n staff sgiliau yn y Gymraeg felly mae modd i chi dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob agwedd o’ch bywyd fel myfyriwr yma, gan gynnwys adran Gwasanaethau Myfyrwyr.

Students socialising in social space

Cymuned Gynhwysol Bangor

Gyda myfyrwyr yn dod o bob rhan o'r byd ac o gefndiroedd gwahanol iawn, bwriad Prifysgol Bangor yw creu amgylchedd i chi fyw ac astudio ynddo sy'n sicrhau y gellwch fod yn chi eich hun, cymryd mantais o bob cyfle a chyrraedd eich llawn botensial.

Llun o ddwylo yn gafael mewn planhigyn bychan

Cynaliadwyedd ym Mangor

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn bwriadu gwneud ein Prifysgol yn gyfystyr â chynaliadwyedd.

Myfyrwyr yn astudio yn y llyfrgell

Siarter Myfyrwyr

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn falch o’r bartneriaeth agos sydd gennym gyda’r myfyrwyr a’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu profiad unigryw myfyrwyr Bangor. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein Siarter Myfyrwyr.

Myfyrwyr yn y Cwad Mewnol yn ystod diwrnod graddio

Awgrymiadau am yr Wythnos Groeso gan Raddedigion Bangor

Er mwyn eich sbarduno ar eich antur newydd yn y brifysgol, rydym wedi gofyn i'n cyn-fyfyrwyr pa gyngor y byddent yn ei roi i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau ar eu cyfnod ym Mangor. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?