Myfyrwyr yn ymlacio a chymdeithasu gyda'i gilydd yn Barlows, St Mary's

Cyrraedd Prifysgol Bangor ar ôl yr Wythnos Groeso

Gall myfyrwyr gofrestru ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau o 15 Ionawr hyd 15 Chwefror (dyddiad cofrestru olaf).

Cynhelir gwiriadau adnabod yn yr un lleoliad rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rhaid i fyfyrwyr Coleg Rhyngwladol Prifysgol Bangor fynd i'r coleg cyn mynd i wirio eu dogfennau adnabod.

Bydd cardiau myfyrwyr ar gael wrth gofrestru i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru ar-lein.

Os ydych wedi ymrestru ar ôl cyrraedd, bydd eich cerdyn myfyriwr ar gael yr wythnos ganlynol.

Gellir casglu cardiau BRP/fisa gan y tîm mewnfudo yn y mannau cofrestru unwaith y bydd cofrestru ar-lein a’r gwiriadau adnabod wedi eu cwblhau. Gwnewch yn siŵr bod gennych lythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref yn cadarnhau eich fisa.

Os ydych yn casglu eich BRP o Swyddfa'r Post rhaid i chi fynd yno cyn mynd i Lyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau i Gofrestru a Gwirio eich Dogfennau Adnabod.

Os nad oes gennych lety wedi'i archebu ar gyfer astudio ym Mhrifysgol Bangor, efallai y bydd lleoedd ar gael o hyd mewn Neuaddau Preswyl ar y campws. Ewch i'r Swyddfa Neuaddau ar safle Ffriddoedd neu ewch i https://www.bangor.ac.uk/llety am fwy o wybodaeth. E-bost Cyswllt: neuaddau@bangor.ac.uk

I'r rhai sy'n dymuno byw oddi ar y campws, mewn llety preifat, gall y swyddfa Llety Myfyrwyr yn Neuadd Rathbone ar Ffordd y Coleg helpu. Edrychwch ar https://www.bangorstudentpad.co.uk a chyfeiriad e-bost yr adran Llety Myfyrwyr yw taimyfyrwyr@bangor.ac.uk

Cysylltwch â'ch Tiwtor Personol yn eich ysgol ar ôl cyrraedd i dderbyn gwybodaeth bwysig ac i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Mae gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/cymorth-iechyd-a-lles

Mae gwybodaeth fanylach am lesiant a chefnogi myfyrwyr ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/index.php.cy

I fyfyrwyr rhyngwladol: Mae'r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn Neuadd Rathbone ar Ffordd y Coleg ac mae ar agor rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. E-bost: internationalsupport@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?